Lleihau'r risg o glefydau o unedau storio bwyd anifeiliaid
Sut i leihau'r risg o glefydau o'ch unedau storio bwyd anifeiliaid.
Fel ceidwad gwartheg, rhaid i chi lanhau eich ardaloedd storio bwyd anifeiliaid, eich cynwysyddion a鈥檆h cyfarpar yn rheolaidd. Bydd hyn yn osgoi dihalogi diangen ac yn lleihau鈥檙 risg o glefyd ar eich fferm.
Mae glanhau storfeydd bwyd anifeiliaid yn rheolaidd yn hanfodol i gynnal iechyd eich anifeiliaid. Byddwch hefyd yn lleihau鈥檙 risg bosibl o Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) o hen weddillion bwyd wedi鈥檜 halogi mewn unedau storio.
Achoswyd BSE mewn gwartheg drwy wartheg yn bwyta cynhyrchion anifeiliaid wedi鈥檜 rendro a oedd wedi鈥檜 halogi 芒 chyfrwng BSE. Yn sgil gwaharddiad ar broteinau anifeiliaid mewn bwyd i anifeiliaid fferm yn 1996, mae achosion o BSE clasurol yn brin erbyn hyn ond mae achosion yn parhau i godi o bryd i鈥檞 gilydd.
Defnyddiwch y canllawiau hyn i leihau鈥檙 risg bosibl o glefydau, gan gynnwys BSE, o storfa fwyd ar eich fferm, a chadwch eich anifeiliaid yn iach ac yn gynhyrchiol.
Ble i storio bwyd anifeiliaid聽
Gallwch ddewis ble i storio bwyd anifeiliaid ar eich fferm. Mae鈥檙 opsiynau鈥檔 cynnwys:聽
- biniau storio neu seilos ar gyfer swmpddeunyddiau a all fod wedi鈥檜 selio neu heb eu selio
- cistiau neu gilfachau ar gyfer storio swmpddeunyddiau ar y llawr, wedi鈥檜 gwahanu fel arfer gan bartisiynau concrid neu bren
- siediau neu storfeydd fferm eraill ar gyfer cynhwysion mewn bagiau
- bwyd anifeiliaid wedi鈥檌 storio mewn pentyrrau mewn adeiladau heb eu selio
Os ydych yn storio bwyd mewn seilo a ddefnyddiwyd cyn 1 Awst 1996聽
Dylech ddatgomisiynu unrhyw seilos a ddefnyddiwyd gennych cyn 1 Awst 1996 i storio bwyd anifeiliaid a chael rhai newydd. Bydd hyn yn dileu鈥檙 risg bosibl o BSE o olion o hen fwyd a ddaliwyd mewn uniadau a rhychau. Gall y mymryn lleiaf o fwyd wedi鈥檌 halogi heintio anifail 芒鈥檙 cyfrwng BSE.
Os na allwch gael gwared ar eich hen seilo, dylech drefnu iddo gael ei lanhau cyn gynted 芒 phosibl. Sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:
- cael gwared ar weddillion hen fwyd trwy ddulliau glanhau sych neu lanhau 芒 sugnydd llwch, ac yna ddefnyddio diheintydd os oes modd.
- glanhau arwyneb allanol a mewnol y seilo a鈥檆h llawr (os na allwch fynd at yr arwynebau mewnol, er enghraifft ar storfa gaeedig, datgymalwch y seilo i鈥檞 lanhau, os oes modd)
- glanhau deunydd a llwch o鈥檙 gwaith dur uwchben am i lawr, hyd nes y byddwch yn methu 芒 chodi rhagor o lwch
- sychu eich seilo o unrhyw leithder cyn i chi ei ddefnyddio i storio bwyd ffres
Dylech ddefnyddio gwasanaeth glanhau proffesiynol, os yw glanhau eich seilo yn debygol o fod yn anodd neu鈥檔 beryglus i iechyd a diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill.
Glanhau鈥檙 holl gyfleusterau storio bwyd聽
Dylai fod gennych system ar waith i wneud yn si诺r eich bod yn gwagio ac yn glanhau eich holl unedau a chyfarpar storio bwyd yn rheolaidd.
