Ap COVID-19 y GIG: canllawiau ar lawrlwytho a gosod
Darllenwch ein canllawiau ar sut mae lawrlwytho a gosod ap COVID-19 y GIG.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Llwytho鈥檙 ap i lawr
Caiff yr ap ei ddiweddaru o bryd i鈥檞 gilydd gyda swyddogaethau newydd a gwelliannau. Mae鈥檙 fersiwn ddiweddaraf yn cynnwys y nodweddion a鈥檙 cyngor diweddaraf felly mae鈥檔 bwysig eich bod yn ei diweddaru.
Dewiswch y math o ff么n sydd gennych i ddechrau arni.
Sut mae llwytho鈥檙 ap i lawr ar iPhone
Sut mae llwytho鈥檙 ap i lawr ar ff么n Android
Os nad ydych chi鈥檔 si诺r pa fath o ff么n sydd gennych, bydd gan iPhone ap arno o鈥檙 enw App Store. Ar ffonau Android, yr enw arno yw Play Store. Gallwch hefyd edrych sut fath o ff么n sydd gennych chi drwy fynd i Settings > General > About > Model name. Os oes gennych chi iPhone bydd yn cadarnhau hyn yn 鈥楳odel name鈥�.
Bydd eich ff么n yn dangos 鈥楢ndroid version鈥� yn Settings > About phone, os mai ff么n Android sydd gennych chi.
Ar gyfer eich p脿s COVID y GIG, defnyddiwch .
Mae鈥檙 ap wedi鈥檌 ddylunio i gael ei ddefnyddio gan un person fesul ff么n. Dylech lwytho鈥檙 ap i lawr a鈥檌 ddefnyddio ar eich ff么n clyfar eich hun, os oes gennych chi un.
Os oes gennych chi fwy nag un ff么n, gosodwch yr ap ar y ff么n rydych chi鈥檔 ei ddefnyddio amlaf a鈥檌 gario gyda chi bob amser. Os mai ff么n gwaith yw鈥檙 ff么n rydych chi鈥檔 ei ddefnyddio amlaf a鈥檆h bod yn cael trafferth llwytho鈥檙 ap i lawr, holwch eich cyflogwr.
Canllawiau ar lawrlwytho a gosod ar gyfer Android
Cam 1: Dewch o hyd i ap COVID-19 y GIG ar Google Play Store, a鈥檌 osod
Dilynwch y camau hyn i ddod o hyd i鈥檙 ap ar eich ff么n Android:
- Chwiliwch am ap Google Play Store a鈥檌 daro i鈥檞 agor.
- Tarwch y blwch chwilio 鈥楽earch for apps and games鈥�.
- Teipiwch 鈥楴HS COVID-19鈥� i chwilio am yr ap. Byddwch yn gweld rhestr o ganlyniadau. Dewiswch yr ap gyda鈥檙 enw 鈥楴HS COVID-19鈥�.
- Tarwch 鈥業nstall鈥� i ddechrau llwytho鈥檙 ap i lawr.
Cam 2: Trowch Bluetooth ymlaen yng ngosodiadau eich ff么n
Ar 么l llwytho鈥檙 ap i lawr, bydd angen i chi alluogi Bluetooth fel bod olrhain cysylltiadau鈥檔 gweithio.
- Ewch i sgrin hafan eich ff么n. Chwiliwch am 鈥楽ettings鈥� a鈥檌 daro i鈥檞 agor.
- Sgroliwch i lawr yn 鈥楽ettings鈥� nes i chi ddod at 鈥楥onnected devices鈥� neu 鈥楥onnections鈥� a鈥檌 daro i鈥檞 agor.
- Chwiliwch am 鈥楤luetooth鈥� a鈥檌 daro. Efallai y bydd angen i chi agor 鈥楥onnected preferences鈥� i ddod o hyd i Bluetooth, yn dibynnu ar fodel eich ff么n.
- Tarwch y llithrydd wrth ymyl Bluetooth i鈥檞 alluogi. Dylai newid lliw pan fydd Bluetooth ymlaen.
