Amnewid trwydded yrru os yw ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio

Printable version

1. Gwneud cais ar-lein

Gallwch amnewid eich:

  • trwydded yrru lawn
  • trwydded yrru dros dro

Mae trwydded newydd yn costio 拢20. Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta.

Os gwnaethoch gais am eich trwydded yrru dros dro ddiwethaf cyn 1 Mawrth 1973, bydd angen ichi ddilyn y broses i wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf yn lle.

Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Nid oes angen gwrthddalen bapur eich trwydded arnoch.

Cyn ichi ddechrau

Dylech gysylltu 芒鈥檙 heddlu os yw鈥檆h trwydded yrru wedi cael ei dwyn.

I amnewid eich trwydded bydd rhaid ichi:

  • fod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (mae gwasanaeth gwahanol i gael yng )
  • peidio 芒 bod wedi鈥檆h gwahardd rhag gyrru am unrhyw reswm

Bydd angen ichi ddarparu cyfeiriadau lle rydych wedi byw yn y 3 mlynedd diwethaf ac, os ydych yn eu gwybod, eich:

  • rhif trwydded yrru
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif pasbort

Eich ffotograff

Os yw eich trwydded yrru yn dod i ben o fewn 2 flynedd, bydd DVLA yn rhoi鈥檙 dewis ichi ddefnyddio ffotograff newydd ar y drwydded amnewid.

Gallwch wneud un o鈥檙 canlynol:

  • cadw eich ffotograff presennol
  • defnyddio eich ffotograff pasbort

Gallwch ddefnyddio eich ffotograff pasbort dim ond os yw pob un o鈥檙 canlynol yn wir:

  • mae eich trwydded yrru yn dod i ben o fewn 2 flynedd
  • mae gennych basbort y DU dilys - bydd angen ichi ddarparu eich rhif pasbort
  • rydych yn rhoi caniat芒d i DVLA ddefnyddio eich ffotograff

Bydd DVLA yn rhoi gwybod ichi os oes angen ichi roi ffotograff newydd iddynt a sut i鈥檞 anfon iddynt.

Gallwch sicrhau bod y ffotograff ar eich trwydded yn cael ei ddiweddaru drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth adnewyddu ffotograff trwydded yrru.

Ar 么l ichi wneud cais

Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Beth i鈥檞 wneud os ydych yn dod o hyd i鈥檆h hen drwydded yn ddiweddarach

Mae鈥檔 rhaid ichi ddychwelyd eich hen drwydded i DVLA yn esbonio beth sydd wedi digwydd os ydych yn dod o hyd iddi ar 么l gwneud cais am un amnewid neu鈥檔 derbyn un amnewid.

Anfonwch eich hen drwydded yrru i:

DVLA
Abertawe
SA99 1AB

2. Gwneud cais dros y ff么n neu drwy鈥檙 post

Gallwch hefyd wneud cais i amnewid eich trwydded dros y ff么n neu drwy鈥檙 post.

Gwneud cais dros y ff么n

Gallwch gysylltu 芒 DVLA i wneud cais dros y ff么n os:

  • oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun

  • nad oes unrhyw un o鈥檆h manylion wedi newid

Ni allwch wneud cais dros y ff么n os yw鈥檆h trwydded wedi鈥檌 difetha, neu os yw鈥檔 dod i ben mewn llai na 56 diwrnod (90 diwrnod os yw鈥檔 dod i ben am resymau meddygol).

Gwneud cais drwy鈥檙 post

Ar gyfer trwydded gar neu feic modur, llenwch ffurflen D1W 鈥楥ais am drwydded yrru鈥�, ar gael o鈥檙 rhan fwyaf o .

Ar gyfer trwydded yrru lori neu fws, llenwch ffurflen D2W 鈥楥ais am drwydded yrru lori/bws鈥�, ar gael o鈥檙 gwasanaeth archebu ffurflenni DVLA.

Yna bydd angen ichi anfon eich cais i鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen ynghyd 芒鈥檙 ffi gywir (a ddangosir hefyd ar y ffurflen).

Os yw鈥檆h enw wedi newid bydd hefyd angen ichi anfon dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau hyn.

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Bydd hefyd angen ichi: