Canllawiau

Strategaeth werthuso (4)

Mae鈥檙 dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar fonitro a gwerthuso ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Crynodeb

4.1 Rydym yn ymrwymo i leihau biwrocratiaeth y rhaglen gyllido a byddwn yn sicrhau bod cyn lleied o faich 芒 phosibl yn cael ei osod ar yr awdurdodau lleol arweiniol hynny y gofynnir iddynt gymryd rhan yn y broses werthuso, yn unol ag agenda symleiddio鈥檙 Adran. Byddwn yn gwerthuso ymyriadau, rhaglenni a phrosiectau yn ganolog, ond byddwn yn dibynnu ar rai awdurdodau lleol arweiniol i gefnogi鈥檙 gwaith hwn. Bydd ein contractwyr gwerthuso yn datblygu manylion pellach am y Strategaeth Werthuso trwy gam hyfywedd y broses yn ystod dechrau 2023. Bydd awdurdodau lleol arweiniol mewn ardaloedd daearyddol yn gyfrifol am ddarparu鈥檙 data a鈥檙 wybodaeth honno sy鈥檔 ofynnol at ddibenion gwerthuso, o bob un o鈥檙 awdurdodau lleol perthnasol yn eu hardal ranbarthol.

4.2 Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr 芒鈥檙 [Strategaeth Werthuso]( /government/publications/uk-shared-prosperity-fund-evaluation.cy a gyhoeddwyd yma sy鈥檔 amlinellu Fframwaith Gwerthuso鈥檙 UKSPF yn fanwl. Amcan y Strategaeth Werthuso yw casglu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer yr hyn sy鈥檔 gweithio, ym mha gyd-destun, a thrwy ba fodd. Trwy weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol arweiniol, byddwn ni a鈥檔 contractwyr gwerthuso yn casglu tystiolaeth i lywio鈥檔 well y gwaith o lunio polis茂au yn y dyfodol ar lefel leol a chenedlaethol, ac i sicrhau bod gwariant ffyniant bro a thwf lleol yn y dyfodol yn gallu cael eu hoelio ar yr ymyriadau hynny sy鈥檔 cyflawni鈥檙 effaith fuddiol fwyaf ac sy鈥檔 cynrychioli gwerth da am arian.

4.3 Mae gwerthuso yn hanfodol i ddeall effaith yr UKSPF. Oherwydd graddfa a maint y prosiectau unigol y gall UKSPF eu hariannu, mae angen i ni ategu gwerthusiadau lefel leol er mwyn deall effeithiau鈥檙 UKSPF yn well. Byddwn yn cydlynu鈥檙 gwerthusiad cenedlaethol ond bydd arnom angen i awdurdodau lleol arweiniol ymgysylltu a chefnogi鈥檙 gwaith gwerthuso hwn a gydlynir yn lleol. Dylai awdurdodau lleol arweiniol barhau i ddatblygu a chynnal eu gwerthusiadau cadarn a chredadwy eu hunain. Yn achos yr awdurdodau lleol arweiniol hynny 芒 dyraniadau mwy, mae鈥檙 pwyslais ar werthuso cymesur a thrylwyr yn gynyddol bwysig.

4.4 Bydd awdurdodau lleol arweiniol sy鈥檔 cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gwerthusiad yn cael gwybod ymlaen llaw a byddwn yn cadarnhau鈥檙 gofynion gyda nhw o ran casglu data a rhyngweithio 芒 chontractwyr gwerthuso, os yw鈥檔 berthnasol. Ni ofynnir i awdurdodau lleol arweiniol am ddata 么l-weithredol ond, pan fydd yr awdurdod lleol arweiniol wedi bod yn gwneud ei waith casglu data neu werthuso ei hun, gofynnwn fod y wybodaeth honno鈥檔 cael ei rhannu gyda鈥檔 contractwr gwerthuso.

4.5 Anogir cymryd rhan mewn gwerthuso wedi鈥檌 arwain gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau; credwn y bydd y buddion i鈥檙 awdurdodau lleol arweiniol sy鈥檔 cymryd rhan ac i bolisi cyllid twf a ffyniant bro ehangach yn sylweddol. Rydym yn cydnabod y gallai rhai awdurdodau lleol ei chael hi鈥檔 anodd darparu鈥檙 adnoddau i weithio gyda鈥檔 contractwyr gwerthuso, felly byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y baich yn hylaw.

Y fframwaith gwerthuso

4.6. Bydd y fframwaith gwerthuso鈥檔 cyfrannu at ddeall effaith y Gronfa ar falchder mewn lle a chyfleodd bywyd trwy dair haen o werthuso ynghyd 芒 dadansoddiad trawsbynciol, a fydd yn mynd i鈥檙 afael 芒 nifer o gwestiynau sylfaenol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gwerthusiad trawsbynciol: datblygu cyfres o arolygon i adeiladu gwell dealltwriaeth o sut mae balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd yn amrywio ar draws y DU, gan ddarparu gwaelodlin i鈥檞 ddefnyddio i asesu effeithiau UKSPF ar lefel ymyrraeth, lle a rhaglen. Cesglir data trwy gyfuniad o Arolwg Bywyd Cymuned, wedi鈥檌 arwain gan y DCMS, ac arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd penodol i UKSPF, a gyflwynir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
  • Gwerthusiad lefel ymyrraeth: Deall effeithiau 10 i 15 ymyrraeth benodol ar draws tair blaenoriaeth fuddsoddi UKSPF, a pha mor dda y cawsant eu cyflwyno ar lefel lle, gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau lled-arbrofol gyda grwpiau triniaeth a rheolydd. Lle y bo ymyriadau鈥檔 briodol, gallem hefyd gynnal hap-dreialon rheoli i ddarparu dealltwriaeth fanylach o鈥檙 effeithiau, y tu hwnt i鈥檙 hyn sy鈥檔 bosibl gan ddull lled-arbrofol gwerthusiadau o effaith ymyriadau ehangach.
  • Gwerthusiad lefel lle: Datblygu dealltwriaeth fanwl o effeithiolrwydd UKSPF ar draws gwahanol fathau o le, gan ystyried eu nodweddion a鈥檜 heriau lleol unigryw, a chanolbwyntio ar ryngweithiadau rhwng rhanddeiliaid, penderfyniadau lleol, effeithlonrwydd proses a rhyngweithiadau 芒 chronfeydd twf lleol eraill (fel y Gronfa Ffyniant Bro)
  • Gwerthusiad lefel rhaglen: Deall effaith y rhaglen yn ei chyfanrwydd gan ddefnyddio dull anarbrofol, aml-lefel yn seiliedig ar atchweliad i ynysu effeithiau UKSPF rhag cronfeydd twf lleol eraill, cyd-destunau economaidd gwaelodlin lleoedd a ffactorau drysu ehangach. Er enghraifft, i ddeall effaith a gwerth Multiply am arian, pa mor effeithiol y cafodd ei gyflawni gan leoedd a Llywodraeth y DU, ac i adeiladu鈥檙 sylfaen dystiolaeth o arfer gorau o ran cyflawni ymyriadau sgiliau i oedolion yn lleol.

Beth mae hyn yn ei olygu i awdurdodau lleol arweiniol

Arolygon trawsbynciol

4.7 Ni ofynnir i bob awdurdod lleol arweiniol gymryd rhan yn yr arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd lleol a lefel ymyrraeth 鈥� dim ond y rhai sydd hefyd yn cymryd rhan yn y gwerthusiadau effaith ar lefel ymyrraeth ac astudiaethau achos lefel lle, y bydd yr arolygon yn ffynhonnell ddata allweddol ar eu cyfer. O ystyried hyn, ein nod fydd sicrhau cyn lleied 芒 phosibl o geisiadau ychwanegol penodol i arolwg i leoedd trwy adeiladu ar elfennau gwerthuso eraill.

Yn fyr:

  • Yn achos hwb lefel leol CLS, Cesglir data oddi wrth ymatebwyr yn uniongyrchol yn unol 芒鈥檙 CLS craidd, heb ofyn am unrhyw waith ychwanegol gan awdurdodau lleol arweiniol.
  • Yn achos arolygon PiP ac LC, bydd disgwyl i鈥檙 awdurdodau lleol arweiniol sy鈥檔 cymryd rhan gynorthwyo 芒 sefydlu fframiau samplu ar gyfer ymyriadau dethol ac o fewn ardaloedd daearyddol penodol.
  • Ni fydd offeryn yr arolwg lleol yn gofyn am unrhyw gyfraniad gan awdurdodau lleol arweiniol 鈥� er y caiff awdurdodau lleol arweiniol eu hannog i鈥檞 ddefnyddio ar gyfer eu harolygon eu hunain pan fydd ar gael.

