Rhoi gwybod i CThEF am newidiadau i鈥檆h cofrestriad GUC Mewnforio TAW yn yr UE
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF eich bod wedi datgofrestru rhag defnyddio鈥檙 Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW o ran Mewnforio (GUC Mewnforio) mewn gwlad yn yr UE neu wedi newid manylion eich busnes.
Gallwch ond defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i roi gwybod i CThEF am y canlynol:
- rydych eisoes wedi datgofrestru o鈥檙
- newid eich manylion busnes, megis e-bost cyswllt, cyfeiriad y busnes neu rif TAW yn y DU
Cyn defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn, mae鈥檔 rhaid i chi ddatgofrestru neu newid eich manylion busnes yn y wlad lle rydych wedi cofrestru.
Pwy all roi gwybod i CThEF
Gallwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn os ydych yn un o鈥檙 canlynol:
- perchennog y busnes
- cyfryngwr sy鈥檔 gweithredu ar ran perchennog y busnes
Mae cyfryngwr yn berson sydd wedi cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio yn yr UE ac sy鈥檔 gyfrifol am roi cyfrif am TAW ar gyfer cyflenwr sy鈥檔 gwerthu nwyddau a fewnforiwyd o bell.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mewngofnodwch i鈥檙 gwasanaeth gan ddefnyddio鈥檆h enw defnyddiwr a鈥檆h cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth, neu gallwch ddefnyddio鈥檆h cyfeiriad e-bost.
Os ydych yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi datgofrestru o鈥檙 cynllun GUC Mewnforio TAW
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif cofrestru GUC Mewnforio
- y dyddiad y gwnaethoch ddatgofrestru o鈥檙 cynllun GUC Mewnforio yn yr UE
- enw鈥檙 wlad lle rydych wedi datgofrestru
Os ydych yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi newid eich manylion busnes
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich cyfeiriad busnes newydd, eich manylion cyswllt newydd neu鈥檆h rhif cofrestru TAW newydd yn y DU, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi newid
- eich rhif cofrestru GUC Mewnforio
- enw鈥檙 wlad yn yr UE lle rydych wedi cofrestru
Sut i roi gwybod i CThEF
Bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost, er mwyn i ni allu cadarnhau鈥檆h newidiadau.
Yr hyn sy鈥檔 digwydd nesaf
Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau eich bod wedi rhoi gwybod i ni am y newidiadau i鈥檆h cofrestriad GUC Mewnforio TAW neu i鈥檆h manylion busnes.
Byddwn yn diweddaru ein cofnodion gan ddefnyddio鈥檙 wybodaeth a roddwyd gennych.