Canllawiau

Cyfrifwch eich incwm cymhwysol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch yr hyn sy鈥檔 cyfrif fel incwm cymhwysol o hunangyflogaeth ac eiddo ar gyfer ddefnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Cyfrifo鈥檆h incwm cymhwysol

Eich incwm cymhwysol yw cyfanswm yr incwm a gewch mewn blwyddyn dreth drwy hunangyflogaeth ac eiddo.

Nid yw ffynonellau incwm eraill a ddatgenir drwy Hunanasesiad, megis incwm o gyflogaeth (TWE), partneriaeth neu ddifidendau (gan gynnwys y rhai o鈥檆h cwmni eich hun), yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Bydd CThEF yn asesu鈥檆h incwm gros (a elwir hefyd yn trosiant), cyn i chi ddidynnu treuliau.

Er enghraifft, gallai eich incwm gros (incwm cyn i chi ddidynnu treuliau) fod yn:

  • 拢25,000 o incwm rhent
  • 拢27,000 o incwm hunangyflogaeth

Yn yr enghraifft hon, cyfanswm eich incwm cymhwysol fyddai 拢52,000.

Sut y bydd CThEF yn asesu鈥檆h incwm cymhwysol

I asesu鈥檆h incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth, byddwn yn edrych ar y Ffurflen Dreth Hunanasesiad roedd yn rhaid i chi ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn flaenorol a gyflwynwyd gennych yn y flwyddyn dreth flaenorol.

Er enghraifft, i asesu鈥檆h incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, byddwn yn edrych ar y Ffurflen Dreth mae angen i chi ei chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2026. Mae鈥檙 Ffurflen Dreth hon ar gyfer y flwyddyn dreth 2024 i 2025.

Nid oes angen i chi ddechrau defnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tan ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad gyntaf.聽

Ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth, byddwn yn gwirio a yw鈥檆h incwm cymhwysol yn fwy na 拢30,000. Os ydyw, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd yn rhaid i chi ddechrau defnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os ydych eisoes yn defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ac yn dechrau busnes newydd

Nid oes angen i chi ddefnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer busnes newydd nes i chi gyflwyno Ffurflen Dreth sy鈥檔 cynnwys yr incwm o鈥檙 busnes newydd hwnnw.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn dechrau busnes newydd ym mis Mai 2026. Eich Ffurflen Dreth gyntaf a fydd yn cynnwys yr incwm o鈥檙 busnes hwn fydd y Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, y byddai angen i chi ei chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2028. Bydd angen i chi ddefnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer y busnes hwn o 6 Ebrill 2028 ymlaen.

Fodd bynnag, gallwch ddewis i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol ar gyfer y busnes newydd o鈥檙 adeg y bydd yn dechrau.

Os yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn hirach neu鈥檔 fyrrach na 12 mis

Os oes gennym y data, byddwn yn cyfrif eich incwm cymhwysol yn flynyddol.

Er enghraifft, os ydych wedi dod yn unig fasnachwr, ond dim ond am 6 mis rydych wedi bod yn masnachu yn ystod eich blwyddyn dreth gyntaf, byddwn yn dyblu eich incwm i gyfrifo鈥檆h incwm cymhwysol.

Yr hyn sydd wedi鈥檌 gynnwys yn eich incwm cymhwysol

Os ydych yn cael incwm o eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd

Bydd eich cyfran chi o鈥檙 incwm o eiddo yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Er enghraifft:

  • rydych yn berchen ar eiddo ar y cyd gyda鈥檆h brawd neu chwaer, a bod yr eiddo hwnnw yn cynhyrchu 拢50,000 mewn incwm
  • mae鈥檙 ddau ohonoch yn cael cyfran gyfartal
  • nid oes gennych unrhyw incwm o hunangyflogaeth

Yn yr enghraifft hon, eich incwm cymhwysol fyddai 拢25,000.

Os ydych yn berchen ar eiddo a dim ond yn cael hysbysiad o鈥檆h cyfran chi o鈥檙 incwm ar 么l i鈥檙 treuliau gael eu didynnu, yna byddwn yn asesu鈥檙 ffigwr hwnnw ar gyfer eich incwm cymhwysol.

