Trosolwg o'r Wybodaeth Ychwanegol (1)
Mae鈥檙 dudalen hon yn darparu trosolwg o鈥檙 manylion a ddarperir yn y wybodaeth ychwanegol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
1.1 Mae gwybodaeth ychwanegol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn cyflwyno鈥檙 gofynion a鈥檙 canllawiau i gynghorau ac awdurdodau maerol, y cyfeirir atynt gyda鈥檌 gilydd yn awdurdodau lleol arweiniol trwy gydol y ddogfen hon, sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 UKSPF.
1.2 Mae鈥檙 ddogfen hon at ddefnydd awdurdodau lleol arweiniol yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban yn unig. Yng Ngogledd Iwerddon, mae llywodraeth y DU yn arwain y gwaith o gyflwyno鈥檙 UKSPF ac mae wedi gweithio gyda phartneriaid yng Ngogledd Iwerddon i ddatblygu cynllun buddsoddi a threfniadau cyflawni. Rydym yn ymrwymo i gyflwyno cronfa sy鈥檔 llai biwrocrataidd ac yn gallu gweithredu鈥檔 hyblyg o gymharu 芒鈥檙 Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd blaenorol. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws Gogledd Iwerddon i sicrhau bod rheolau, prosesau a gweithdrefnau鈥檙 Gronfa yn adlewyrchu hyn, a chyhoeddir gwybodaeth gyfredol yma.
1.3 Lluniwyd yr UKSPF i ddarparu cyllid i arweinwyr lleol, gyda鈥檙 rhyddid a鈥檙 annibyniaeth angenrheidiol i fanteisio ar gyfleoedd newydd ac ymateb i鈥檙 heriau sy鈥檔 unigryw i bob un o鈥檜 cymunedau. Mae鈥檙 gronfa hon yn ymrwymo i gefnogi datganoli a lleihau biwrocratiaeth, gan ganiat谩u am wario mwy o arian yn uniongyrchol ar annog canlyniadau ac allbynnau gwell i bobl leol.
1.4 Mae鈥檙 hyblygrwydd a ddarperir yn caniat谩u i awdurdodau lleol arweiniol ddefnyddio鈥檜 strwythurau presennol a sefydledig i ymgymryd 芒鈥檙 atebolrwydd sy鈥檔 gysylltiedig yn draddodiadol 芒 llywodraeth ganolog. Gofynnwyd i awdurdodau lleol arweiniol ddatblygu cynlluniau buddsoddi gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ymyriadau sy鈥檔 bodloni anghenion eu cymunedau orau. Disgwylir iddynt sicrhau bod yr ymyriadau鈥檔 cael eu cynllunio mewn ffordd sy鈥檔 cyflawni gwerth am arian ac yn sicrhau bod cynlluniau鈥檔 atebol i鈥檞 rhanddeiliaid eu hunain wrth i鈥檙 Gronfa symud yn ei blaen. Gall awdurdodau lleol arweiniol ddewis y llwybrau i鈥檙 farchnad sydd orau i鈥檞 hunain, gan ddefnyddio鈥檜 dulliau caffael eu hunain neu, yn hytrach, defnyddio鈥檜 harbenigedd mewnol i ddarparu ymyriadau. Wrth i鈥檙 UKSPF symud yn ei blaen, nhw fydd yn rhedeg gweithrediadau鈥檙 rhaglen o ddydd i ddydd i gyrraedd yr allbynnau a鈥檙 canlyniadau.
1.5 O fewn y model cyflawni datganoledig hwn, mae goruchwylio鈥檙 UKSPF yn briodol mewn awdurdodau lleol arweiniol yn hanfodol i gyflawni鈥檙 Gronfa. Mae鈥檙 ddogfen hon yn amlinellu disgwyliadau鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddogion 151 yng Nghymru a Lloegr, a Swyddogion Adran 95 yn yr Alban, y gofynnir iddynt gymryd cyfrifoldeb a sicrhau bod yr UKSPF yn cael ei wario鈥檔 briodol, yn unol 芒鈥檜 dyletswyddau cyfreithiol. Trwy gydol y ddogfen hon, fe鈥檜 gelwir gyda鈥檌 gilydd yn Brif Swyddogion Cyllid. Mae Prif Swyddogion Cyllid yn gyfrifol am weinyddu materion ariannol eu hawdurdod lleol arweiniol a rhaid iddynt arwain ei swyddogaethau ariannol a sicrhau eu bod yn addas at eu diben. I gyflawni鈥檙 dyletswyddau hyn, rhaid bod gan Brif Swyddogion Ariannol gymwysterau proffesiynol a phrofiad addas. Bydd Prif Swyddogion Cyllid ar draws y DU yn chwarae rhan hanfodol wrth oruchwylio鈥檙 Gronfa, gan wneud yn si诺r bod y cynlluniau y mae鈥檙 awdurdodau lleol arweiniol yn eu cynnig yn gyflawnadwy ac yna cymryd cyfrifoldeb, o fewn y model cyflawni dirprwyedig, am eu cyflawni鈥檔 effeithiol.
1.6 Mae鈥檙 wybodaeth ychwanegol yn amlinellu gofynion dros gyfnod UKSPF a dylai gynorthwyo awdurdodau lleol arweiniol i sefydlu systemau a phrosesau cyflawni. Nid oes gofyn am gwmpasu a pharatoi cynlluniau buddsoddi i鈥檞 cyflwyno i鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
1.7 Hefyd cyhoeddwyd dogfen cwestiynau cyffredin ar gyfer UKSPF. Mae鈥檙 ddogfen hon yn mynd i鈥檙 afael 芒 llawer o gwestiynau a gododd awdurdodau lleol arweiniol ers cyhoeddi prosbectws UKSPF.
1.8 Dylai鈥檙 wybodaeth yn y ddogfen hon ategu a chefnogi sgyrsiau awdurdodau lleol arweiniol gyda Thimau Ardal perthnasol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Dylai鈥檙 sgyrsiau hyn fod yn bwynt cyfeirio cyntaf i awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer cwestiynau ynghylch gwybodaeth ychwanegol UKSPF. Hefyd, gall awdurdodau lleol arweiniol gysylltu 芒鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar [email protected].