Canslo benthyciad myfyrwyr � os byddwch yn mynd yn an-ffit yn barhaol i weithio
Gellir canslo eich benthyciad myfyrwyr os byddwch yn mynd yn an-ffit yn barhaol i weithio.
Efallai y bydd modd i chi ganslo eich benthyciad myfyrwyr os byddwch yn cael un o’r budd-daliadau canlynol yn ymwneud ag anabledd yn y DU:
- Taliadau Annibyniaeth Personol
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Industrial Injuries Benefit
- Lwfans Anabledd Difrifol
Y dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon
Bydd angen i chi ysgrifennu at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i ofyn iddo ganslo eich benthyciad. Bydd angen hefyd i chi gynnwys eich cyfeirnod cwsmer a llungopïau o’r ddau lythyr canlynol:
- llythyr gan feddyg, meddyg ymgynghorol neu seiciatrydd, sy’n nodi eich bod ‘yn an-ffit yn barhaol i weithio� ac sydd â dyddiad yn ystod y 6 mis diwethaf arno
- llythyr gan yr asiantaeth budd-daliadau, sy’n dangos eich bod yn cael budd-dal yn ymwneud ag anabledd, rhaid mai’r llythyr asesu diweddaraf ydyw a rhaid iddo gynnwys yr holl dudalennau.
Os na allwch ofyn i’r benthyciad gael ei ganslo
Weithiau, mae’n bosibl na fyddwch yn ddigon hwylus i ddweud wrthym eich bod yn an-ffit yn barhaol i weithio. Gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr dderbyn gwybodaeth a thystiolaeth gan drydydd parti yn lle hynny, ond dim ond os oes gan y trydydd parti atwrneiaeth. Os nad oes atwrneiaeth yn bodoli, byddwn yn ysgrifennu at drydydd parti ‘dan ofal� cyfeiriad y cwsmer.
Ni all y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ganslo unrhyw fenthyciadau heb dystiolaeth.
Cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Student Loans Company
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF
Updates to this page
-
Updated Student Loans Company address from 100 Bothwell Street, Glasgow, G2 7JD to 10 Clyde Place, Glasgow, G5 8DF
-
Removed "an additional Universal Credit award relating to disability" from list of benefits that can lead to student loan cancellation and clarified that benefits must be from UK
-
Added translation