Gwneud penderfyniadau dros rywun
Printable version
1. Pryd y gallwch wneud penderfyniadau dros rywun
Gall rhywun eich dewis i wneud a gweithredu penderfyniadau penodol ar eu rhan.
Medrant ofyn i chi wneud hyn:
- nawr � er enghraifft, pan fyddant ar wyliau
- yn y dyfodol � er enghraifft, os ydynt yn colli galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hunain
Gallwch hefyd wneud cais i’r llys i helpu rhywun i wneud penderfyniadau os nad oes ganddynt alluedd meddyliol nawr.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pryd y gall rhywun eich dewis
Rhaid i berson fod â galluedd meddyliol pan fyddant yn eich dewis i’w helpu i wneud penderfyniadau tymor byr neu dymor hir.
Cymorth tymor byr
Gallwch gael eich penodi i wneud penderfyniadau am arian neu eiddo rhywun am gyfnod penodol � er enghraifft, tra bydd y person ar wyliau.
Medrant eich penodi naill ai drwy:
- atwrneiaeth arhosol ar gyfer ‘eiddo a materion ariannol� � bydd y person yn dweud pryd y bydd yn dechrau ac yn dod i ben
- ‘atwrneiaeth gyffredin� � gallwch ond defnyddio’r pŵer hwn tra bydd gan y person alluedd meddyliol
I wneud atwrneiaeth gyffredin, bydd angen i’r person sy’n eich penodi brynu dogfen o siop bapur newydd neu defnyddio cyfreithiwr.
Cymorth tymor hir
Gellir eich penodi drwy atwrneiaeth arhosol i helpu rhywun i wneud penderfyniadau dydd i ddydd ar:
- arian ac eiddo � gan ddechrau ar unrhyw adeg, neu pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol
- iechyd a lles � gan ddechrau pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol
Gallwch hefyd helpu rhywun gyda phenderfyniadau dydd i ddydd yn defnyddio atwrneiaeth barhaus a wnaed cyn 1 Hydref 2007.
Wrth wneud cais i’r llys
Gwneud cais i’r llys i helpu rhywun heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau untro’n unig, neu rai tymor hir
Dylid gwirio a oes gan rywun atwrnai neu ddirprwy’n barod i’w helpu i wneud penderfyniadau, cyn gwneud cais. Os oes ganddynt atwrnai neu ddirprwy, dylech ofyn iddyn nhw’n hytrach am gymorth.
Penderfyniadau untro’n unig
Rhaid gofyn i’r Llys Gwarchod wneud:
- penderfyniad untro am fater os nad yw’n un brys
- penderfyniad brys neu argyfwng am fater sy’n eu rhoi mewn perygl
Os yw’r penderfyniad yn un am driniaeth feddygol, rhaid i chi ystyried unrhyw ewyllys byw () y mae’r person wedi ei wneud.
Cymorth tymor hir
Dylid gwneud cais i’r Llys Gwarchod i helpu rhywun i wneud penderfyniadau tymor hir ar:
- arian ac eiddo � fel ‘dirprwy eiddo a materion ariannol�
- iechyd a lles � fel ‘dirprwy lles personol�
2. Sut i wneud penderfyniadau
Fel atwrnai neu ddirprwy rhywun, rhaid i chi:
- roi’r holl gymorth sydd ei angen arnynt i wneud bob penderfyniad cyn penderfynu nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw drostynt eu hunain
- gwneud penderfyniadau ar sail eu lles gorau bob tro
- gwneud penderfyniadau sy’n cyfyngu cyn lleied â phosib ar eu hawliau dynol a sifil
Helpu rhywun i wneud penderfyniadau
Rhoi’r holl wybodaeth sydd ei angen arnynt i wneud penderfyniad.
Dylech ei gwneud yn hawdd iddynt ddeall a phwyso a mesur y wybodaeth, er enghraifft:
- drwy roi digon o amser iddynt
- drwy ddewis amser sy’n addas iddynt
- drwy siarad yn rhywle cyfarwydd � er enghraifft yn eu cartref
- drwy wneud i ffwrdd ag unrhyw aflonyddwch, fel sŵn cefndir
- drwy egluro pethau mewn ffordd wahanol � drwy luniau neu iaith arwyddion er enghraifft
Dylech awgrymu ffyrdd gwahanol y medrant gyfleu eu penderfyniad i chi os na fedrant ddefnyddio geiriau � er enghraifft, drwy bwyntio, gwasgu eich llaw, blincio neu amneidio’r pen.
Gwneud penderfyniadau ar sail lles gorau rhywun
Rhaid i unrhyw benderfyniad a wnewch dros rywun fod ar sail lles gorau (‘beth fyddai er lles gorau iddynt�). Rhaid ystyried:
- beth y bydden nhw wedi’i benderfynu pe gallent wneud hynny
- eu gwerthoedd a’u dymuniadau blaenorol a phresennol, gan gynnwys barn foesol, wleidyddol a chrefyddol y person
Peidiwch â rhagdybio pethau ar sail eu hoed, rhywedd, cefndir ethnig, rhywioldeb, ymddygiad neu iechyd.
Gall fod o gymorth os byddwch yn:
- nodi ar bapur beth a ddywedodd y person sy’n bwysig iddyn nhw
- edrych ar bethau eraill y gwnaethant ei roi ar bapur neu ei gofnodi (fel cyllideb y cartref neu fideos cartref)
- siarad gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sy’n eu hadnabod yn dda
- siarad gydag unrhyw un sy’n rhan o’u gofal, er enghraifft, gofalwyr personol neu staff cartref gofal
- sylwi ar eu hymddygiad ac ymatebion � gall hyn ddweud wrthych beth yw eu dymuniadau neu deimladau os na fedrant fynegi hynny mewn geiriau
Hawliau dynol a sifil
Rhaid i’ch penderfyniadau gyfyngu cyn lleied â phosib ar hawliau dynol a sifil y person. Mae gan Cyngor ar Bopeth .
Ni allwch byth wneud penderfyniadau dros rywun ynghylch rhai pethau fel:
- pleidleisio
- perthnasoedd � er enghraifft cydsynio i gael rhyw, i briodi neu cael ysgariad
Dylid dilyn cod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol wrth wneud penderfyniadau.
Penderfyniadau anodd ac anghytuno
Dylid trafod gyda’r person a hefyd gyda’u teulu, ffrindiau a gofalwyr. Bydd cynnwys pawb mewn cyfarfod ‘lles gorau� yn eich helpu i ddod i gytundeb.
Os na allwch ddod i gytundeb, gallwch:
- gofyn am gyngor ar sut i ddod i gytundeb gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- gofyn am gymorth gan eiriolwr a allai gynrychioli lles gorau’r person
- gofyn am gymorth gan y tîm gwasanaethau cymdeithasol yn eich cyngor lleol os yw’r anghytundeb yn ymwneud â gofal y person
- gofyn i’r Llys Gwarchod benderfynu os yw’n anghytundeb sylweddol am fater difrifol
3. Gwirio galluedd meddyliol
Efallai na fydd gan berson alluedd meddyliol oherwydd problem gyda’r ffordd y mae eu hymennydd yn gweithio, er enghraifft:
- anaf difrifol i’r ymennydd
- salwch fel dementia
- anableddau dysgu difrifol
Gall galluedd meddyliol fynd a dod (er enghraifft gyda dementia a rhai mathau eraill o salwch meddwl). Gall person hefyd adennill eu galluedd meddyliol (er enghraifft, yn dilyn strôc ddrwg).
Beth y mae’n rhaid i chi ei wirio
Rhaid i chi wirio bod gan berson alluedd meddyliol i wneud penderfyniad ar yr adeg y mae angen gwneud y penderfyniad.
Medrant wneud y penderfyniad os ydynt:
- yn deall y wybodaeth sydd ei angen arnynt � er enghraifft, beth fydd y canlyniadau
- yn cofio’r wybodaeth am ddigon hir i wneud y penderfyniad
- yn pwyso a mesur yr opsiynau ac yn gwneud dewis
- yn cyfathrebu eu penderfyniad mewn unrhyw ffordd � er enghraifft, drwy wasgu llaw / blincio
Ni allwch benderfynu bod person heb alluedd oherwydd y credwch eu bod wedi gwneud penderfyniad gwael neu ryfedd.
Os na all y person wneud penderfyniad ar adeg benodol, medrant er hynny:
- ei wneud rhywdro arall
- gwneud penderfyniadau am bethau eraill
Peidiwch â gwneud penderfyniad drostynt os gall aros tan y medrant ei wneud eu hunain.
Cymorth i wirio galluedd meddyliol
Gallwch ofyn i feddyg y person neu i weithiwr meddygol proffesiynol arall asesu eu galluedd meddyliol.
Dylid dilyn cod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol wrth wirio galluedd meddyliol rhywun.