Treth Dir y Tollau Stamp: trafodiadau trawsffiniol
Dewch i wybod sut i sicrhau eich bod yn talu'r dreth gywir wrth brynu tir ac eiddo sydd mewn mwy nag un awdurdodaeth dreth.
Nid oes Treth Dir y Tollau Stamp (SDLT) i鈥檞 thalu wrth brynu tir neu eiddo:
- yn yr Alban ar neu ar 么l 1 Ebrill 2015 - byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (TTTA)
- yng Nghymru ar neu ar 么l 1 Ebrill 2018 - byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir (TTT)
Trafodiadau trawsffiniol
Mae 2 sefyllfa lle y mae鈥檔 bosibl i fwy nag un dreth fod yn gymwys i drafodiad tir.
Trafodiad eiddo lluosog
Pan brynir 2 neu ragor o eiddo mewn gwahanol awdurdodaethau treth yn y DU am un swm o gydnabyddiaeth y cytunir arno, naill ai fel trafodiad unigol neu nifer o drafodiadau a gysylltir 芒鈥檌 gilydd (trafodiadau cysylltiedig).
Er enghraifft, un trafodiad sy鈥檔 ymwneud 芒 phrynu siop yng Nghymru, siop yn yr Alban a siop yn Lloegr.
Trafodiad eiddo trawsffiniol unigol
Prynu eiddo unigol sy鈥檔 cynnwys tir ar ddwy ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr neu Loegr a鈥檙 Alban.
Er enghraifft, cae sydd wedi鈥檌 rannu dros ddwy ffin. Gellir cofrestru tir sydd ar y naill ochr o鈥檙 ffin neu鈥檙 llall rhwng Cymru a Lloegr yn deitl unigol gyda Chofrestra Tir EM (trafodiad croes-deitl) neu fel 2 neu ragor o deitlau. Mae tir yn yr Alban bob amser yn cael ei gofrestru ar wah芒n.
Yn y ddau achos
Mae鈥檔 rhaid rhannu (dosrannu) cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn modd cyfiawn a rhesymol, er mwyn cyrraedd cydnabyddiaeth briodol ar gyfer y rhan sydd ym mhob awdurdodaeth dreth.
Nid yw trafodiadau prynu tir:
-
yng Nghymru ar neu ar 么l 1 Ebrill 2018 nid yn gysylltiedig, at ddibenion treth ag unrhyw drafodiad mewn mannau eraill yn y DU (neu drafodiadau yng Nghymru a wnaed cyn 1 Ebrill 2018)
-
yn yr Alban ar neu ar 么l 1 Ebrill 2015 yn gysylltiedig, at ddibenion treth, ag unrhyw drafodiad mewn mannau eraill yn y DU (neu drafodiadau yn yr Alban a wnaed cyn 1 Ebrill 2015)
Sut i adnabod trafodiad trawsffiniol
Yn achos llawer o bryniadau sy鈥檔 ymwneud 芒 thir mewn mwy nag un awdurdodaeth dreth, bydd yn syml adnabod y ffin a鈥檙 tir ar y naill ochr neu鈥檙 llall. Mewn llawer o achosion, bydd teitlau ar wah芒n eisoes yn bodoli ar gyfer y tir ym mhob awdurdodaeth.
Mewn ychydig iawn o achosion, bydd teitl eiddo unigol yn cynnwys tir ar ddwy ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gall Cop茂au Swyddogol o deitlau Cofrestra Tir EM helpu cwsmeriaid i adnabod yr achosion hyn.
Ffin heb ei dangos
Mewn rhai achosion, nid yw鈥檙 ffin wedi鈥檌 nodi ar gynllun y teitl a bydd yn rhaid ei hadnabod drwy ddefnyddio ffynonellau daearyddol eraill.
Canfod y ffin ar deitlau Cofrestrfa Tir EM
Efallai y bydd y ffin i鈥檞 gweld ar gynlluniau teitlau Cofrestrfa Tir EM lle mae鈥檙 tir ar y ffin neu鈥檔 agos iddi. Os felly, bydd yn ymddangos fel llinell doredig a dotiog. Nid yw鈥檙 llinell hon yn rhoi ateb pendant o ran p鈥檜n ai yw鈥檙 tir yn y teitl yn gyfan gwbl neu鈥檔 rhannol yng Nghymru neu Loegr, gall lleoliad y llinell hon mewn perthynas 芒鈥檙 ymylon coch ar deitl y cynllun roi mwy ateb mwy pendant yn hyn o beth.
