Cyfraniadau nawdd cymdeithasol ar gyfer gweithwyr yn y DU, yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir yn achos Brexit dim cytundeb
Rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y bydd angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y DU, yng ngwledydd eraill yr UE a鈥檙 AEE, ac yn y Swistir, yn achos Brexit dim cytundeb
Cadw llygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf
Mae鈥檙 DU yn gadael yr UE. Mae鈥檙 dudalen hon yn rhoi gwybod i chi sut i baratoi ar gyfer Brexit. Bydd yn cael ei diweddaru os bydd unrhyw beth yn newid.
Cofrestrwch i gael e-byst hysbysu er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Os ydych yn gyflogwr, yn gyflogai neu鈥檔 berson hunangyflogedig, mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi wneud cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y DU, a hefyd yn yr UE neu鈥檙 AEE.
Os ydych yn wladolyn y DU neu Iwerddon sy鈥檔 gweithio yn y DU neu Iwerddon, ni fydd eich sefyllfa鈥檔 newid ar 么l Brexit. Ni fydd angen i chi neu鈥檆h cyflogwr wneud dim byd gwahanol.
Os ydych yn wladolyn y DU, y Swistir neu鈥檙 UE sy鈥檔 symud o鈥檙 DU i weithio yn y Swistir, ni fydd eich sefyllfa鈥檔 newid cyn 31 Rhagfyr 2020. Ni fydd angen i chi neu鈥檆h cyflogwr wneud dim byd gwahanol.
Byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU os yw un o鈥檙 canlynol yn wir:
- rydych yn gyflogwr y mae ei gyflogai鈥檔 gweithio yn yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir ar hyn o bryd, ac yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU
- rydych yn gweithio yn yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir fel cyflogai neu berson hunangyflogedig yn y DU ar hyn o bryd, ac mae gennych ffurflen A1/E101 a gyhoeddwyd gan y DU sy鈥檔 dangos eich bod yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol 鈥� byddwch yn parhau i dalu tan y dyddiad dod i ben ar ffurflen A1/E101
Cyflogwyr yn y DU
Os yw鈥檆h cyflogai鈥檔 gweithio yn yr UE neu鈥檙 AEE ar hyn o bryd, er mwyn gwirio a fydd angen i鈥檆h cyflogai ddechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad honno, yn ogystal ag yn y DU.
Bydd ffurflen arall yn lle鈥檙 A1/E101 yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ceisiadau newydd ar 么l Brexit. Defnyddiwch hon er mwyn gwneud yn si诺r bod eich cyflogai鈥檔 parhau i wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU.
I roi gwybod i CThEM pan fyddwch yn anfon cyflogeion i weithio yn yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir, defnyddiwch y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- ffurflen CA3822
- ffurflen CA3821 os nad ydych wedi anfon cyflogeion i weithio yn yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir o鈥檙 blaen
Cyflogeion ac unigolion hunangyflogedig yn y DU
Os yw鈥檙 dyddiad dod i ben ar eich ffurflen A1/E101 yn ddyddiad ar 么l Brexit, er mwyn gwirio a fydd angen i chi ddechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad honno, yn ogystal ag yn y DU.
I roi gwybod i CThEM eich bod yn mynd i weithio yn yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir, defnyddiwch y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- ffurflen CA3822 os ydych yn gyflogai yn y DU
- ffurflen CA3837 os ydych yn hunangyflogedig
Dinasyddion yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir sy鈥檔 gweithio yn y DU
Os ydych yn cael eich cyflogi鈥檔 bennaf mewn un neu fwy o wledydd yr UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir, ond rydych yn gwneud gwaith cyfyngedig yn y DU, ac yn bodloni amodau penodol, ni fydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU. Bydd yr amodau鈥檔 cael eu cyhoeddi ar 么l Brexit.
Bydd hyn yn berthnasol p鈥檜n a oes gennych ffurflen A1/E101 ddilys ai peidio.