Canllawiau

Anfon data car i CThEM: cynnwys buddiannau car a buddiannau tanwydd car yn y gyflogres

Sut i roi gwybod am ddata car i Gyllid a Thollau EM (CThEM) pan fo buddiannau car a buddiannau tanwydd car wedi'u cynnwys yn y gyflogres.

Trosolwg

Rhaid i gyflogwyr sydd wedi cofrestru i gynnwys treuliau a buddiannau trethadwy cyflogeion anfon y symiau trethadwy i Gyllid a Thollau EM (CThEM), drwy ddefnyddio Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS).

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, gall cyflogwyr sydd wedi cofrestru anfon gwybodaeth am y ceir a ddefnyddir gan gyflogeion i CThEM yn wirfoddol. Mae hyn yn debyg i anfon gwybodaeth ar ffurflen P46 (Car), gan gyflogwyr nad ydynt yn cynnwys buddiannau yn y gyflogres.

O 6 Ebrill 2018 ymlaen, bydd yr wybodaeth hon yn orfodol os ydych yn gyflogwr sydd wedi cofrestru i gynnwys buddiannau yn y gyflogres pan fo car a thanwydd car ar gael i鈥檙 cyflogai.

Rhaid i gyflogwyr nad ydynt wedi cofrestru erbyn 6 Ebrill barhau i lenwi ffurflen P46 (Car).

Cael gwybod pa wybodaeth i鈥檞 hanfon

Mae鈥檙 rhestr isod yn dangos pa wybodaeth sydd ei hangen (os yw鈥檆h meddalwedd cyflogres yn cydweddu):

  • gwneuthuriad a model y car
  • dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf
  • allyriadau carbon deuocsid (CO2)
  • milltiroedd allyriadau sero
  • math o danwydd
  • rhif adnabod y car
  • pris wedi鈥檌 gyfrifo
  • o ba ddyddiad roedd y car ar gael
  • tan ba ddyddiad roedd y car ar gael
  • arian parod cyfwerth neu鈥檙 swm perthnasol
  • y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim
  • arian parod Cyfwerth neu鈥檙 enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd
  • dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn 么l
  • dangosydd y diwygiad

Llenwi鈥檙 blychau

Mae鈥檙 penawdau isod yn dangos pa wybodaeth i鈥檞 chyflwyno yn y FPS cyntaf sy鈥檔 cynnwys treth wedi鈥檌 chynnwys yn y gyflogres.

Gwneuthuriad a model y car

Nodwch wneuthuriad a model y car a ddarperir.

Allyriadau CO2

Nodwch y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy a ddangosir ar y Dystysgrif cofrestru cerbyd (V5C). Does dim angen ffigur CO2 ar gyfer:

  • ceir a gofrestrwyd gyntaf cyn 1998

  • rhai ceir prin sydd wedi鈥檜 mewnforio o dramor

Rhowch 鈥榅鈥� yn y blwch ar gyfer y ceir hyn.

Dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf

Rhaid i鈥檙 dyddiad a nodwyd fod yn heddiw neu鈥檔 gynharach. Gellir gweld y dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf ar eich dogfen V5C.

Milltiroedd allyriadau sero

O 2020 i 2021 Os oes gan gar ffigur allyriadau CO2 sy鈥檔 1-50g/km, bydd yn rhaid i chi nodi milltiroedd allyriadau sero鈥檙 car. Dyma鈥檙 pellter mwyaf mewn milltiroedd y mae鈥檔 bosibl gyrru yn y modd trydan heb ailwefru鈥檙 batri.

Gall cyflogwyr gael yr wybodaeth hon gan y cwmni ceir ar brydles neu gan ddarparwr y fflyd.

Os ydych yn berchen ar y cerbyd, gallwch ddod o hyd i鈥檙 ffigur milltiroedd allyriadau sero ar Dystysgrif Cydymffurfio eich cerbyd.