MapSearch
Gall cwsmeriaid e-wasanaethau Busnes Cofrestrfa Tir EM gyrchu gwasanaeth archwilio mapiau yn rhad ac am ddim - mae MapSearch ar gael drwy borth Cofrestrfa Tir EM. Mae鈥檔 caniat谩u i鈥檙 defnyddiwr wneud y canlynol:
- cael gwybod a yw eiddo wedi ei gofrestru
- gweld ei leoliad
- cael gafael ar rif y teitl
- gweld perchnogaeth y teitl
Gall defnyddwyr ganfod lle mae鈥檙 ffin ar y teitlau hynny lle nad yw wedi鈥檌 nodi. Bydd hyn wedyn yn caniat谩u i鈥檙 trethdalwr gyfrifo pa Ffurflen Dreth sydd ei hangen. Gall y gwasanaeth hefyd helpu i gyfrifo dosraniad y gydnabyddiaeth ar gyfer y tir yng Nghymru a Lloegr (pan fo dosraniad sydd wedi鈥檌 seilio ar ddarn o dir yn rhoi canlyniad cyfiawn a rhesymol).
Lleiniau o dir mewn gwahanol leoliadau
Mae ychydig o eiddo trawsffiniol gyda darnau o dir nad ydynt yn ffinio 芒鈥檌 gilydd. Er enghraifft, lle mae un darn o dir wedi鈥檌 leoli鈥檔 gyfan gwbl mewn un wlad, a bod yr ail ddarn ar wah芒n wedi鈥檌 leoli鈥檔 gyfan gwbl mewn gwlad arall. Mae鈥檔 bwysig canfod a yw eiddo trawsffiniol yn cynnwys tir sydd wedi鈥檌 rannu yn y modd hwn.
Gall trafodiadau ddigwydd lle mae teitl yr eiddo yn bell oddi wrth y ffin ac nid yw鈥檙 ffin i鈥檞 gweld. Er mwyn helpu i ganfod y ffin a鈥檙 awdurdodaeth dreth lle mae鈥檙 tir wedi鈥檌 leoli, gallwch ddefnyddio鈥檙 canlynol:
- tystiolaeth o鈥檙 gofrestr teitlau
- gwybodaeth am ddaearyddiaeth y DU
- chwiliadau awdurdodau lleol o geisiadau cynllunio
Ar gyfer y teitlau hynny sy鈥檔 agos i鈥檙 ffin ond nad ydynt yn croesi鈥檙 ffin, bydd cod yr awdurdod lleol yn helpu i ganfod yr awdurdodaeth dreth gywir.
Eich rhwymedigaethau ar gyfer trafodiadau trawsffiniol
Ym mhob achos, mae鈥檔 rhaid i chi sicrhau y caiff swm y gydnabyddiaeth ei ddosrannu mewn modd cyfiawn a rhesymol.
Eiddo mewn gwahanol awdurdodaethau treth
Pan fo eiddo ar wah芒n mewn gwahanol awdurdodaethau treth, a bo鈥檙 gydnabyddiaeth a ddosrennir yn uwch na鈥檙 terfynau ar gyfer hysbysu鈥檙 awdurdodaeth dreth berthnasol:
-
ar gyfer tir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon - anfonwch Ffurflen Dreth SDLT i Gyllid a Thollau EM (CThEM) gan nodi鈥檙 cod 6996 yn lle enw鈥檙 awdurdod lleol
-
ar gyfer tir yng Nghymru - anfonwch Ffurflen Dreth TTT i gan nodi鈥檙 enw鈥檙 awdurdod lleol perthnasol yng Nghymru ac atebwch yn gadarnhaol i鈥檙 cwestiwn trawsffiniol
-
Ar gyfer tir yn yr Alban - anfonwch Ffurflen Dreth TTTA i gan nodi鈥檙 enw鈥檙 awdurdod lleol perthnasol yn yr Alban ac atebwch yn gadarnhaol i鈥檙 cwestiwn trawsffiniol
Tir yng Nghymru a Lloegr
Pan fo鈥檙 trafodiad yn eiddo unigol gyda thir yng Nghymru a Lloegr a bo鈥檙 gydnabyddiaeth a ddosrennir yn uwch na鈥檙 terfynau ar gyfer hysbysu鈥檙 awdurdod treth perthnasol:
-
ar gyfer tir yn Lloegr - anfonwch Ffurflen Dreth SDLT i CThEM gan nodi鈥檙 cod 6997 yn lle enw鈥檙 awdurdod lleol
-
ar gyfer tir yng Nghymru - anfonwch Ffurflen Dreth TTT i ACC gan nodi鈥檙 enw鈥檙 awdurdod lleol perthnasol yng Nghymru ac atebwch yn gadarnhaol i鈥檙 cwestiwn trawsffiniol
Mae arweiniad ar sut i ddosrannu cydnabyddiaeth ar gael gan .