Ar gyfer prosiectau seiliedig ar ardal (h.y. nad ydynt yn cael eu cyflwyno i gr诺p penodol o gyfranogwyr unigol, fel parc newydd), gall fod angen i awdurdodau lleol arweiniol wneud rhywfaint o waith ychwanegol i gynorthwyo 芒 nodi dalgylch cywir y prosiect a chyfeiriadau鈥檙 trigolion yn y dalgylch hwnnw.

Gwerthusiadau o effaith ymyriadau

4.8 Rydym yn rhagweld y bydd 5 i 10 awdurdod lleol arweiniol yn llunio鈥檙 grwpiau triniaeth a rheolydd ar gyfer pob ymyrraeth sy鈥檔 cael ei gwerthuso. Dewisir awdurdodau lleol arweiniol yn y gr诺p rheolydd ar sail eu nodweddion economaidd gymdeithasol a demograffig tebyg o gymharu 芒鈥檙 gr诺p triniaeth. Caiff disgwyliadau a gofynion penodol y gr诺p triniaeth o awdurdodau lleol arweiniol eu llunio鈥檔 derfynol fel rhan o鈥檙 cam hyfywedd, ond byddant yn cynnwys:

  • Datblygu a phrofi damcaniaethau newid cadarn ar gyfer yr ymyriadau sy鈥檔 cael eu gwerthuso, ar y cyd 芒鈥檙 contractwr.
  • Cynorthwyo 芒 threfnu grwpiau ffocws a chyfweliadau 芒 rhanddeiliaid allweddol a staff prosiect.
  • Cynorthwyo 芒 sefydlu fframwaith samplu addas ar gyfer y Mathau o Ymyrraeth sy鈥檔 cael eu gwerthuso i gefnogi arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd lefel ymyrraeth.

4.9 Bydd setiau data a sianeli adrodd presennol yn cael eu defnyddio i gasglu data lefel awdurdod lleol arweiniol, lle y bo鈥檔 bosibl. Fodd bynnag, bydd angen casglu rhywfaint o ddata sylfaenol a gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol helpu i hwyluso hyn. Bydd gofynion data penodol yn cael eu llunio fel rhan o鈥檙 cam hyfywedd a鈥檜 cyfleu鈥檔 glir i awdurdodau lleol arweiniol. Nid oes disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol ddechrau casglu data ymlaen llaw y tu hwnt i sianeli adrodd ehangach UKSPF, hyd nes bod hyn wedi digwydd.

4.10 Gellid gofyn i awdurdodau lleol arweiniol gr诺p triniaeth ddarparu:

  • Manylion prosiectau penodol o fewn pob Math o Ymyrraeth y tu hwnt i鈥檙 hyn sydd wedi鈥檌 gynnwys yng nghynlluniau buddsoddi lleoedd a manylion am gyfrifoldebau cyflawni a llinellau adrodd lleol.
  • Manylion am argaeledd data a bylchau data lleol, yn enwedig ynghylch buddiolwyr ymyriadau UKSPF.
  • Manylion am raglenni twf a ffyniant bro lleol eraill sy鈥檔 cyflawni yn eu hardaloedd, yn enwedig os yw hyn yn gorgyffwrdd 芒 blaenoriaethau buddsoddi UKSPF a/neu yn cael ei ddefnyddio fel cyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau UKSPF.

4.11 Bydd gofynion gr诺p rheolydd yr awdurdodau lleol arweiniol yn ysgafnach ac yn cael eu datblygu ymhellach yn ystod y cam hyfywedd, ond yn yr un modd, byddant yn cynnwys manylion ychwanegol ar gynlluniau buddsoddi, strwythurau cyflawni a buddsoddiadau lleol eraill sydd wrthi鈥檔 cael eu cyflawni.

Hap-dreialon rheoli

4.12 Byddwn yn gwahodd awdurdodau lleol arweiniol i fynegi diddordeb mewn cynnal hap-dreialon rheoli ar gyfer un neu fwy o鈥檙 prosiectau y maent yn defnyddio鈥檙 UKSPF i鈥檞 hariannu. Dim ond rhai ymyriadau fydd yn addas ar gyfer dylunio gwerthusiad ar ffurf hap-dreial rheoli. Mae鈥檔 haws neilltuo cyfranogwyr i gr诺p rheoli yn achos ymyriadau sy鈥檔 cynnwys cyfranogiad gweithgar unigolion, nag ymyriadau sy鈥檔 cynnwys newidiadau i鈥檙 amgylchedd ffisegol. Yn ystod cam y mynegiant o ddiddordeb, byddwn yn cynnal gweithdai hyfywedd i helpu awdurdodau lleol arweiniol sydd 芒 diddordeb i ddatblygu eu syniadau. Rydym yn rhagweld cynnal tua 10 treial yn gyfan gwbl. Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fydd yn ariannu鈥檙 hap-dreialon rheoli.

4.13 Rydym yn annog awdurdodau lleol arweiniol i ystyried cyfleoedd i ymgymryd 芒 hap-dreialon rheoli, lle y bo鈥檔 bosibl, a鈥檔 nod fydd cefnogi unrhyw le sy鈥檔 ystyried hap-dreial rheoli. Cynhwysir mwy o wybodaeth yn y Strategaeth Werthuso. Gellir defnyddio hap-dreialon rheoli i brofi a yw prosiect wedi cyflawni ei effaith ddymunol, neu gellid eu defnyddio i brofi pa un sydd fwyaf effeithiol o blith dwy ffordd wahanol neu fwy o wneud pethau. Er enghraifft, cynhaliwyd hap-dreial rheoli yn ddiweddar i bennu a oedd yn fwy effeithiol i鈥檙 heddlu fynd ar batrolau byrrach, yn amlach, neu batrolau hirach, llai aml.

Astudiaethau achos gwerthuso

4.14 Byddwn yn comisiynu hyd at 36 astudiaeth achos werthuso seiliedig ar le (yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon), i ddeall sut mae鈥檙 UKSPF wedi gweithio mewn lleoedd. Bydd yr astudiaethau achos yn canolbwyntio鈥檔 benodol ar r么l y lleoedd, rhyngweithiadau rhwng rhanddeiliaid, gwneud penderfyniadau, y gwahanol ymyriadau a chronfeydd twf lleol, a phrosesau.

4.15 Dylai awdurdodau lleol arweiniol sydd 芒 dyfarniad o 拢60m neu fwy yn gyfan gwbl ddisgwyl cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn un neu fwy o鈥檙 samplau gwerthuso seiliedig ar le a gomisiynir.

4.16 Bydd yr astudiaethau achos seiliedig ar le yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau casglu a dadansoddi data, gan gynnwys arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws a dulliau lled-arbrofol.

4.17 Bydd ein contractwr yn cyflawni鈥檙 astudiaethau achos seiliedig ar le. Lle y bo awdurdod lleol arweiniol yn cymryd rhan mewn nifer o elfennau鈥檙 gwerthusiad ar yr un pryd, bydd contractwyr yn rhannu gwybodaeth penodol i le, lle y bo鈥檔 bosibl, fel bod llai o ymdrech gan awdurdodau lleol arweiniol yn cael ei ddyblygu.

4.18 Bydd pob adroddiad sy鈥檔 cael ei greu o ganlyniad i鈥檙 gweithgarwch gwerthuso yn cael ei rannu ag awdurdodau lleol arweiniol sy鈥檔 cymryd rhan a鈥檜 cyhoeddi, lle y bo鈥檔 bosibl. Ni fydd awdurdodau lleol arweiniol yn cael eu henwi yn yr un adroddiad, oherwydd bwriad yr astudiaethau achos hyn yw adeiladu鈥檙 sylfaen dystiolaeth, nid bod yn offeryn rheoli perfformiad.

4.19 Gellid gofyn i awdurdodau lleol arweiniol sy鈥檔 astudiaethau achos ddarparu鈥檙 data canlynol (os na chawsant eu darparu eisoes trwy gymryd rhan mewn rhannau eraill o鈥檙 gwerthusiad):

  • Manylion prosiectau sydd wedi鈥檜 cynnwys yng nghynlluniau buddsoddi lleoedd, gyda ffocws penodol ar strwythurau cyflawni, cyfrifoldebau a llinellau adrodd lleol.
  • Manylion am argaeledd data a bylchau mewn data yn lleol, yn enwedig ynghylch buddiolwyr ymyriadau UKSPF a dangosyddion economaidd a鈥檙 farchnad lafur y tu hwnt i鈥檙 rhai y mae鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu dal yn ganolog.
  • Manylion rhaglenni twf lleol a ffyniant bro eraill sy鈥檔 cyflawni yn eu hardal, yn enwedig os yw鈥檙 rhain yn gorgyffwrdd 芒 blaenoriaethau buddsoddi UKSPF a/neu yn cael eu defnyddio fel cyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau UKSPF.
  • Gwybodaeth bersonol am fuddiolwyr UKSPF at ddibenion paru data, os na chawsant eu darparu eisoes i gefnogi鈥檙 gwerthusiad lefel ymyrraeth.