Cyn i chi dderbyn cyflenwadau bwyd anifeiliaid newydd, dylech wagio a glanhau eich unedau storio i osgoi croeshalogi. Os na fydd hyn yn bosibl bob tro y byddwch yn ail-lenwi, anelwch at wneud hynny bob 12 mis o leiaf cyn ail-lenwi.
Dylai eich dull glanhau wneud y canlynol:
- lleihau鈥檙 risg o halogi i鈥檙 eithaf
- osgoi cyflwyno lleithder, ble bynnag y bo modd
- peidio 芒 chreu llwch, a allai arwain at ddatblygu bacteria
- cynnwys sugnlanhau fel y dull a ffefrir ar gyfer gwaredu gweddillion hen fwyd
Dylech ond ddefnyddio dulliau glanhau gwlyb os oes angen, er enghraifft er mwyn diheintio鈥檔 briodol. Ar 么l glanhau gwlyb, sychwch unrhyw gyfarpar a pheiriannau a fydd yn dod i gysylltiad 芒 chynnyrch sych. Dim ond cemegion addas y dylid eu defnyddio i lanhau arwynebau y bydd eich cynhyrchion bwyd yn dod i gysylltiad 芒 nhw. Gwnewch yn si诺r eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau鈥檙 gwneuthurwr ar gynhyrchion glanhau.
Gallwch ddefnyddio鈥檙 i鈥檆h helpu i ddod o hyd i gynnyrch addas.
Cael gwared ar weddillion cyflenwadau bwyd cynharach 聽聽
Defnyddiwch ddulliau sych neu sugnlanhau er mwyn cael gwared ar weddillion bwyd yn llwyr. Yna, defnyddiwch ddiheintydd i sicrhau hylendid da. Dyma鈥檙 dull a ffefrir, ond gallwch ddefnyddio unrhyw ddull a fydd yn cael gwared ar unrhyw lwch a deunydd wedi鈥檌 ddal yn llwyr.
Pan fyddwch yn glanhau seilos a biniau, rhowch sylw penodol i uniadau a rhychau lle y gall hen fwyd gael ei ddal.
Dylech hefyd lanhau cafnau a hopranau yn drwyadl i gael gwared ar weddillion bwyd cynharach ac atal croeshalogi.
Diheintio a sychu eich unedau聽
Defnyddiwch ddiheintydd sydd hefyd yn gweithio fel glanedydd os ydych yn defnyddio dulliau glanhau gwlyb. Dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi ei ddefnyddio.
Sychwch eich cyfleuster storio i gael gwared ar unrhyw leithder cyn i chi ei ail-lenwi.
Trefnu eich ardal storio
Ystyriwch y math o gynhyrchion sydd wedi鈥檜 storio a鈥檜 cyflwr. Dylai eich ardal storio gadw eich cynhyrchion yn l芒n, yn sych ac yn drefnus.
Gall lleithder achosi i facteria luosi, felly dylech gadw eich cynhyrchion yn sych (ac eithrio鈥檙 cynhyrchion hynny sydd i fod yn llaith). Dylech hefyd leihau unrhyw symudiad posibl o lwch rhwng cydrannau storfa.
Trefnwch eich cyfleusterau storio i sicrhau:
- bod digon o le i wahanu pob cynnyrch
- bod modd adnabod pob cynnyrch yn hawdd
Cadw cofnod o鈥檆h gweithgareddau glanhau 聽聽
Cofnodwch fanylion yr holl weithgareddau glanhau ar gyfer cynhyrchu bwyd anifeiliaid a鈥檌 storio ar eich fferm.
Dylech gynnwys y canlynol ar gyfer pob gweithgaredd glanhau:
- dyddiad ac amser
- lleoliad
- ardaloedd neu gyfarpar a lanhawyd
- cynhyrchion glanhau a ddefnyddiwyd gennych
Dylech gadw eich cofnodion am 7 mlynedd o leiaf.