Gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol
Printable version
1. Atwrneiaeth arhosol
Gallwch wrthwynebu cofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA).
Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).
Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd ddweud wrth y Llys Gwarchod.
Mae sut rydych yn gwrthwynebu yn dibynnu ar bwy ydych chi a pham eich bod yn gwrthwynebu.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwrthwynebu os mai chi yw’r rhoddwr
Llenwch y ffurflen wrthwynebu (LPA006) a’i hanfon at OPG. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Gwrthwynebu os ydych yn atwrnai neu’n ‘unigolyn i’w hysbysu�
Byddwch yn cael llythyr gan y rhoddwr neu un o’u hatwrneiod yn dweud wrthych eu bod eisiau cofrestru’r LPA. Gallwch wneud ‘gwrthwynebiad ffeithiol� neu wrthwynebiad ar ‘seiliau rhagnodedig�.
Gwrthwynebiadau ffeithiol
Gallwch wrthwynebu os:
- yw’r rhoddwr neu’r atwrnai wedi marw
- roedd y rhoddwr a’r atwrnai yn briod neu mewn partneriaeth sifil ond maent wedi ysgaru neu wedi dod â’r bartneriaeth sifil i ben
- nid oes gan atwrnai y gallu meddyliol i fod yn atwrnai
- mae’r atwrnai wedi dewis rhoi’r gorau i weithredu (a elwir weithiau yn ‘ymwrthod â’u penodiad �)
- mae’r rhoddwr neu’r atwrnai yn fethdalwr, yn fethdalwr dros dro neu’n destun gorchymyn rhyddhad dyled (atwrneiod eiddo a materion ariannol yn unig)
Llenwch y ffurflen wrthwynebu (LPA007) a’i hanfon at OPG. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Mae’n rhaid i chi wrthwynebu cyn pen 3 wythnos ar ôl cael gwybod am y cofrestriad.
Gwrthwynebiadau rhagnodedig
Gallwch wrthwynebu’r cofrestriad os ydych yn meddwl:
- nad yw’r LPA yn gywir yn gyfreithiol
- nad ydych yn credu bod gan y rhoddwr alluedd meddyliol i wneud LPA
- bod y rhoddwr wedi diddymu eu LPA pan oeddent wedi adennill eu galluedd
- bod twyll wedi digwydd, e.e. rhywun wedi ffugio llofnod y rhoddwr
- roedd pwysau ar y rhoddwr i wneud LPA
- bod atwrnai yn gweithredu yn erbyn buddiannau pennaf y rhoddwr
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi unrhyw rai o’r gwrthwynebiadau hyn.
Llenwch y canlynol:
- ffurflen hysbysu (LPA008) a’i hanfon at OPG (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen)
- ffurflen wrthwynebu (COP7), gwnewch gopi ohoni ac anfonwch y gwreiddiol a’r copi i’r Llys Gwarchod (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen)
Nid yw’n costio dim i wrthwynebu os ydych yn atwrnai neu’n unigolyn i’w hysbysu.
Gwrthwynebu os nad ydych yn atwrnai neu’n ‘unigolyn i’w hysbysu�
Llenwch y ffurflen wrthwynebu (COP1), gwnewch gopi ohoni ac anfonwch y gwreiddiol a’r copi i’r Llys Gwarchod.
Anfonwch siec o £421 yn daladwy i ‘Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM� gyda’ch ffurflenni.
Llys Gwarchod
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA
Gostyngiad neu esemptiad o’r ffi
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.
Lawrlwythwch y ffurflen i gadarnhau eich bod yn gymwys ac i wneud cais.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar ôl i chi anfon y ffurflenni ac unrhyw ffioedd, bydd OPG neu’r Llys Gwarchod yn cysylltu â chi. Byddant yn dweud wrthych os:
- byddant yn atal y cofrestriad
- bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal i drafod eich gwrthwynebiad
2. Atwrneiaeth barhaus
Gallwch wrthwynebu cofrestru atwrneiaeth barhaus (EPA).
Mae 2 ffordd i wrthwynebu - mae’r un a ddefnyddiwch yn dibynnu ar p’un a ydych wedi cael llythyr swyddogol yn dweud bod rhywun eisiau cofrestru’r EPA.
Gwrthwynebu os ydych wedi cael llythyr swyddogol
Bydd y rhoddwr a rhai o’u perthnasau yn cael llythyr yn dweud wrthynt bod atwrnai’n bwriadu cofrestru EPA.
Os ydych chi yn un o’r bobl hyn, gallwch wrthwynebu’r cofrestriad os ydych yn credu:
- nad yw’r EPA yn gywir yn gyfreithiol, e.e. nid oedd wedi’i lofnodi’n gywir ac nid oedd tyst yn bresennol
- nid oedd gan y rhoddwr alluedd meddyliol pan wnaed yr EPA
- diddymodd y rhoddwr eu EPA pan oedd ganddynt alluedd meddyliol
- roedd twyll wedi digwydd, e.e. cafodd llofnod y rhoddwr ar yr EPA ei ffugio
- roedd pwysau ar y rhoddwr i wneud EPA
- mae gan y rhoddwr alluedd meddyliol o hyd felly ni ddylai’r EPA gael ei chofrestru
- mae atwrnai’n gweithredu uwchlaw ei awdurdod neu yn erbyn buddiannau gorau’r rhoddwr
Llenwch ac anfonwch y:
- ffurflen wrthwynebu (EP3PG) i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) - mae’r cyfeiriad ar y ffurflen
- ffurflen wrthwynebu (COP8) i’r Llys Gwarchod
Llys Gwarchod
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA
Rhaid i chi wrthwynebu o fewn 5 wythnos i chi gael y llythyr yn dweud wrthych am y cofrestriad.
Gwrthwynebu os na gawsoch lythyr swyddogol
Gallwch wrthwynebu os nad ydych yn credu y dylid cofrestru’r EPA.
Llenwch ac anfonwch ffurflen gais (COP1) i’r Llys Gwarchod. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Anfonwch siec o £421 yn daladwy i’r ‘Llys Gwarchod�.
Rhaid i chi hefyd ysgrifennu at yr OPG i ddweud wrthynt pam eich bod yn gwrthwynebu’r cofrestriad.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Gostyngiad neu esemptiad o’r ffi
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.
Gwnewch gais am ostyngiad neu esemptiad Os ydych yn gymwys.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd OPG neu’r Llys Gwarchod yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod iddynt dderbyn eich gwrthwynebiad. Byddant yn rhoi gwybod pa gamau y bydd angen i chi eu cymryd nesaf.