Cael eich trwydded yrru lawn

Pan fyddwch yn pasio eich prawf gyrru ymarferol, bydd DVLA fel arfer yn anfon eich trwydded lawn atoch yn awtomatig.

Ar 么l y prawf, bydd yr arholwr yn:

  1. Cymryd eich trwydded yrru cerdyn-llun dros dro.

  2. Rhoi tystysgrif pasio prawf gyrru ichi.

  3. Trefnu i DVLA anfon eich trwydded lawn atoch.

Gallwch ddechrau gyrru cyn gynted ag y byddwch wedi pasio鈥檙 prawf ymarferol.

Tra rydych yn aros i鈥檙 drwydded lawn gyrraedd, gallwch ddefnyddio鈥檙 tystysgrif pasio prawf gyrru i brofi eich bod wedi鈥檌 basio.

Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pan fydd angen ichi wneud cais am drwydded yrru lawn

Bydd dim ond angen ichi wneud cais am eich drwydded yrru lawn os:

  • na roesoch eich trwydded yrru cerdyn-llun dros dro i鈥檙 arholwr ar 么l y prawf, er enghraifft oherwydd bod angen ichi ei defnyddio fel ID

  • ydych wedi newid eich enw neu gyfeiriad ac mae bellach yn wahanol i鈥檙 enw neu鈥檙 cyfeiriad ar y drwydded yrru cerdyn-llun dros dro

  • os oes gennych drwydded yrru dros dro steil hen (un a gyhoeddwyd cyn 1998)

Fel arall, bydd yn cael ei hanfon atoch yn awtomatig.

Sut i wneud cais

Os ydych yn gwneud cais am drwydded lawn, bydd angen ichi:

  • lofnodi鈥檙 datganiad ar eich tystysgrif pasio prawf gyrru

  • llenwi ffurflen D1W 鈥榗ais am drwydded yrru鈥� - gallwch gael un o

  • cynnwys dogfennau gwreiddiol sy鈥檔 cadarnhau eich hunaniaeth

  • cynnwys ffotograff pasbort (dim ond os oes gennych trwydded dros dro bapur)

  • cynnwys eich trwydded dros dro

Anfonwch yr holl ddogfennau i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BN

Os ydych yn gwneud cais am drwydded lawn drwy鈥檙 post, rhaid ichi anfon dogfennau i DVLA o fewn 2 flynedd o basio eich prawf neu bydd rhaid ichi ei sefyll eto.