Lwfans Rhiant Gweddw
Printable version
1. Cymhwyster
Mae Lwfans Rhiant Gweddw (WPA) yn cael ei ddisodli gan Daliad Cymorth Profedigaeth.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dim ond os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2017 y gallwch wneud cais am WPA. Pan fu farw, mae’n rhaid eich bod chi a’ch partner naill ai wedi bod:
- yn briod neu mewn partneriaeth sifil
- yn cyd-fyw fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Os oeddech chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, rhaid bod eich partner wedi cael eu datgan yn farw yn ddiweddar. Bydd angen i chi gadarnhau achos marwolaeth.
Rhaid i bob un o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- rydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- talodd eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil gyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu eu bod wedi marw o ganlyniad i ddamwain diwydiannol neu afiechyd
- rydych yn gymwys i Fudd-dal Plant am o leiaf un plentyn
Gallwch hefyd hawlio WPA os oeddech yn feichiog pan fu farw eich gŵr, neu roeddech yn feichiog ar ôl driniaeth ffrwythlondeb pan fu farw eich partner sifil neu wraig.
Pryd ni allwch hawlio WPA
Ni allwch hawlio WPA os:
- oeddech wedi ysgaru neu wedi dod â’ch partneriaeth sifil i ben pan fu farw eich partner
- nad oeddech yn byw gyda’ch partner mwyach pan fu farw
- ydych wedi ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd
- ydych yn byw gyda pherson arall fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil gyda nhw
- oeddech dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan oeddech yn weddw neu pan ddaethoch yn bartner sifil sy’n goroesi � efallai y gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol
- ydych yn y carchar
2. Beth fyddwch yn ei gael
Bydd y swm a gewch yn seiliedig ar faint a dalodd eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Uchafswm Lwfans Rhiant Gweddw (WPA) yw £150.90 yr wythnos.
Os bu farw eich gŵr, gwraig neu barner sifil o ganlyniad i ddamwain diwydiannol neu afiechyd, efallai gallwch hawlio WPA hyd yn oed os nad oeddent wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Byddwch yn parhau i gael WPA hyd nes eich bod:
- bellach ddim yn gymwys i Fudd-dal Plant
- yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Sut mae WPA yn cael ei dalu
Fel arfer, mae WPA yn cael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Effaith ar fudd-daliadau eraill
Gall taliadau budd-dal eraill a gewch newid pan fyddwch yn dechrau hawlio WPA.
Unwaith y byddwch yn cael WPA, rhaid i chi roi gwybod os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Credyd Cynhwysol
Os nad ydych yn rhoi gwybod am eich newid ar unwaith,efallai y cewch y swm anghywir a bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy hefyd.
Y cap ar fudd-daliadau
²Ñ²¹±ð’r cap ar fudd-daliadau yn rhoi terfyn ar y cyfanswm o fudd-dal y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu hÅ·n sydd heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Nid yw rhai budd-daliadau unigol yn cael eu heffeithio, ond fe allai effeithio ar gyfanswm y budd-dal a gewch.
3. Sut i wneud cais
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
Rhaid i chi naill ai:
- lawrlwytho a llenwi ffurflen BB1](/government/publications/bereavement-benefits-claim-form.cy), os oeddech chi a’ch partner yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan wnaethant farw
- lawrlwytho a llenwi ffurflen BB2, os oeddech chi a’ch partner yn byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan wnaethant farw.
Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i:
Dover Benefit Centre
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1LA
Ffyrdd eraill i wneud cais
Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth i ofyn am fformatau amgen o’r pecyn cais, fel braille, print bras neu CD sain.
Llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth
Ffôn: 0800 151 2012
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Iaith Gymraeg: 0800 731 0453
Gwasanaeth cyfnewid fideo (BSL) os ydych ar gyfrifiadur � darganfyddwch sut i
Ffôn testun: 0800 731 0464
Iaith Gymraeg: 0800 731 0456
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon
Ffoniwch y and choose option 3.
Gallwch hefyd lawrlwytho a llenwi . Anfonwch ef i’r cyfeiriad ar y ffurflen gais.
Os ydych yn byw dramor
Cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol i ddarganfod a allwch wneud cais os ydych wedi symud dramor.
Canolfan Bensiwn Ryngwladol
Ffôn: +44 191 21 87608
Darganfyddwch am gostau galwadau
Department for Work and Pensions
Bereavement and widows� benefits
International Pension Centre
Tyneview Park
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1BA
Rhaid i chi gynnwys eich:
- enw llawn
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ei wybod)
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hwn hefyd yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol�.
4. Newid mewn amgylchiadau
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Ganolfan Budd-daliadau Dover os:
- nad ydych bellach yn gymwys i Fudd-dal Plant
- ydych yn ail-briodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
- ydych yn dechrau byw gyda phartner fel gŵr a gwraig, neu fel petaech wedi ffurfio partneriaeth sifil
Canolfan Budd-daliadau Dover
Ffôn: 0800 151 2012
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur � darganfyddwch sut i
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Dover Benefit Centre
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1LA
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, dywedwch wrth y yn lle.
Os ydych wedi cael eich talu gormod
Efallai bydd rhaid i chi dalu’r arian yn ôl os:
- na wnaethoch roi gwybod am newid yn syth
- ydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- cawsoch eich gordalu trwy gamgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus o ordaliad budd-dal.