Canllawiau

Adfer diogelwch lwfans oes eich pensiwn

Os ydych wedi colli鈥檆h diogelwch lwfans oes o ganlyniad i unioni鈥檙 pensiwn gwasanaeth cyhoeddus (a elwir hefyd yn McCloud), efallai y byddwch yn gallu ei adfer.

Mae鈥檙 dudalen hon ar gyfer pobl sydd 芒 naill ai:

  • wedi colli eu diogelwch lwfans oes o ganlyniad i unioni鈥檙 pensiynau gwasanaeth cyhoeddus ac am ei adfer
  • dyddiad colled wedi鈥檌 ddiweddaru yn dilyn yr unioni

Darganfyddwch sut i wneud cais am ddiogelwch lwfans oes os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys o ganlyniad i鈥檙 unioni.

Pwy all wneud cais

I fod yn gymwys i adfer eich diogelwch lwfans oes, mae鈥檔 rhaid eich bod wedi:

  • bod yn aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022
  • cael gwasanaeth pensiynadwy ar 31 Mawrth 2012
  • colli eich diogelwch lwfans oes o ganlyniad i unioni鈥檙 pensiynau gwasanaeth cyhoeddus
  • cael naill ai:
    • Diogelwch Uwch
    • Diogelwch Penodol
    • Diogelwch Penodol 2014
    • Diogelwch Penodol 2016

Cyn i chi ddechrau

I wneud cais i adfer eich diogelwch lwfans oes, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeirnod y diogelwch a gollwyd (dim ond un diogelwch a gollwyd y gallwch wneud cais i鈥檞 adfer)
  • manylion y cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yr ydych yn aelod ohono, gan gynnwys enw鈥檙 cynllun a chyfeirnod treth y cynllun pensiwn (PSTR)
  • y dyddiad colled wedi鈥檌 ddiweddaru, os nad yw鈥檙 dyddiad a roesoch yn flaenorol i CThEF yn gywir mwyach
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Gwneud cais i adfer eich lwfans oes

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi鈥檙 ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw鈥檆h cynnydd.

  2. Llenwch y .

  3. Argraffwch y ffurflen a鈥檌 hanfon drwy鈥檙 post i CThEF gan ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad post a ddangosir ar ddiwedd y ffurflen.

Ar 么l i chi wneud cais

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pan fydd eich lwfans oes wedi鈥檌 adfer. Gallai鈥檙 llythyr gynnwys cyfeirnod newydd pe bai un wedi鈥檌 greu.

Os byddwn yn anfon cyfeirnod newydd atoch, mae鈥檔 rhaid i chi ei roi i weinyddwr eich cynllun pensiwn.

Os gwnaethoch ddweud wrthym am ddyddiad colled newydd, byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi a yw hwn wedi鈥檌 ddiweddaru.

Colli eich diogelwch

Os byddwn yn adfer eich diogelwch lwfans oes, bydd angen i chi fodloni鈥檙 amodau o鈥檙 dyddiad y dechreuodd y diogelwch yn wreiddiol.

Bydd angen i chi wirio鈥檙 amodau ar gyfer colli diogelwch lwfans oes (yn Saesneg), yn dibynnu ar ba ddiogelwch sydd gennych.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Awst 2023

Argraffu'r dudalen hon