Help gyda symud o fudd-daliadau i waith
Printable version
1. Trosolwg
Cael cymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith er mwyn eich helpu i baratoi am, dod o hyd i ac aros mewn gwaith, gan gynnwys:
- chwiliad gwaith a hyfforddiant
- profiad gwaith, gwirfoddoli a chynlluniau treialon gwaith
- help gyda dechrau busnes eich hun
- help i gyfuno gwaith gydag edrych ar ôl plant neu gyfrifoldebau gofalu
- help ychwanegol i broblemau penodol
Efallai y byddwch hefyd yn gallu parhau i gael rhai budd-daliadau unwaith y byddwch yn dechrau gweithio.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cymorth i bobl anabl
Siaradwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol os ydych yn anabl neu gyda chyflwr iechyd hirdymor. Gallant eich helpu i ddod o hyd i swydd neu i ennill sgiliau newydd, a dweud wrthych am raglenni penodol i’ch helpu yn ôl mewn i waith.
Efallai y gallwch gael grant Mynediad at Waith i dalu am:
- offer arbennig, addasiadau neu help gan weithiwr cymorth i’ch helpu i wneud pethau fel ateb y ffôn neu fynd i gyfarfodydd
- help i deithio i ac o’r gwaith
- cefnogaeth iechyd meddwl
- Cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd (er enghraifft, dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu ddarllenwr gwefusau)
2. Chwiliad gwaith a hyfforddiant
Gall eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith rhoi mwy o wybodaeth i chi am hyfforddiant a’ch helpu i baratoi am, dod o hyd i ac aros mewn gwaith.
Help ar gyfer mathau penodol o waith
Mae academïau gwaith sy’n seiliedig ar y sector yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith am hyd at 6 wythnos mewn diwydiant neu faes gwaith penodol.
Mae’r rhan fwyaf o academïau hefyd yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer swydd neu brentisiaeth.
Maent ar gael i chi os ydych yn hawlio unrhyw un o’r canlynol oherwydd eich bod yn ddi-waith:
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) (os ydych yn y Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith)
- Credyd Cynhwysol
Clybiau gwaith
Gall unrhyw un sy’n ddi-waith ymuno â Chlwb Gwaith. Maent yn cael eu rhedeg gan sefydliadau lleol fel cyflogwyr a grwpiau cymunedol ac yn rhoi’r cyfle i chi rhannu gwybodaeth, profiad ac awgrymiadau chwilio am waith.
3. Profiad gwaith a threialon
Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod mwy am gyfleoedd sy’n gallu gwella eich cyfleoedd o ddod o hyd i waith, gan gynnwwys profiad gwaith a threialon gwaith.
Efallai gallech gael help gyda chostau fel gofal plant a theithio.
Profiad gwaith
Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Credyd Cynhwysol, gallwch gael profiad gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith.
Gall profiad gwaith barhau rhwng 2 ac 8 wythnos ac fel arfer bydd disgwyl i chi weithio rhwng 25 a 30 awr yr wythnos. Byddwch yn parhau i gael eich taliad JSA neu Gredyd Cynhwysol cyn belled â’ch bod yn parhau i chwilio am waith.
Efallai gallech hefyd yn medru cael help gan y Ganolfan Byd Gwaith am gostau sy’n gysylltiedig â phrofiad gwaith, er enghraifft ar gyfer teithio neu ofal plant.
Treialon gwaith
Mae treial gwaith yn rhoi’r cyfle i chi brofi swydd a pharhau i gael budd-daliadau. Gall bara am hyd at 30 diwrnod, ac efallai byddwch yn cael cynnig o swydd ar y diwedd.
Mae treialon gwaith yn wirfoddol, ac ni fydd eich budd-daliadau’n cael eu heffeithio os byddwch yn gorffen yn gynnar neu’n gwrthod swydd sy’n cael ei chynnig i chi.
Gall eich Canolfan Byd Gwaith drefnu treial gwaith i chi, neu gofynnwch iddynt am sut i wneud hyn eich hunain.
Gwaith ar Brawf
Mae Gwaith ar Brawf yn eich caniatáu i adael swydd a dechrau hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) eto heb iddo effeithio ar eich budd-dal (oni bai y byddwch yn cael eich diswyddo neu’n gadael oherwydd camymddygiad.
