Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am ansolfedd ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Sut i roi gwybod i CThEF os bydd sefydliad yn mynd yn ansolfent at ddibenion Treth Deunydd Pacio Plastig, a sut i anfon unrhyw Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru.

Os ydych yn ymarferydd ansolfedd, gallwch ddefnyddio鈥檙 ffurflen ar-lein i roi gwybod i CThEF bod sefydliad wedi mynd yn ansolfent. Os nad yw鈥檙 sefydliad yn masnachu mwyach, ac os na allwch gael mynediad at y cyfrif Treth Deunydd Pacio Plastig ar-lein, gallwch hefyd gyflwyno Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru.

Os yw鈥檙 sefydliad yn masnachu o hyd, does dim angen i chi roi gwybod i ni ynghylch yr ansolfedd mewn perthynas 芒鈥檙 Dreth Deunydd Pacio Plastig. Dylech barhau i ddefnyddio鈥檙 cyfrif ar-lein Treth Deunydd Pacio Plastig i wneud y canlynol:聽聽

  • cyflwyno Ffurflenni Treth
  • datgofrestru鈥檙 sefydliad, os byddant yn rhoi鈥檙 gorau i fasnachu a pryd y byddant yn gwneud hynny

Cyn i chi ddechrau

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae鈥檔 rhaid i chi roi鈥檙 manylion canlynol i ni:

  • enw鈥檙 sefydliad
  • cyfeiriad y busnes
  • cyfeirnod ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
  • y math o ansolfedd 鈥� yn nwylo鈥檙 gweinyddwyr, datodiad gwirfoddol aelodau, datodiad gwirfoddol credydwyr
  • y dyddiad pan ddaeth y busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
  • dyddiad datgofrestru

Rhoi gwybod am ansolfedd

Gallwch roi gwybod am ansolfedd yn ogystal 芒 chyflwyno unrhyw Ffurflenni Treth terfynol a datgofrestru o鈥檙 gwasanaeth.

Byddwn yn anelu at ddelio 芒鈥檆h cais cyn pen 28 diwrnod gwaith.

Yr hyn sy鈥檔 digwydd nesaf

  1. Byddwch yn cael cyfeirnod ac e-bost cadarnhau.

  2. Byddwn yn cysylltu 芒 chi os bydd angen i chi gyflwyno rhagor o dystiolaeth.

Os oes angen i chi gysylltu 芒 ni i gael help pellach, gallwch ddefnyddio鈥檙 manylion cyswllt o鈥檙 dudalen we ymholiadau ynghylch Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecs茅is.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Mai 2024 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon