Canllawiau

Ad-dalu tocynnau ar gyfer digwyddiadau elusennol a ganslwyd yn ystod yr achos o goronafeirws (COVID-19)

Cael gwybod am newidiadau i helpu elusennau i brosesu ad-daliadau, casglu rhoddion a hawlio Rhodd Cymorth ar gyfer digwyddiadau a ganslwyd oherwydd coronafeirws (COVID-19).

Er mwyn helpu i leihau beichiau gweinyddol ar elusennau, os caiff digwyddiad elusennol ei ganslo oherwydd coronafeirws (COVID-19), bydd CThEM yn derbyn, pan fydd person ag ad-daliad yn ddyledus iddo yn penderfynu rhoi hyn i elusen, fod gofynion S416 ITA07 yn cael eu bodloni, ar yr amod:

  • bod yr unigolyn:
    • yn peidio 芒 chael budd-dal o ganlyniad i鈥檞 rodd
    • yn cytuno bod cost ei docyn yn troi鈥檔 rhodd
    • yn cwblhau datganiad Rhodd Cymorth
  • bod yr elusen yn cadw llwybr archwilio, gan gynnwys copi o鈥檙 cytundeb gan unigolyn sy鈥檔 cytuno i roi cost y tocyn fel rhodd

Nid oes rhaid i鈥檙 elusen ad-dalu pris y tocyn yn gorfforol mwyach er mwyn i鈥檙 unigolyn ei roi fel rhodd yn ddiweddarach.

Digwyddiadau y mae鈥檙 newid yn effeithio arnynt

Mae unrhyw docyn ar gyfer digwyddiad elusennol sydd wedi鈥檌 ganslo oherwydd coronafeirws (COVID-19) yn gymwys ar gyfer y newidiadau dros dro hyn.

Digwyddiadau nad yw鈥檙 newid yn effeithio arnynt

Os yw鈥檙 digwyddiad elusennol wedi鈥檌 ohirio a heb ei ganslo, nid yw unrhyw docynnau ar gyfer y digwyddiad hwnnw鈥檔 gymwys ar gyfer y newidiadau dros dro.

Proses i鈥檞 dilyn

Rhaid i鈥檙 elusen wneud y canlynol:

  • cysylltu 芒鈥檙 unigolyn a wnaeth brynu ynghynt docynnau鈥檙 digwyddiad a ganslwyd
  • esbonio bod gan yr unigolyn hawl i ad-daliad ond efallai y dymunai roi cost y tocyn i鈥檙 elusen
  • ei gwneud yn glir nad oes rhaid i鈥檙 unigolyn roi鈥檙 ad-daliad fel rhodd 鈥� ond os yw鈥檔 dewis ei roi fel rhodd, ni ellir ei ad-dalu
  • gwneud yn si诺r bod gan yr unigolyn ddigon o dreth i dalu am y rhodd
  • dogfennu鈥檙 sgwrs 芒鈥檙 unigolyn a chadw cofnodion o hyn
  • sicrhau bod datganiad Rhodd Cymorth ar waith ar gyfer yr unigolyn

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ebrill 2020

Argraffu'r dudalen hon