4.20 Byddwn yn cysylltu 芒 lleoedd yn uniongyrchol yn dilyn y cam hyfywedd i鈥檞 gwahodd yn ffurfiol i gymryd rhan mewn astudiaethau achos ac, wrth wneud hynny, byddwn yn cadarnhau a oes angen iddynt ddechrau casglu unrhyw ddata ychwanegol. Os c芒nt eu dewis, caiff awdurdodau lleol arweiniol eu hannog i gymryd rhan; bydd yr astudiaethau achos yn benodol yn darparu cyfoeth o arfer da a gwersi ar gyfer cyflwyno cyllid yn y dyfodol a fydd yn arbennig o berthnasol a defnyddio鈥檙 i鈥檙 awdurdodau lleol arweiniol hynny sy鈥檔 cymryd rhan.

Gwerthuso鈥檙 rhaglen

4.21 Ar gyfer gwerthuso ar lefel rhaglen, disgwyliwn y bydd mwyafrif y data mewnbynnu naill ai ar gael yn gyhoeddus, yn cael ei gasglu o adrannau eraill y Llywodraeth, neu鈥檔 cael ei gasglu trwy sianeli adrodd ehangach y mae awdurdodau lleol arweiniol eisoes yn eu defnyddio.

4.22 Fodd bynnag, wrth i鈥檙 model atchwel sydd wrth wraidd y gwerthusiad lefel rhaglen gael ei ddatblygu ymhellach, gall fod angen cynnwys ffynonellau data ychwanegol fel:

  • Dangosyddion economaidd a chymdeithasol ychwanegol ar lefel lle, y tu hwnt i鈥檙 rhai a gesglir yn ganolog gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Manylion pellach am wariant a ariennir gan awdurdodau lleol arweiniol ar brosiectau cyffiniol UKSPF
  • Manylion pellach am gyllidebau a ffynonellau cyllido ehangach awdurdodau lleol arweiniol

4.23 Bydd y gwerthusiad lefel rhaglen yn dilyn amserlenni ychydig yn arafach na gweddill yr elfennau, yn unol 芒鈥檙 cyfnodau angenrheidiol ychydig yn hwy i weld effeithiau lefel rhaglen. Cysylltir yn uniongyrchol ag awdurdodau lleol arweiniol yn dilyn gwaith hyfywedd pellach gyda manylion am unrhyw ofynion casglu data ychwanegol. Yn y cyfamser, ni fydd disgwyl i leoedd gasglu data penodol i werthusiad rhaglen ymlaen llaw.

Gwerthusiad o Multiply

4.24 Mae Multiply yn rhaglen rhifedd 3 blynedd newydd i oedolion sy鈥檔 werth 拢559m, sy鈥檔 rhan o UKSPF. Rhan graidd o鈥檙 rhaglen yw adeiladu鈥檙 sail dystiolaeth am 鈥榖eth sy鈥檔 gweithio鈥� wrth wella rhifedd oedolion.

4.25 Yn yr Alban a Chymru, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yw鈥檙 adran gyflawni gyfrifol; bydd y cyflawni鈥檔 defnyddio鈥檙 un strwythurau daearyddol 芒 Chronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU.

4.26 Yr Adran Addysg yw鈥檙 brif adran ar gyfer cyflawni Multiply yn Lloegr ynghyd 芒 rhaglen y DU gyfan ar gyfer gwerthuso Multiply yn Lloegr. Lle y bo鈥檔 bosibl, byddwn yn gweithio gyda鈥檙 Adran Addysg i gysoni鈥檙 dull gwerthuso yn yr Alban a Chymru 芒鈥檙 dull gwerthuso yn Lloegr, gan gydnabod y seilweithiau sgiliau gwahanol mewn gwledydd gwahanol.