Os gwnaethoch ddefnyddio鈥檙 sail arian parod ac wedi鈥檆h cofrestru ar gyfer TAW

Gallwch ddewis cynnwys neu eithrio TAW pan fyddwch yn datgan incwm eich busnes. Os ydych yn ei gynnwys, yna bydd yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag

Bydd unrhyw incwm o eiddo neu incwm masnachu y mae gennych hawl iddo yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant

Bydd unrhyw incwm o eiddo neu incwm masnachu a delir yn uniongyrchol i chi, ac sy鈥檔 osgoi鈥檙 ymddiriedolwyr, yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os yw鈥檙 trafodion yn rheolau tir yn y DU yn berthnasol

Os caiff eich incwm ei drin fel elw masnach o dan y trafodion yn rheolau tir yn y DU, bydd yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol lle mae鈥檔 ffynhonnell incwm barhaus dros fwy nag un flwyddyn dreth.

Os ydych yn cael ffioedd rheoli buddsoddiadau cudd neu fuddiant a drosglwyddir ar sail incwm

Mae鈥檙 mathau hyn o d芒l yn cael eu trin fel yr elw o fasnach dybiedig, a byddant yn rhan o鈥檆h incwm cymhwysol.

Yr hyn nad yw鈥檔 cael ei gynnwys yn eich incwm cymhwysol

Os ydych yn cael incwm o bartneriaeth

Nid yw incwm o bartneriaeth yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol, oni bai eich bod yn cael ffioedd rheoli buddsoddiadau cudd neu fuddiant a drosglwyddir ar sail incwm.

Os ydych yn cael eich effeithio gan ddiwygio鈥檙 cyfnod sail

Efallai y bydd gennych elw trosiannol o flynyddoedd treth blaenorol a fydd yn cael ei asesu yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025 a鈥檙 4 blwyddyn dreth nesaf. Ni fydd yr elw hwn yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn ofalwr sy鈥檔 gymwys ar gyfer rhyddhad gofal cymhwysol

Ni fydd y derbyniadau rhyddhad gofal cymwys y byddwch yn ei gael yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Sut y mae鈥檆h statws preswylio at ddibenion treth yn effeithio ar eich incwm cymhwysol

Os ydych yn breswylydd at ddibenion treth yn y DU

Bydd eich incwm cymhwysol yn cynnwys eich:

  • incwm o hunangyflogaeth
  • incwm o eiddo yn y DU ac eiddo tramor

Er enghraifft, gallech fod:

  • yn unig fasnachwr yn y DU
  • yn rhoi eiddo ar osod yn Ffrainc

Yn yr enghraifft hon, bydd y ddwy ffynhonnell incwm yn cyfrannu at eich incwm cymhwysol.

Os nad ydych yn breswylydd at ddibenion treth yn y DU

Bydd eich incwm cymhwysol yn cynnwys y canlynol:

  • incwm o eiddo yn y DU
  • incwm hunangyflogedig yr ydych wedi鈥檌 ddatgan yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn y DU

Os oes gennych unrhyw incwm o fasnach o ddelio neu ddatblygu tir yn y DU, bydd hyn yn cael ei gynnwys.

Ni fydd incwm ac incwm o eiddo tramor nad ydych wedi鈥檌 ddatgan ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn y DU yn cyfrannu at eich incwm cymhwysol.

Er enghraifft, gallech fod:

  • yn breswylydd at ddibenion treth yn Sbaen
  • yn rhoi eiddo ar osod yn y DU
  • yn unig fasnachwr yn Sbaen

Yn yr enghraifft hon, dim ond eich incwm o eiddo yn y DU fyddai鈥檔 cyfrannu at eich incwm cymhwysol.

Ar 么l i chi gyfrifo鈥檆h incwm cymhwysol

Ar 么l i chi gyfrifo鈥檆h incwm cymhwysol, gallwch聽ddarganfod a oes angen i chi ddefnyddio鈥檙 cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Chwefror 2025 show all updates
  1. Guidance has been updated to clarify what sources of income do and do not count towards your qualifying income. Information has been added on how HMRC will assess your income based on your Self Assessment tax return and when your accounting period is longer or shorter than 12 months. Information has been added about what you need to do if you already use Making Tax Digital for Income Tax and you start a new business. What鈥檚 included in your qualifying income has been updated with information about income where transactions in UK land rules apply. What鈥檚 not included in your qualifying income has been updated with information about basis period reform. Information about tax residency has been updated to clarify what contributes to your qualifying income if you are UK tax resident and not UK resident.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon