Herio鈥檆h band Treth Gyngor
Ar ol i chi wneud her
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cadarnhau eu bod wedi cael eich her. Mae hyn fel arfer o fewn ychydig ddyddiau, ond weithiau gall gymryd hyd at 28 diwrnod.
Byddant yn adolygu eich her ac yn gwneud penderfyniad. Gall hyn gymryd hyd at 4 mis.
Os oes angen rhagor o wybodaeth ar y VOA byddant yn cysylltu 芒 chi.
Unwaith y byddant wedi gorffen yr adolygiad, byddant naill ai:
- yn newid eich band Treth Gyngor - bydd eich cyngor lleol yn diwygio鈥檆h bil ac yn addasu鈥檆h taliadau
- yn rhoi gwybod pam nad oes modd newid eich band
Os ydych yn anghytuno 芒鈥檙 penderfyniad
Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad mewn rhai achosion. Byddwch yn cael gwybod a allwch apelio a sut i wneud hyn pan fyddwch yn cael eich penderfyniad.
Os oes newid wedi bod sy鈥檔 effeithio ar eich eiddo
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y VOA.
Os ydych chi鈥檔 credu bod eich eiddo yn y band anghywir
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y VOA dim ond os:
- rydych wedi bod yn eich eiddo ac yn talu Treth Gyngor am lai na 6 mis
- mae eich band wedi newid yn ystod y 6 mis diwethaf
Pryd fydd angen i chi apelio
Os gallwch apelio, fel arfer bydd angen i chi wneud hyn o fewn 3 mis o gael y penderfyniad.
O dan rai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gallu cael y terfyn amser wedi鈥檌 ymestyn. Bydd angen i chi egluro pam fod angen estyniad arnoch ar y ffurflen ap锚l.
Sut i apelio yn erbyn penderfyniad
Yn Lloegr, gallwch . Mae鈥檙 Tribiwnlys Prisio yn annibynnol ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae am ddim, ond mae鈥檔 rhaid i chi dalu鈥檆h costau eich hun.
Os yw鈥檙 Tribiwnlys yn cytuno 芒 chi, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn newid eich band a bydd y cyngor yn diweddaru鈥檆h bil.
Os ydych yng Nghymru, anfonwch ef at .
Dod o hyd i help
Mae gan y Tribiwnlys Prisio arweiniad ar y canlynol:
Gallwch hefyd gysylltu 芒鈥檙 tribiwnlys am help.
Tribiwnlys Prisio
Ff么n: 0300 123 2035
Dysgwch am gostau galwadau