4.27 Bydd yr Adran Addysg a鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweithio gydag awdurdodau lleol arweiniol i brofi a mireinio鈥檙 cynllun gwerthuso ar gyfer Multiply trwy gyfres o drafodaethau bwrdd crwn yn ystod y cam hyfywedd, a bydd yr Adran Addysg yn paratoi ac yn lledaenu diweddariadau ymchwil yn rheolaidd i awdurdodau lleol arweiniol wrth i waith maes ddechrau i鈥檞 hysbysu am weithgarwch gwerthuso sydd ar ddod. Bydd gan awdurdodau lleol arweiniol nifer o gyfleoedd i adolygu canfyddiadau sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg fel y鈥檜 cofnodir trwy gydol y cylch gwerthuso, yn gymesur 芒鈥檜 lefel cyfranogiad yng ngwahanol ffrydiau鈥檙 gwerthusiad.

4.28 Fel rhanddeiliaid cyflawni allweddol, gellid gofyn i awdurdodau lleol arweiniol gymryd rhan yng ngwerthusiad Multiply trwy:

  • gymryd rhan mewn arolygon mewn astudiaethau achos i geisio barn am fodel cyflawni Multiply, rhwystrau rhag gweithredu, a鈥檙 amgyffrediad o鈥檙 effeithiau
  • helpu i drefnu grwpiau ffocws, cyfweliadau ac ymweliadau safle.
  • Ymgysylltu 芒 chyfranogwyr a rhanddeiliaid i gynorthwyo 芒 chasglu data, lledaenu allbynnau gwerthuso, a cheisio adborth ar gynllun gwerthuso trwy gydol y cam hyfywedd

4.29 Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol yng Nghymru a鈥檙 Alban sicrhau bod contractwyr trydydd parti yn casglu gwybodaeth am nifer yr unigolion sy鈥檔 cymryd rhan mewn unrhyw ymyrraeth Multiply sylweddol. Nid oes disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol gasglu data personol gan y bobl sy鈥檔 cymryd rhan yn rhaglenni Multiply oni bai bod ei angen at eu dibenion monitro a gwerthuso eu hunain.

Gwybodaeth bellach am werthuso

4.30 Bydd cyfraniadau gan awdurdodau lleol arweiniol sy鈥檔 cael eu gwahodd i ymgysylltu 芒鈥檙 gweithgareddau gwerthuso yn y Strategaeth Werthuso yn gymesur a dylid eu hariannu o鈥檜 cyllidebau gweinyddu eu hunain, oni ddatgenir yn wahanol yn y Strategaeth Werthuso. Mae鈥檙 amlinelliad o鈥檙 mathau o weithgarwch gwerthuso wedi鈥檜 disgrifio yn adran 4.6.

4.31 Caiff lleoedd eu hannog i ymgymryd 芒鈥檜 gwerthusiadau ar sail lle eu hunain o鈥檙 modd y mae鈥檙 UKSPF wedi gweithio yn eu hardal, yn enwedig gwerthusiad o broses mewn prosiectau unigol, ochr yn ochr 芒鈥檙 astudiaethau achos seiliedig ar le a gomisiynwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (gweler adran 4.14). Gallai dulliau arfaethedig gynnwys mesur allbynnau, dadansoddi cyfraniadau, datblygu astudiaethau achos, cynnal arolygon a chyfweliadau gyda rhanddeiliaid a buddiolwyr. Yn unol ag adran 3, mae鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi gofyn am gael gwybod pryd mae hyn yn digwydd trwy adrodd rheolaidd.

4.32 Nid oes angen i awdurdodau lleol arweiniol ddweud wrthym beth fydd eu strategaeth werthuso leol fel rhan o鈥檜 cynllun buddsoddi [ond bydd yn llunio rhan o鈥檙 adrodd blynyddol].

4.33 Gall yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ymwneud 芒 CThEF a鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau, yn enwedig ynghylch blaenoriaethau buddsoddi pobl a sgiliau a chynorthwyo busnesau lleol. Yn yr un modd 芒鈥檙 Adran Addysg, bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a threfniant priodol ar gyfer rhannu data yn cael eu datblygu.

4.34 Byddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda Swyddog Diogelu Data鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a byddwn yn adolygu鈥檙 trefniadau hyn i sicrhau cydymffurfiad parhaus 芒 Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.

4.35 Fel y bo鈥檙 gofyn, bydd trefniadau priodol i awdurdodau lleol arweiniol rannu data gyda鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cael eu datblygu a鈥檜 hamlinellu, gan gynnwys hysbysiadau preifatrwydd, lle y bo鈥檔 briodol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Mawrth 2023 show all updates
  1. Greater detail and clarification provided in line with the UKSPF Evaluation Strategy published at the same time as this update. Clarification on what DLUHC expects from LLAs with respect to collection of additional data for evaluation purposes.

  2. Welsh added

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon