Atodiad 5. Cosbau

Gwybodaeth a rheolau am gosbau, gan gynnwys pwyntiau ac anghymhwyso, tabl cosb, gyrwyr newydd a chanlyniadau eraill o droseddu.

Cosbau a Rheolau鈥檙 Ffordd Fawr

Y Senedd sy鈥檔 pennu uchafswm y cosbau ar gyfer troseddau traffig ffyrdd. Mae difrifoldeb y drosedd yn cael ei adlewyrchu yn y gosb uchaf. Y llysoedd sydd i benderfynu pa ddedfryd i鈥檞 gosod yn unol ag amgylchiadau.

惭补别鈥檙 Tabl cosb yn nodi rhai o鈥檙 prif droseddau, a鈥檙 cosbau cysylltiedig. Ceir amrywiaeth eang o droseddau eraill mwy penodol nad ydynt, er mwyn symlrwydd, yn cael eu dangos yma. 惭补别鈥檙 system pwyntiau cosb ac anghymhwyso yn cael ei ddisgrifio isod.

Pwyntiau cosb ac anghymhwyso

Bwriad y system pwyntiau cosb yw atal gyrwyr a beicwyr modur rhag ddilyn arferion moduro anniogel. Gall rhai troseddau difoduro, e.e. methu cywiro diffygion cerbyd, hefyd ddenu pwyntiau cosb.

惭补别鈥档 RHAID i鈥檙 llys orchymyn pwyntiau i鈥檞 hardystio ar y drwydded yn 么l y rhif sefydlog neu鈥檙 amrediad a osodir gan y Senedd. Mae cronni pwyntiau cosb yn rhybudd i yrwyr a beicwyr modur bod perygl anghymhwyso os bydd troseddau ychwanegol yn cael eu cyflawni.

Y gyfraith

惭补别鈥档 RHAID i yrrwr neu feiciwr modur sy鈥檔 cronni 12 neu fwy o bwyntiau cosb o fewn cyfnod o 3 blynedd gael ei anghymhwyso. Bydd hyn am gyfnod o 6 mis o leiaf, neu fwy os yw鈥檙 gyrrwr neu鈥檙 beiciwr modur wedi鈥檜 hanghymhwyso yn y gorffennol.

Y gyfraith

Ar gyfer pob trosedd sy鈥檔 arwain at bwyntiau cosb, mae gan y llys b诺er i orchymyn i ddeiliad y drwydded gael ei anghymhwyso yn 么l disgresiwn. Gall hyn fod ar gyfer unrhyw gyfnod y gw锚l y llys yn dda, ond fel arfer bydd rhwng wythnos ac ychydig o fisoedd.

Yn achos troseddau difrifol, fel gyrru peryglus ac yfed a gyrru, mae鈥檔 RHAID i鈥檙 llys orchymyn anghymhwysiad. Y cyfnod lleiaf yw 12 mis, ond ar gyfer ad-droseddwyr neu lle mae lefel yr alcohol yn uchel, gall fod yn hirach. Er enghraifft, bydd ail drosedd gyrru ac yfed o fewn 10 mlynedd yn arwain at o leiaf 3 blynedd o anghymhwysiad.

Y gyfraith

Tabl cosbau

Trosedd Uchafswm cosb Pwyntiau cosb
*Achosi marwolaeth trwy yrru peryglus Carchar am oes / Dirwy ddiderfyn / Gorfodol - 5 mlynedd o isafswm) 3 i 11 (os na chaiff ei ddiarddel trwy eithriad)
*Gyrru鈥檔 beryglus 2 flynedd o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymwysiad gorfodol 3 i 11 (os nad yw wedi鈥檌 anghymhwyso yn 么l eithriad)
*Achosi marwolaeth trwy yrru peryglus o dan ddylanwad diod neu gyffuriau Carchar am oes / Dirwy ddiderfyn / Gorfodol - 5 mlynedd o isafswm) 3 i11 (os na chaiff ei ddiardell trwy eithriad)
Gyrru diofal ac anystyriol Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 3 i 9
Gyrru heb fod yn ffit oherwydd yfed neu gyffuriau neu gydag alcohol dros ben: neu fethu 芒 darparu sbesimen i鈥檞 ddadansoddi 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad gorfodol 3 i 11 (os nad yw wedi鈥檌 anghymhwyso鈥檔 yn 么l eithriad)
Methu 芒 stopio ar 么l damwain neu fethu ag adrodd am ddamwain 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 5 i 10
Gyrru tra鈥檔 anghymwys 6 mis o garchar (12 mis yn yr Alban) / Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 6
Gyrru ar 么l gwrthod neu ddirymu trwydded ar sail feddygol 6 mis o garchar / Dirwy ddiderfyn / Anghymwysiad yn 么l disgresiwn 3 i 6
Gyrru heb yswiriant Dirwy ddiderfyn / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 6 i 8
Defnyddio cerbyd mewn cyflwr peryglus LGV neu PCV diderfyn, cerbydau eraill 拢2,500 / Anghymwysiad gorfodol os yw鈥檙 drosedd wedi鈥檌 chyflawni o fewn 3 blynedd i euogfarn flaenorol am drosedd debyg - isafswm o 6 mis. Yn 么l disgresiwn fel arall 3 ym mhob achos
Methiant i reoli cerbyd yn iawn neu edrych yn llawn ar y ffordd a thraffig o鈥檆h blaen 拢1,000 Dirwy (拢2,500 ar gyfer PCV neu gerbyd nwyddau) / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 3
Defnyddio ff么n symudol a ddelir 芒 llaw wrth yrru 拢1,000 Dirwy (拢2,500 ar gyfer PCV neu gerbyd nwyddau) / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 6
Gyrru heblaw am yn unol 芒 thrwydded 拢1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 3 i 6
Goryrru 拢1,000 dirwy (拢2,500 am droseddau traffordd) / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 3 i 6, neu 3 (cosb benodedig)
Troseddau goleuadau traffig 拢1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn 3
Dim tystysgrif MOT 拢1,000 dirwy -
Troseddau gwregysau diogelwch 拢500 dirwy -
Beicio peryglus 拢2,500 dirwy -
Beicio鈥檔 ddiofal 拢1,000 dirwy -
Beicio ar balmant 拢500 dirwy -
Methu 芒 nodi gyrrwr cerbyd 拢1,000 dirwy / Anghymhwysiad yn 么l disgresiwn -