Math o danwydd

Os ydych yn cyfrifo gwerth trethadwy ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020, dewiswch:

  • 鈥楩鈥� ar gyfer ceir diesel sy鈥檔 bodloni safon Ewro 6d (a elwir hefyd yn RDE2)
  • 鈥楧鈥� ar gyfer pob car diesel arall
  • 鈥楢鈥� ar gyfer pob car arall

Ar gyfer 2019 i 2020, bydd gwybodaeth ar gael gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn eich galluogi i wybod a yw car yn bodloni safon Ewro 6d drwy ei Gwasanaeth Ymholiadau Cerbydau ar-lein ar gyfer ceir a gynhyrchwyd ar 么l mis Medi 2018. Yn yr un modd, mae gwybodaeth safon Ewro 6d ar gael ar y ffurflen V5C ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Medi 2018 ymlaen.

Rhif adnabod y car

Mae鈥檙 blwch hwn yn eich helpu i adnabod pa gar rydych wedi鈥檌 ddyrannu i gyflogai, e.e. pan gaiff yr un modelau eu darparu. Awgrymwn eich bod yn nodi rhif cofrestru鈥檙 car.

Pris wedi鈥檌 gyfrifo

Nodwch y pris wedi鈥檌 gyfrifo. Y pris wedi鈥檌 gyfrifo yw pris sylfaenol y car ynghyd 芒 phris unrhyw ategolion. Yna, tynnwch i ffwrdd unrhyw gyfraniad cyfalaf a dalwyd gan y cyflogai. Ni chaiff taliadau ar gyfer defnydd preifat, neu symiau eraill 鈥榓 gyfrannwyd鈥�, eu cynnwys yn y cyfrifiad hwn.

O ba ddyddiad roedd y car ar gael

Nodwch y dyddiad pan oedd y car ar gael am y tro cyntaf yn y FPS nesaf pan gaiff y cyflogai ei dalu. Dylech nodi 6 Ebrill yn y FPS cyntaf os oedd y car ar gael o鈥檙 dyddiad hwnnw.

Os oedd car newydd neu gar arall ar gael ar 么l anfon y FPS olaf ar gyfer blwyddyn dreth, dylech ddefnyddio鈥檙 FPS gyntaf yn y flwyddyn dreth newydd a nodi 6 Ebrill ar gyfer 鈥榓r gael o鈥�.

I weld pa dreth sy鈥檔 daladwy ar gyfer y cyfnod roedd y car ar gael yn y flwyddyn dreth flaenorol, dylech ailgyfrifo鈥檙 swm trethadwy a鈥檙 dreth sy鈥檔 ddyledus. Yna, anfonwch y rhain ynghyd ag unrhyw ddiwygiad i鈥檙 cyflog trethadwy mewn FPS neu Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU).

Tan ba ddyddiad roedd y car ar gael

Nodwch y dyddiad olaf roedd y car ar gael. Ni allwch nodi dyddiad sydd ar 么l 5 Ebrill mewn FPS ar gyfer yr un flwyddyn dreth.

Os nad oes car ar gael bellach ar 么l anfon y FPS olaf ar gyfer blwyddyn dreth, does dim rhaid i chi anfon FPS wedi鈥檌 ddiwygio ar gyfer data car yn y flwyddyn dreth nesaf. Byddai dyddiad 鈥榓r gael tan鈥� cyn 6 Ebrill yn cael ei wrthod.

Ni ellir anfon FPS mis 1 fel diwygiad ar gyfer data car 芒 dyddiad 31 Mawrth arno. Er enghraifft, os mai 20 Mawrth oedd y dyddiad cyflog olaf, a doedd y car ddim ar gael o 31 Mawrth ymlaen.

Rhaid diwygio鈥檙 symiau trethadwy wedi鈥檜 cynnwys yn y gyflogres ar gyfer y FPS olaf yn ystod blwyddyn dreth, neu rhaid eu cynnwys fel rhan o EYU i ddangos y swm trethadwy diwygiedig. Mae hyn oherwydd y bydd y cyflogai wedi talu鈥檙 swm anghywir o dreth yn seiliedig ar argaeledd y car tan 31 Mawrth.