Gwiriadau awdurdodau treth
Pan fo鈥檔 ofynnol i chi ddosrannu cyfanswm y pryniant gan ddefnyddio鈥檙 dull cyfiawn a rhesymol, gall naill ai ACC, RS, neu r CThEM herio cynnwys y Ffurflen Dreth a anfonir iddynt.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried dosraniad cyfanswm y gydnabyddiaeth i ganfod union sail y dosraniad.
Os bydd tystiolaeth y dosraniad yn absennol neu os bydd i鈥檞 gweld yn afresymol yna mae鈥檔 bosibl y bydd yr awdurdod treth yn gofyn i鈥檙 VOA ganfod cyfanswm y pryniant ar gyfer pob Ffurflen Dreth. Os bydd hyn yn digwydd, bydd RS, ACC a CThEM yn derbyn penderfyniad y VOA.
Cofrestru teitl mewn cofrestrfeydd tir
Mae 3 awdurdod ar gyfer cofrestru perchenogaeth tir ac eiddo yn y DU:
- Cofrestrfa Tir EM ar gyfer tir yng Nghymru a Lloegr
- ar gyfer tir yn yr Alban
- ar gyfer tir yng Ngogledd Iwerddon
Wrth gofrestru trafodiad gyda chofrestrfa tir, rhaid i chi gael cadarnhad bod SDLT, TTT neu TTTA wedi鈥檌 hanfon i鈥檙 awdurdod treth perthnasol mewn perthynas 芒鈥檙 trafodiad hwnnw.
O 1 Ebrill 2018 ymlaen, os bydd tir neu eiddo yn cael ei brynu sydd yng Nghymru yn ogystal 芒 Lloegr, gellir dal i wneud un cofrestriad i Gofrestrfa Tir EM.
Os yw鈥檙 awdurdodau treth wedi cael gwybod am y ddau drafodiad, bydd yn rhaid i unrhyw gais am drosglwyddiad (drwy werthiant ar gyfer 拢40,000 neu fwy) a gyflwynir ar gyfer cofrestriad gynnwys tystiolaeth ar ffurf:
- tystysgrif TTT (Cymru)
- tystysgrif SDLT (Lloegr)
Bydd achosion lle y bydd y trafodiad trawsffiniol yn cynnwys tir yng Nghymru neu Loegr nad yw鈥檔 hysbysadwy i naill ai ACC, CThEM neu鈥檙 ddau ohonynt.
Yn yr achosion hyn, bydd angen i Gofrestrfa Tir EM wybod os oes dim ond un dystysgrif (neu ddim tystysgrif) a鈥檙 rheswm am hynny.
Bydd achosion lle mae darn bach iawn o dir mewn un wlad a bod y rhan fwyaf o鈥檙 tir wedi鈥檌 leoli mewn gwlad arall. Dylai swm y gydnabyddiaeth gael ei ddosrannu mewn modd cyfiawn a rhesymol. Os yw鈥檙 darn lleiaf yn rhy fach neu鈥檔 is na therfynau hysbysu, dylid rhoi gwybod i Gofrestrfa Tir EM.
Rheolau trosiannol
Mae rheolau trosiannol arbennig yn gymwys i drafodiadau yng Nghymru a鈥檙 Alban.