*Pan fydd llys yn anghymhwyso person ar ei gael yn euog am un o鈥檙 troseddau hyn, mae鈥檔 rhaid iddo orchymyn fail brawf estynedig. Mae gan y llysoedd ddisgresiwn hefyd i orchymyn ailbrofi am unrhyw drosedd arall sy鈥檔 arwain at bwyntiau cosb, fail brawf estynedig pan fo anghymhwysiad yn orfodol, a phrawf cyffredin lle nad oes rhaid anghymhwyso.

Ymhellach, mewn rhai achosion difrifol, mae鈥檔 RHAID i鈥檙 llys (yn ogystal 芒 gosod cyfnod penodol o anghymhwyso) orchymyn i鈥檙 troseddwr gael ei anghymwyso nes iddo basio prawf gyrru. Mewn achosion eraill mae gan y llys b诺er disgresiwn i orchymyn anghymhwysiad o鈥檙 fath. Gall y prawf fod yn brawf hyd arferol neu鈥檔 brawf estynedig yn 么l natur y drosedd.

Y gyfraith

Gyrwyr Newydd

Mae rheolau arbennig fel y nodir isod yn berthnasol am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad pasio eu prawf gyrru cyntaf, i yrwyr a beicwyr modur o

  • y DU, yr UE/AEE, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel neu Gibraltar a basiodd eu prawf gyrru cyntaf yn unrhyw rai o鈥檙 gwledydd hynny

  • gwledydd tramor eraill sy鈥檔 gorfod pasio prawf gyrru yn y DU i ennill trwydded y DU, ac os felly caiff prawf gyrru鈥檙 DU ei drin fel eu prawf gyrru cyntaf; a

  • gwledydd tramor eraill sydd (heb angen prawf) wedi cyfnewid eu trwydded am drwydded y DU ac wedi pasio prawf gyrru yn y DU wedyn i yrru math arall o gerbyd, ac os felly caiff prawf gyrru鈥檙 DU ei drin fel ei brawf gyrru cyntaf. Er enghraifft, bydd gyrrwr sy鈥檔 cyfnewid trwydded dramor (car) am drwydded y DU (car) ac sy鈥檔 pasio prawf yn ddiweddarach i yrru math arall o gerbyd (e.e. HGV) yn destun y rheolau arbennig.

Os yw person sy鈥檔 destun y rheolau arbennig yn cronni 6 neu fwy o bwyntiau cosb cyn diwedd y cyfnod o 2 flwyddyn (gan gynnwys unrhyw bwyntiau a gaffaelwyd cyn pasio鈥檙 prawf), caiff ei drwydded ei dirymu鈥檔 awtomatig. Er mwyn adennill y drwydded mae鈥檔 rhaid iddo ailymgeisio am drwydded dros dro a gall yrru dim ond fel dysgwr hyd nes y bydd yn pasio prawf ychwanegol (gweler hefyd Atodiad 8 鈥� Cod diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd).

Y gyfraith

Sylwch. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydynt yn talu am droseddau drwy gosb benodedig. Nid yw gyrwyr yn y gr诺p cyntaf (DU, UE/AEE ac ati) sydd eisoes 芒 thrwydded lawn ar gyfer un math o gerbyd yn cael eu heffeithio gan y rheolau arbennig os byddant yn pasio prawf yn ddiweddarach i yrru math arall o gerbyd.

Canlyniadau eraill o droseddu

Pan fo trosedd yn cael ei chosbi gan garchar yna gall y cerbyd a ddefnyddir i gyflawni鈥檙 drosedd gael ei atafaelu.

Y gyfraith , , &

Yn ogystal 芒鈥檙 cosbau y caiff llys benderfynu eu gosod, mae cost yr yswiriant yn debygol o godi鈥檔 sylweddol yn dilyn euogfarn am drosedd yrru ddifrifol. Mae hyn oherwydd bod cwmn茂au yswiriant yn ystyried bod gyrwyr o鈥檙 fath yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad.

Bydd gyrwyr a gafodd eu gwahardd am yfed a gyrru ddwywaith o fewn 10 mlynedd, neu unwaith os ydynt dros 2 a hanner gwaith y terfyn cyfreithiol, neu鈥檙 rhai a wrthododd roi sbesimen, hefyd yn gorfod bodloni Cangen Feddygol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau nad oes ganddynt broblem alcohol a鈥檜 bod fel arall yn ffit i yrru cyn i鈥檞 trwydded gael ei dychwelyd ar ddiwedd cyfnod yr anghymhwyso. Gall camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn barhaus arwain at dynnu trwydded yrru yn 么l.