Gyrru cartref modur

Mae arnoch angen y drwydded gywir i yrru cartref modur neu fan gwersylla, ac mae angen i鈥檆h cerbyd fod o fewn terfynau maint y DU.

Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael聽yn Saesneg (English).

Gofynion trwydded

Mae鈥檙 drwydded sydd ei hangen arnoch i yrru cartref modur yn dibynnu ar eich oedran ac uchafswm m脿s awdurdodedig (MAM) y cerbyd. Dyma bwysau鈥檙 cerbyd ynghyd 芒鈥檙 llwyth mwyaf y gall ei gario.

I yrru cartref modur gyda MAM rhwng 3.5 a 7.5 tunnell, mae arnoch angen trwydded categori C1.

I yrru cartref modur gyda MAM dros 7.5 tunnell, mae arnoch angen trwydded categori C.

Gwiriwch pa gerbydau y gallwch eu gyrru 补鈥檙 gofynion trwydded ac oedran ar gyfer tynnu cerbydau.

.

Mewnforio cartref modur a therfynau maint

I fewnforio cartref modur i鈥檙 DU yn barhaol bydd angen ichi ei gofrestru.

Mae maint cartrefi modur wedi鈥檌 gyfyngu yn y DU - ni allwch gofrestru un sy鈥檔 fwy na 12 metr o hyd a 2.55 metr o led.

Nid yw鈥檙 mesuriadau鈥檔 cynnwys drychau gyrru, bymperi cefn, lampau nac adlewyrchyddion.

Nid oes terfyn uchder, ond os yw鈥檙 cartref modur dros 3 metr o daldra mae鈥檔 rhaid ichi gael hysbysiad yn dangos yr uchder lle gall y gyrrwr ei weld.