- Efallai y bydd eich ff么n yn gofyn i chi ddewis dyfais Bluetooth gerllaw. Does dim angen gwneud hyn i olrhain cysylltiadau weithio, felly gallwch gau鈥檙 sgrin hon os yw鈥檔 ymddangos.
Cam 3: Defnyddio鈥檙 ap
- Ewch yn 么l i sgrin hafan eich ff么n lle gallwch weld pob un o鈥檆h apiau. Chwiliwch am ap COVID-19 y GIG a鈥檌 daro i鈥檞 agor.
- Mae ap COVID-19 y GIG yn weithredol nawr.
- Gallwch ddefnyddio eich ff么n yn 么l yr arfer. Fodd bynnag, gwnewch yn si诺r fod yr ap yn rhedeg yn y cefndir a bod Bluetooth wedi鈥檌 alluogi fel bod olrhain cysylltiadau鈥檔 gweithio.
Canllawiau ar lawrlwytho a gosod ar gyfer iPhone
Cam 1: Dewch o hyd i ap COVID-19 y GIG ar App Store, a鈥檌 osod
Dilynwch y camau hyn i ddod o hyd i鈥檙 ap ar eich iPhone:
- Chwiliwch am ap App Store a鈥檌 daro i鈥檞 agor.
- Cliciwch ar 鈥楽earch鈥� yng ngwaelod y sgrin.
- Teipiwch 鈥楴HS COVID-19 app鈥� yn y bar chwilio. Byddwch yn gweld rhestr o ganlyniadau. Ar eich sgrin byddwch nawr yn gallu gweld ap COVID-19 y GIG.
- Tarwch y botwm 鈥楪et鈥�.
- Efallai y gofynnir i chi deipio manylion eich Apple ID i gadarnhau pwy ydych chi. Gallwch hefyd ddefnyddio鈥檙 dull dilysu gydag 么l bys neu wyneb, os ydych chi wedi galluogi鈥檙 rhain yn barod.
Cam 2: Trowch Bluetooth ymlaen yng ngosodiadau eich iPhone
Ar 么l llwytho鈥檙 ap i lawr, bydd angen i chi alluogi Bluetooth fel bod olrhain cysylltiadau鈥檔 gweithio.
- Ewch i sgrin hafan eich iPhone. Chwiliwch am 鈥楽ettings鈥� a鈥檌 daro i鈥檞 agor.
- Sgroliwch i lawr yn y Gosodiadau nes i chi ddod o hyd i Bluetooth. Tarwch arno i鈥檞 agor.
- Tarwch y llithrydd wrth ymyl Bluetooth i鈥檞 alluogi. Dylai droi鈥檔 wyrdd pan fydd Bluetooth ymlaen.
Cam 3: Defnyddio鈥檙 ap
- Ewch yn 么l i sgrin hafan eich ff么n lle gallwch weld pob un o鈥檆h apiau. Chwiliwch am ap 鈥楴HS COVID-19鈥� a鈥檌 daro i鈥檞 agor.
- Mae ap COVID-19 y GIG yn weithredol nawr.
- Gallwch ddefnyddio eich ff么n yn 么l yr arfer, ond gwnewch yn si诺r fod yr ap yn cael ei redeg yn y cefndir a bod Bluetooth wedi鈥檌 alluogi.
Rhoi eich cod post
Bydd yr ap yn gofyn i chi am ran gyntaf eich cod post. Er enghraifft, 鈥楶E12鈥�. Ni fydd yn darparu鈥檙 union leoliad lle rydych chi鈥檔 byw. Os yw eich rhanbarth post yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd yr ap yn gofyn i chi ym mha awdurdod lleol rydych chi鈥檔 byw. Diben hyn yw sicrhau bod yr ap yn gallu rhoi鈥檙 wybodaeth fwyaf cywir i chi ar gyfer eich ardal.
Newid iaith
Mae鈥檙 ap ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Arabeg (Safon Fodern), Bengaleg, Tsiein毛eg (Wedi鈥檌 symleiddio), Gwjarati, Pwyleg, Pwnjabeg (sgript Gurmukhi), Rwmaneg, Somalieg, Tyrceg ac Wrdw.