Arian parod cyfwerth neu鈥檙 swm perthnasol

Nodwch yr arian parod cyfwerth disgwyliedig neu鈥檙 swm perthnasol wrth anfon gwybodaeth am y tro cyntaf mewn FPS.

Y swm perthnasol yw鈥檙 ffigur trethadwy pan fo cyflogai鈥檔 ildio鈥檌 hawl i gael cyflog er mwyn cael buddiant yn lle hynny, megis car cwmni.

Y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim

Nodwch 6 Ebrill ar gyfer y dyddiad os darparwyd tanwydd am ddim o ddechrau鈥檙 flwyddyn dreth. Fel arall, nodwch ddyddiad yn ystod y flwyddyn dreth pan rydych wedi cytuno i ddarparu tanwydd am ddim.

Arian parod cyfwerth neu鈥檙 enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd

Nodwch yr arian parod cyfwerth disgwyliedig neu swm yr enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd sydd ar gael i gyflogai.

Y swm a aberthwyd yw swm yr enillion a aberthwyd er mwyn cael buddiant tanwydd car yn lle hynny.

Y dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn 么l

Nodwch y dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn 么l. Os cafodd y tanwydd am ddim ei dynnu鈥檔 么l ar ddiwedd y flwyddyn dreth flaenorol, ond ni chaiff ei ddarparu yn y flwyddyn dreth newydd, peidiwch 芒 llenwi鈥檙 blwch hwn.

Diwygiadau a chywiriadau

Mae鈥檙 penawdau isod yn dangos sut i gywiro neu ddiwygio cyflwyniad.

Dangosydd y diwygiad

Dylech nodi 鈥業awn鈥� os oes angen cywiriad yn ystod y flwyddyn dreth ar gyfer y blychau canlynol:

  • gwneuthuriad a model y car
  • dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf
  • allyriadau CO2
  • milltiroedd allyriadau sero
  • math o danwydd
  • rhif adnabod y car
  • pris wedi鈥檌 gyfrifo
  • o ba ddyddiad roedd y car ar gael
  • tan ba ddyddiad roedd y car ar gael
  • arian parod cyfwerthneu鈥檙 swm perthnasol
  • y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim
  • arian parod cyfwerth/swm a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd
  • dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn 么l

Yna, nodwch y manylion diwygiedig ar gyfer un neu ragor o鈥檙 blychau uchod yn y FPS nesaf yn y flwyddyn dreth. Os oes angen i chi gyflwyno newid i ddata car yn unig ond ddim manylion cyflog a threth, dylech:

  • adael y blychau 鈥榗yflog yn ystod y cyfnod鈥� yn wag
  • gynnwys y manylion cyflog a threth hyd yma ar gyfer y flwyddyn

Os na thelir incwm yn ystod y cyfnod cyflog nesaf, rhaid i chi roi gwybod am y newid i鈥檙 data car yn unig. Er enghraifft, os telir y cyflogai鈥檔 afreolaidd.

Os daw data car anghywir i鈥檙 amlwg ar 么l i chi anfon y FPS olaf, dylech anfon y manylion cywir yn y FPS cyntaf yn y flwyddyn dreth newydd, os yw鈥檙 car ar gael o hyd. Ni ddylid defnyddio dangosydd y diwygiad.

Cywiriadau

Dim ond yn y FPS nesaf yn ystod y flwyddyn dreth y dylid nodi cywiriadau i wybodaeth am ddata car. Ni allwch roi gwybod am ddiwygiadau i ddata car mewn EYU.

Gwneuthuriad a model y car

Os ydych wedi rhoi disgrifiad anghywir, gwnewch y newidiadau ac anfon y wybodaeth gywir.

CO2

Os ydych wedi nodi鈥檙 ffigur CO2 anghywir, dylech ddewis 鈥業awn鈥� ar gyfer dangosydd y diwygiad ac anfon y ffigur CO2 cywir yn eich FPS nesaf.

Os byddwch yn dod o hyd i鈥檙 ffigur CO2 anghywir ar 么l diwedd y flwyddyn dreth, gwnewch yn si诺r fod y FPS cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth newydd yn dangos y ffigur cywir os yw鈥檙 car yn dal i gael ei gynnwys yn y gyflogres.

Math o danwydd

Os ydych wedi cyflwyno鈥檙 llythyren anghywir ar gyfer y math o danwydd, anfonwch yr un cywir yn eich FPS nesaf a dewiswch 鈥業awn鈥� ar gyfer dangosydd y diwygiad.

Os yw鈥檔 dod i鈥檙 amlwg bod y math o danwydd yn anghywir ar 么l diwedd y flwyddyn dreth, gwnewch yn si诺r fod y FPS cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth newydd yn dangos y math cywir, os yw鈥檙 car yn dal i gael ei gynnwys yn y gyflogres.

Rhif adnabod y car

Os ydych wedi sylweddoli bod cofnod yn anghywir, cyflwynwch y manylion cywir yn eich FPS nesaf a dewiswch 鈥業awn鈥� ar gyfer dangosydd y diwygiad.

Pris wedi鈥檌 gyfrifo

Os yw鈥檙 pris wedi鈥檌 gyfrifo yn anghywir, dylech ddewis 鈥業awn鈥� ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y pris newydd yn y FPS nesaf.

O ba ddyddiad roedd y car ar gael

Os yw鈥檙 dyddiad 鈥榓r gael o鈥� yn anghywir, dylech ddewis 鈥業awn鈥� ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y dyddiad newydd yn y FPS nesaf.

Tan ba ddyddiad roedd y car ar gael

Os sylweddolir, nes ymlaen, bod y dyddiad hwn yn anghywir, dylech ddewis 鈥業awn鈥� ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y dyddiad newydd yn y FPS nesaf cyn diwedd y flwyddyn dreth.

Arian parod cyfwerth/swm perthnasol

Os nad yw鈥檙 car ar gael bellach, neu os yw鈥檙 arian parod cyfwerth neu鈥檙 swm perthnasol yn anghywir, dylid newid yr arian parod cyfwerth neu鈥檙 swm perthnasol yn y FPS nesaf, a rhoi gwybod amdano fel diwygiad.

Y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim

Os yw鈥檙 dyddiad y rhoddir gwybod amdano yn anghywir, dylid anfon diwygiad a nodi dyddiad diwygiedig. Os caiff y tanwydd am ddim ei dynnu鈥檔 么l, nid yw hynny鈥檔 ddiwygiad. Dylech lenwi鈥檙 blwch 鈥榙yddiad y cafodd y tanwydd am ddim ei dynnu鈥檔 么l鈥�.

Arian parod cyfwerth neu鈥檙 enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd

Dylid diwygio鈥檙 blwch hwn os yw鈥檙 arian parod cyfwerth neu swm yr enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd yn anghywir, neu os yw argaeledd y tanwydd yn newid.

Y dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn 么l

Os oedd y dyddiad a nodwyd gennych mewn FPS blaenorol yn yr un flwyddyn dreth yn anghywir, anfonwch y cywiriad fel diwygiad.

Dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf

Os ydych wedi nodi鈥檙 dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf yn anghywir, dylech ddewis 鈥業awn鈥� yn y dangosydd diwygiadau, a nodi鈥檔 gywir y dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) nesaf.

Milltiroedd allyriadau sero

Os ydych wedi nodi鈥檙 milltiroedd allyriadau sero yn anghywir, dylech ddewis 鈥業awn鈥� yn y dangosydd diwygiadau, a nodi鈥檙 milltiroedd allyriadau sero cywir yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) nesaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2020 show all updates
  1. Amendments and corrections information updated for zero emission mileage and date first registered.

  2. Car fuel type information amended for the 2020 to 2021 tax year.

  3. Car fuel type information amended for the 2019 to 2020 tax year.

  4. Updated with information for RDE2 (also known as Euro 6d) compliant diesel cars for tax year 2018 to 2019.

  5. Guidance on payrolling car fuel benefits for employees has been added.

  6. A Welsh language version of the guidance has been added.

  7. First published.

Argraffu'r dudalen hon