Rhaid eich bod wedi gweithio mwy na 16 awr yr wythnos am rhwng 4 a 12 wythnos cyn gadael y swydd.
4. Dechrau neu redeg busnes eich hun
Gallwch gael help i:
- ddechrau busnes eich hun
- ddatblygu eich busnes, os ydych eisoes yn hunangyflogedig
Gallwch gael cymorth gan
- sefydliadau lleol � gofynnwch i’ch anogwr gwaith Canolfan Byd Gwaith am fwy o wybodaeth
- cynlluniau cefnogaeth busnes wedi eu cefnogi gan y llywodraeth
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol
Efallai y gallwch gael ‘cyfnod cychwyn� 12 mis os ydych yn hunangyflogedig.
Yn ystod cyfnod cychwyn, ni waeth faint rydych yn ei ennill:
- mae eich taliadau Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion misol
- nid oes angen i chi chwilio am waith arall
- cewch gefnogaeth gan anogwr gwaith sydd wedi’i hyfforddi i weithio gyda’r hunangyflogedig
Gall eich anogwr gwaith cyfredol ddweud wrthych a ydych yn gymwys.
Darllenwch fwy am hawlio Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn hunangyflogedig.
Os oes gennych fusnes eisoes sy’n llai na 2 mlwydd oed
Efallai y gallwch gael Benthyciad Cychwyn Busnes.
Os ydych chi’n anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd
Efallai y gallwch gael cefnogaeth ychwanegol trwy grant Mynediad at Waith.
5. Help i rieni a gofalwyr
Gall eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith dweud wrthych am y gefnogaeth gallech ei gael er mwyn eich helpu i gyfuno gwaith gydag edrych ar ôl plant neu gyfrifoldebau gofalu.
Help i rieni
Gall rhieni gael help gyda chostau gofal plant wrth symud o fudd-daliadau i waith.
Help i ofalwyr
Mae Cymorth Paratoi at Waith i Ofalwyr yn darparu help a chefnogaeth i chi symud yn llwyddiannus i mewn i waith, gan gynnwys mynediad at hyfforddiant a chyngor am chwilio am waith a cheisiadau.
Efallai y gallech gael help gyda’r gost o ofal newydd tra rydych yn cymryd rhan mewn hyfforddiant neu’n mynychu cyfweliadau.
6. Help gyda phroblemau cyffuriau ag alcohol
Efallai y gallech gael cymorth ychwanegol os oes gennych broblemau cyffuriau neu alcohol sy’n eich atal rhag gweithio.
Gall eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith ddweud wrthych am yr help sydd ar gael gan weithwyr proffesiynol trin cyffuriau neu alcohol yn eich ardal, a’ch cyfeirio at eu gwasanaethau os ydych eisiau.
Mae’r help hwn ar gael i unrhyw un sy’n cael budd-daliadau.
7. Cymorth pan fyddwch yn dechrau gweithio
Nid yw dychwelyd i’r gwaith yn golygu rhoi’r gorau i’ch budd-daliadau i gyd. Gall rhai budd-daliadau parhau, a gall eraill fod ar gael unwaith rydych yn gweithio.
Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych wedi dod o hyd i swydd ac rydych chi neu’ch partner wedi bod yn cael:
Bydd eich anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith yn eich helpu i reoli eich symudiad i mewn i waith, a threfnu newidiadau i’ch budd-daliadau eraill, gan gynnwys credydau treth. Bydd beth allwch ei gael yn dibynnu ar ba mor hir roeddech yn hawlio’r budd-daliadau hyn heb seibiant.
Nid oes yn rhaid i chi lenwi unrhyw ffurflenni, ond gwnewch yn siŵr bod gennych fanylion eich incwm, eich cynilion ac unrhyw daliadau rhent wrth law.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld sut mae dechrau swydd neu gynyddu eich oriau gwaith yn effeithio ar eich budd-daliadau.
Help gyda thai
Yn dibynnu ar ba mor hir rydych wedi bod yn hawlio budd-daliadau, efallai y gallwch gael:
Mae’r taliadau hyn yn darparu cymorth am hyd at 4 wythnos pan fyddwch yn dechrau swydd newydd ac yn dechrau ennill cyflog. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael gostyngiadau estynedig ar eich Treth Cyngor.
Os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd
Efallai y gallwch gael cefnogaeth ychwanegol trwy grant Mynediad at Waith.