I newid iaith yr ap, dewiswch Gosodiadau ar sgrin hafan ap COVID-19 y GIG. Efallai y bydd yn rhaid i chi lwytho fersiwn ddiweddaraf yr ap i lawr.
O dan Gosodiadau, dewiswch Iaith. Bydd yr ap yn dangos y canlynol.
Iaith y system
Dyma osodiad iaith eich ff么n.
Ieithoedd
Yma, gallwch ddewis ym mha iaith rydych chi am ddefnyddio ap COVID-19 y GIG. Gall fod yn wahanol i iaith eich system. Pan fyddwch chi wedi dewis yr iaith, bydd angen i chi gadarnhau eich dewis. Bydd eich ap nawr yn ymddangos yn yr iaith rydych chi wedi鈥檌 dewis.
Newid y gosodiadau hygyrchedd
Mae ap COVID-19 y GIG yn ap cynhenid sydd wedi鈥檌 greu ar gyfer dyfeisiau Apple iOS ac Android. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddefnyddio鈥檙 gosodiadau hygyrchedd parod ar eich ff么n i deilwra鈥檙 gofynion hygyrchedd yn 么l yr angen.
Ewch i 鈥楽ettings鈥� yna 鈥楢ccessibility鈥� i wneud newidiadau. Sylwch y bydd y newidiadau鈥檔 cael eu gwneud i鈥檆h ff么n ac nid i鈥檙 ap yn unig.
Mae鈥檔 bosibl diffodd animeiddiad y cylchoedd sy鈥檔 symud ar sgrin hafan ap COVID-19 y GIG drwy osodiadau鈥檙 ap. Os oes gennych chi iPhone, ewch i 鈥楽ettings鈥� ac yna 鈥楳otion (Animations)鈥� a dewis 鈥榶mlaen鈥� neu 鈥榙iffodd鈥�, pa un bynnag sydd orau gennych. Ar yr iPhone, efallai y bydd yr animeiddiad wedi cael ei 鈥榙diffodd鈥� yn awtomatig oherwydd gosodiad ar eich ff么n o鈥檙 enw 鈥楻educe Motion鈥�. I newid 鈥楻educe Motion鈥�, ewch i 鈥楽ettings鈥� yna 鈥楢ccessibility鈥�. Dewiswch 鈥楳otion鈥�, yna gallwch droi 鈥楻educe Motion鈥� ymlaen neu ei ddiffodd. Os oes gennych chi ff么n Android, ewch i 鈥楽ettings鈥� yna 鈥楢nimations鈥�, a dewiswch 鈥榦n鈥� neu 鈥榦ff鈥�, pa un bynnag sydd orau gennych.
Newid eich cod post
Gallwch chi newid eich cod post yn yr ap drwy fynd i鈥檙 sgrin hafan a mynd i 鈥楪osodiadau鈥�. O鈥檙 fan honno, cliciwch 鈥楧ata ardal鈥� yna 鈥楪olygu鈥�. Os yw eich rhanbarth post yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd yr ap yn gofyn i chi ym mha awdurdod lleol rydych chi鈥檔 byw. Ewch i 188体育 i ganfod ym mha awdurdod lleol rydych chi鈥檔 byw.
Ni ddylech olygu eich rhanbarth post oni bai eich bod wedi symud t欧 a bod rhanbarth post eich cartref wedi newid o ganlyniad i hynny.
Atal y cyfleuster olrhain cysylltiadau
Dylech atal y cyfleuster olrhain cysylltiadau pan fyddwch:
- yn gweithio y tu 么l i sgrin ac yn cael eich diogelu鈥檔 llwyr rhag pobl eraill
- yn cadw eich ff么n mewn locer neu fan cymunedol, er enghraifft wrth weithio neu gymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden fel nofio
- yn weithiwr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn gwisgo cyfarpar diogelu personol graddfa feddygol, fel masg llawfeddygol
- yn weithiwr gofal iechyd sy鈥檔 gweithio mewn adeilad gofal iechyd fel ysbyty neu feddygfa meddyg teulu
Gallwch osod nodyn atgoffa i roi鈥檙 cyfleuster olrhain cysylltiadau ar waith eto ar 么l 4 awr, 8 awr neu 12 awr.