Help i dalu am ofal plant
Credydau treth a gofal plant
Os ydych eisoes yn hawlio credydau treth, gallwch ychwanegu swm ychwanegol o Gredyd Treth Gwaith (yn agor tudalen Saesneg) i helpu i dalu am gostau gofal plant.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 naill a鈥檙 llall o鈥檙 canlynol fod yn berthnasol:
-
mae eich plentyn mewn gofal plant cymeradwy
-
mae鈥檙 gofal plant yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb, nid ar-lein
Os oes gennych blentyn a鈥檆h bod eisoes yn hawlio Credyd Treth Gwaith, gallwch hefyd hawlio Credyd Treth Plant (yn agor tudalen Saesneg).
Diweddaru鈥檆h hawliad credyd treth i gael help gyda gofal plant
Cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF) i ddiweddaru eich hawliad credyd treth - does dim angen ffurflen hawlio arnoch.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEF am newidiadau i鈥檆h amgylchiadau, er enghraifft bod eich costau gofal plant yn dod i ben neu鈥檔 newid o 拢10 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd.
Mae鈥檔 rhaid i chi adnewyddu eich hawliad bob blwyddyn. Cewch nodyn i鈥檆h atgoffa.