Canllawiau

Cosbau o ran dilyn ac olrhain tybaco

Dysgwch am y cosbau y gellir eu codi os na fyddwch yn glynu at y rheolau o ran dilyn ac olrhain tybaco yn y DU.

Mae鈥檔 rhaid i chi lynu at y rheolau dilyn ac olrhain ar gyfer cynhyrchion tybaco yn y DU (yn Saesneg) os ydych yn gweithgynhyrchu, mewnforio, cludo, storio, neu werthu cynhyrchion tybaco.

Os na fyddwch yn glynu at y rheolau, gall CThEF gymryd camau.

Os bydd Safonau Masnach yn ymweld 芒 chi

Mae Safonau Masnach yn ymchwilio i fasnachu annheg ac i weithgareddau busnes anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i gynhyrchion tybaco na ddylent fod ar gael i鈥檞 gwerthu, a chael gwared arnynt hefyd. Weithiau gelwir y rhain yn gynhyrchion tybaco anghyfreithlon.

Os yw Safonau Masnach o鈥檙 farn eich bod wedi torri鈥檙 rheolau o ran dilyn ac olrhain tybaco, efallai y caiff eich gwybodaeth ei rhannu 芒 CThEF.

Bydd CThEF yn penderfynu a yw鈥檙 rheolau wedi鈥檜 torri, ac yn cysylltu 芒 chi鈥檔 uniongyrchol. Bydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gamau i鈥檞 cymryd.

Os nad ydych yn bodloni gofynion dilyn ac olrhain tybaco

Efallai y bydd methu 芒 bodloni gofynion dilyn ac olrhain tybaco yn arwain at:

  • cosb o hyd at 拢10,000 am fod 芒 chynhyrchion yn eich meddiant nad ydynt yn bodloni鈥檙 rheolau
  • atafaelu cynhyrchion tybaco ac, o bosibl, eu dinistrio
  • dadactifadu鈥檆h ID Gweithredwr Economaidd, naill ai dros dro neu鈥檔 barhaol, os byddwch yn torri鈥檙 rheolau dro ar 么l tro, gan gyfyngu ar neu ddileu鈥檆h gallu i brynu neu i werthu tybaco yn y DU

Dysgwch ragor ynghylch pryd y gall eich ID Gweithredwr Economaidd gael ei ddadactifadu (yn Saesneg).

Cosbau y gellir eu codi

Bydd swm y gosb ariannol yn dibynnu a yw hon yn drosedd cyntaf neu鈥檔 drosedd a ailadroddir. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint o sigar茅ts neu dybaco rholio 芒 llaw sydd yn eich meddiant ac sy鈥檔 torri鈥檙 rheolau dilyn ac olrhain tybaco.

Trosedd cyntaf

Gellir codi cosbau ariannol hyd at:

  • 拢2,500, os oes gennych lai na 100 o becynnau
  • 拢5,000, os oes gennych 100 i 299 o becynnau
  • 拢7,500, os oes gennych 300 i 499 o becynnau
  • 拢10,000, os oes gennych 500 o becynnau neu fwy

Ail drosedd

Gellir codi cosbau ariannol hyd at:

  • 拢5,000, os oes gennych lai na 100 o becynnau
  • 拢7,500, os oes gennych 100 i 299 o becynnau
  • 拢10,000, os oes gennych 300 o becynnau neu fwy

Troseddau pellach

Gellir codi cosbau ariannol hyd at:

  • 拢7,500, os oes gennych lai na 100 o becynnau
  • 拢10,000, os oes gennych 100 o becynnau neu fwy

O鈥檙 ail drosedd ymlaen, mae鈥檔 bosibl y bydd CThEF yn:

  • atafaelu unrhyw gynhyrchion tybaco ac, o bosibl, eu dinistrio
  • ystyried dadactifadu ID Gweithredwr Economaidd, naill ai dros dro neu鈥檔 barhaol

Sut i dalu cosb

Dysgwch sut i dalu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau a roddir gan CThEF.

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad gan CThEF

Bydd y llythyr o benderfyniad gan CThEF yn rhoi gwybod i chi am yr hyn i鈥檞 wneud os ydych yn anghytuno 芒鈥檙 penderfyniad. Dysgwch sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Gorffennaf 2023 show all updates
  1. Added translation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon