Rheolau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd (36 i 46)
Rheolau ar gyfer cadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd, gan gynnwys ar balmentydd ac ar y ffordd.
(Gelwir y rhain yn Gerbydau Pobl Anabl yn y gyfraith)
Rheol 36
Mae un math o gadair olwyn 芒 llaw (a elwir yn gerbyd pobl anabl Dosbarth 1) a dau ddosbarth o gadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd modur. Cadeiriau olwyn 芒 llaw a cherbydau dosbarth 2 yw鈥檙 rhai sydd 芒 therfyn cyflymder uchaf o 4 mya (6 km/h) ac fe鈥檜 cynlluniwyd i鈥檞 defnyddio ar balmentydd. Cerbydau Dosbarth 3 yw鈥檙 rhai sydd 芒 therfyn cyflymder uwch o 8 mya (12 km/h) ac maent wedi鈥檜 cyfarparu i gael eu defnyddio ar y ffordd yn ogystal 芒鈥檙 palmant.
Rheol 37
Pan fyddwch ar y ffordd, dylech ufuddhau i鈥檙 canllawiau a鈥檙 rheolau ar gyfer cerbydau eraill; pan fyddwch ar y palmant dylech ddilyn y canllawiau a鈥檙 rheolau ar gyfer cerddwyr.
Rheol 38
Mae palmentydd yn fwy diogel na ffyrdd a dylid eu defnyddio pan fyddant ar gael. Dylech roi blaenoriaeth i gerddwyr a dangos ystyriaeth ar gyfer defnyddwyr eraill y palmant, yn enwedig y rheini 芒 nam ar y clyw neu鈥檙 golwg nad ydynt o bosibl yn ymwybodol eich bod yno.
Rheol 39
惭补别鈥档 rhaid i gadeiriau olwyn a sgwteri modur BEIDIO 芒 theithio鈥檔 gyflymach na 4 milltir yr awr (6 km/h) ar balmentydd neu mewn ardaloedd i gerddwyr. Efallai y bydd angen i chi leihau eich cyflymder ar gyfer defnyddwyr palmentydd eraill na fyddant o bosibl yn gallu symud o鈥檆h ffordd yn ddigon cyflym neu lle mae鈥檙 palmant yn rhy gul.
Y ddeddf
Rheol 40
Wrth symud oddi ar y palmant i鈥檙 ffordd, dylech gymryd gofal arbennig. Cyn symud oddi ar y palmant, edrychwch o鈥檆h cwmpas bob tro a gwnewch yn si诺r ei bod yn ddiogel i ymuno 芒鈥檙 traffig. Ceisiwch ddefnyddio cyrbau isel bob tro wrth symud oddi ar y palmant, hyd yn oed os bydd hyn yn gofyn i chi deithio ymhellach i ddod o hyd i un. Os oes rhaid i chi ddringo cwrbyn neu ddisgyn ohono, ewch ato bob amser ar ongl sgw芒r a pheidiwch 芒 cheisio croesi cwrbyn yn uwch nac argymhellion gwneuthurwr y cerbyd.
Rheol 41
Dylech fod yn ofalus wrth deithio ar y ffordd gan y gallech fod yn teithio鈥檔 arafach na thraffig arall (mae eich peiriant wedi鈥檌 gyfyngu i 8 mya (12 km/h) a gall fod yn llai gweladwy).
Rheol 42
Wrth fod ar y ffordd, dylai cerbydau Dosbarth 3 deithio yng nghyfeiriad y traffig. Dylai defnyddwyr Dosbarth 2 ddefnyddio鈥檙 palmant bob amser pan fydd ar gael. Os nad oes palmant, dylech fod yn ofalus pan fyddwch ar y ffordd. Lle bo modd, dylai defnyddwyr Dosbarth 2 deithio yng nghyfeiriad y traffig. Os byddwch yn teithio yn y nos pan fydd RHAID i oleuadau gael eu defnyddio, dylech deithio yng nghyfeiriad y traffig i osgoi drysu defnyddwyr eraill y ffordd.
Y ddeddf
Rheol 43
惭补别鈥档 RHAID i chi ddilyn yr un rheolau ynghylch defnyddio goleuadau, dangosyddion a chyrn fel y maent ar gyfer cerbydau ffordd eraill, os bydd eich cerbyd wedi鈥檌 ffitio gyda nhw. Yn y nos, mae鈥檔 RHAID defnyddio goleuadau. Dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd defnyddwyr eraill y ffordd yn eich gweld chi a dylech wneud eich hun yn fwy gweladwy - hyd yn oed yn ystod y dydd ac hefyd gyda鈥檙 nos - er enghraifft, trwy wisgo siaced adlewyrchol neu drwy roi stribedi adlewyrchol ar gefn y cerbyd.
Y ddeddf
Rheol 44
Byddwch yn fwy gofalus ar gyffyrdd ffyrdd. Wrth fynd yn syth ymlaen, gwiriwch i wneud yn si诺r nad oes cerbydau ar fin croesi eich llwybr o鈥檙 chwith, o鈥檙 dde, neu eich goddiweddyd a throi i鈥檙 chwith. Mae sawl opsiwn ar gyfer delio 芒 throeon i鈥檙 dde, yn enwedig wrth droi o ffordd fawr. Os bydd symud i ganol y ffordd yn anodd neu鈥檔 beryglus, gallwch
- stopio ar ochr chwith y ffordd ac aros am fwlch diogel yn y traffig
- croesi鈥檙 troad fel cerddwr, h.y. teithio ar hyd y palmant a chroesi鈥檙 ffordd rhwng palmentydd lle mae鈥檔 ddiogel gwneud hynny. Dylai defnyddwyr Dosbarth 3 newid i derfyn cyflymder isaf y cerbyd pan fyddant ar balmentydd.
Os bydd y gyffordd yn rhy beryglus, efallai byddai鈥檔 werth ystyried ffordd arall. Yn yr un modd, wrth groesi cylchfannau mawr (h.y. 芒 dwy l么n neu fwy) efallai y bydd yn fwy diogel i chi ddefnyddio鈥檙 palmant neu ddod o hyd i lwybr sy鈥檔 osgoi鈥檙 gylchfan yn gyfan gwbl.
Rheol 45
Dylid arsylwi pob cyfyngiad parcio arferol. Ni ddylid gadael eich cerbyd heb neb i ofalu amdano os bydd yn achosi rhwystr i gerddwyr eraill-yn enwedig y rhai mewn cadeiriau olwyn. Bydd consesiynau parcio a ddarperir o dan y cynllun Bathodyn Glas (gweler Darllen pellach) yn berthnasol i鈥檙 cerbydau hynny sy鈥檔 arddangos bathodyn dilys.
Rheol 46
惭补别鈥档 rhaid i鈥檙 cerbydau hyn BEIDIO 芒 chael eu defnyddio ar draffyrdd (gweler Rheol 253).
Ni ddylid eu defnyddio ar ffyrdd deuol anghyfyngedig lle mae鈥檙 terfyn cyflymder yn fwy na 50 mya (80 km/h) ond os byddant yn cael eu defnyddio ar y ffyrdd deuol hyn, mae鈥檔 RHAID iddynt gael golau ambr sy鈥檔 fflachio. Dylid defnyddio golau ambr sy鈥檔 fflachio ar yr holl ffyrdd deuol eraill (gweler Rheol 220).
Deddfau , & &