Cofrestru fel unig fasnachwr is-gontractwr, neu wneud cais am statws taliadau gros
Defnyddiwch ffurflen CIS302 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i gofrestru fel unig fasnachwr is-gontractwr, i wneud cais am statws taliadau gros neu鈥檙 ddau.
Cyn i chi ddechrau
Os nad ydych am wneud cais am statws taliad gros, gallwch .
Cofrestru ar-lein
Er mwyn llenwi鈥檙 ffurflen ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
-
eich rhif Yswiriant Gwladol
-
eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
-
eich Rhif TAW, os yw鈥檔 gymwys
-
eich trosiant ar gyfer y 12 mis diwethaf
-
tystiolaeth o drosiant 鈥� megis datganiadau banc, datganiadau o daliadau a didyniadau ac anfonebau
-
manylion cyfrif banc
-
eich cyfeirnod TWE (os yw鈥檔 berthnasol)
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio鈥檆h Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檆h cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).
Os ydych chi鈥檔 asiant, bydd angen i chi ddefnyddio鈥檙 Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth rydych chi鈥檔 ei ddefnyddio i fewngofnodi i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant.
Os na allwch gofrestru ar-lein
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am lenwi鈥檙 ffurflen bost yn
.-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi鈥檙 ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw鈥檆h cynnydd.
-
Llenwch .
-
Argraffwch y ffurflen hon, a鈥檌 hanfon at CThEF drwy鈥檙 post.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch [email protected] a rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
I ble i anfon y ffurflen
Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
BX9 1ST