Canllawiau

Ein Gwaith

Amlinelliad o'r broses bar么l

Ein cyfrifoldebau

Ein prif r么l yw penderfynu a yw carcharorion sy鈥檔 gwneud dedfrydau amhenodol, a鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 gwneud dedfrydau penodol ar gyfer troseddau difrifol, yn parhau i gyflwyno risg arwyddocaol i鈥檙 cyhoedd.

Y prif achosion rydym yn eu harolygu yw鈥檙 rhai ar gyfer carcharorion yn gwneud:

  • dedfrydau oes a dedfrydau carcharu er amddiffyn y cyhoedd (IPP), o dan .
  • dedfrydau penodol estynedig (EDS), o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 [(fel y鈥檌 diwygiwyd gan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Tramgwyddwyr 2012)] ( http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2012/10/contents/enacted)
  • dedfrydau ar gyfer tramgwyddwyr sy鈥檔 peri pryder arbennig, gan gynnwys terfysgwyr a throseddwyr rhyw 芒 phlant, o dan .

Rydym hefyd yn ystyried:

  • ail-ryddhau carcharorion a adelwir i鈥檙 carchar am dorri amodau eu trwydded o dan .

Asesiad Achos Aelod

Asesiad Achos Aelod, neu AAA (MCA), yw鈥檙 cam cyntaf yn y broses bar么l. Ni allwn gychwyn adolygiad par么l carcharor nes i鈥檞 hachos gael ei gyfeirio atom gan Adran Gwaith Achos Diogelu鈥檙 Cyhoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Unwaith mae achos wedi ei gyfeirio atom, rydym yn derbyn coflen y carcharor o鈥檙 ddalfa lle c芒nt eu cadw. Casgliad o adroddiadau a thystiolaeth am y carcharor yw鈥檙 goflen. Yna bydd un aelod o鈥檙 Bwrdd Par么l yn adolygu鈥檙 goflen ac yn gwneud asesiad ar sail y dystiolaeth a gynhwysir ynddi. Mae pedwar deilliant posibl:

  • Mae鈥檙 aelod yn penderfynu bod angen gwrandawiad llafar i glywed tystiolaeth gan y carcharor wyneb yn wyneb
  • Penderfyniad negyddol, lle mae鈥檙 aelod yn penderfynu peidio 芒 rhyddhau鈥檙 carcharor o鈥檙 ddalfa
  • argymhelliad i鈥檞 drosglwyddo i amodau agored (mewn rhai achosion yn unig y gellir gwneud hyn)
  • Ar gyfer rhai mathau o ddedfryd, gall yr aelod benderfynu rhyddhau carcharor ar sail gwybodaeth sydd yn y goflen.

Os caiff y carcharor benderfyniad negyddol, mae ganddynt 28 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad i ofyn am wrandawiad llafar. Gall y carcharor neu eu cyfreithiwr wneud hyn trwy ysgrifennu atom. Os nad yw鈥檙 carcharor yn gofyn am wrandawiad llafar o fewn 28 diwrnod, bydd y penderfyniad yn un terfynol a byddant yn aros yn y ddalfa nes eu bod yn gymwys i gael adolygiad par么l arall neu鈥檔 cael eu rhyddhau鈥檔 awtomatig dan amodau eu dedfryd.

Gwrandawiadau Llafar

Mae gwrandawiad llafar yn digwydd pan fydd aelodau o鈥檙 Bwrdd Par么l yn clywed tystiolaeth gan garcharor wyneb yn wyneb a chan bobl broffesiynol sydd wedi gweithio gyda nhw yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa.

Pan benderfynir bod achos yn galw am wrandawiad llafar, bydd rheolwyr achos y Bwrdd Par么l yn cysylltu 芒鈥檙 holl dystion fydd yn y gwrandawiad (e.e. cyfreithiwr y carcharor, Rheolwr y Troseddwr ac Arolygwr y Troseddwr) i ganfod pryd byddant ar gael. Yna anfonir yr achos at ein T卯m Rhestrau i ganfod dyddiad pan fydd pob tyst ac aelodau o鈥檙 Bwrdd Par么l yn gallu bod yn bresennol, ac y gall y carchar ddarparu lle iddynt gwrdd.

Mewn rhai achosion efallai byddwn yn cysylltu 芒鈥檙 carcharorion i ofyn iddynt gytuno i gael gwyliwr yn eu gwrandawiad llafar. Gan amlaf mae hyn at ddibenion hyfforddi pobl sydd ynghlwm 芒鈥檙 broses bar么l. Nid yw gwylwyr ynghlwm wrth y gwrandawiad llafar na鈥檙 broses o benderfynu. Mae gan garcharorion hawl bob tro i wrthod cael gwyliwr yn y gwrandawiad.

Gall panel gwrandawiad llafar gynnwys un, dau neu dri aelod o鈥檙 Bwrdd Par么l. Bydd 鈥榗adeirydd鈥� panel yno bod amser, yn gofalu am y gwrandawiad. Mewn rhai achosion bydd angen aelod arbenigol. Gallai hwn fod yn seicolegydd neu seiciatrydd.

Cyn dyddiad y gwrandawiad, bydd cadeirydd y panel yn adolygu coflen y carcharor ac yn gofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar y panel, ym marn y cadeirydd, er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y gwrandawiad.

Weithiau, yn lle teithio i鈥檙 carchar, bydd y panel wedi eu lleoli yn Hyb y Par么l yn Llundain a byddant yn cynnal y gwrandawiad trwy gyswllt fideo. Mae hyn yn golygu bod tysion yn y carchar yn gweld y panel ar sgri卯n deledu.

Cyflwynir penderfyniad ysgrifenedig o fewn 2 wythnos i ddyddiad y gwrandawiad. Pan fydd rheolwr achos y Bwrdd Par么l yn derbyn y penderfyniad oddi wrth gadeirydd y panel, byddant yn ei rannu gyda鈥檙 carcharor trwy eu dalfa a鈥檙 holl bart茂on eraill sydd 芒 buddiant (e.e. cyfreithiwr y carcharor a鈥檜 Rheolwr Troseddwr). Os bydd y carcharor yn cael ei ryddhau bydd Adran Gwaith Achos Diogelu鈥檙 Cyhoedd yn cadarnhau amodau eu trwydded (gweler y Canllawiau Amodau Trwydded am wybodaeth bellach). Os nad yw鈥檙 carcharor yn mynd i gael ei ryddhau, bydd Adran Gwaith Achos Diogelu鈥檙 Cyhoedd yn cadarnhau dyddiad yr adolygiad nesaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Mawrth 2019 show all updates
  1. Cynllun Iaith Gymraeg Fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu gwybodaeth am bar么l yn Gymraeg a Saesneg, erbyn hyn rydym wedi diweddaru nifer o adrannau ar ein tudalennau gwe i'r ddwy iaith. Welsh Language Scheme As part of our commitment to providing information about parole in English and Welsh we have now updated a number of sections on our web pages into both languages.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon