Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd: adolygiad o hawliadau gyda phensiwn etifeddol
Sut i ddarganfod a oes arian yn ddyledus i chi os gwnaethoch hawlio JSA Dull Newydd rhwng 19 Mawrth 2020 a 19 Tachwedd 2022 a dywedoch fod gennych bensiwn.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
惭补别鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn adolygu hawliadau Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) a wnaed rhwng 19 Mawrth 2020 a 19 Tachwedd 2022.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, efallai ein bod wedi trin incwm o bensiwn a etifeddwyd gan rywun sydd wedi marw yr un fath ag incwm o bensiynau eraill.
Gall incwm o bensiynau eraill effeithio ar faint o JSA Dull Newydd a gewch. Nid yw incwm pensiynau a etifeddwyd gan rywun sydd wedi marw yn effeithio ar hawliadau JSA dull newydd.
惭补别鈥檙 DWP yn anfon negeseuon testun neu lythyrau at unrhyw un a allai gael eu heffeithio.
Pwy sy鈥檔 cael ei effeithio
Efallai y bydd rhywfaint o arian yn ddyledus i chi os yw鈥檙 canlynol i gyd yn berthnasol:
- gwnaethoch gais am JSA Dull Newydd rhwng 19 Mawrth 2020 a 19 Tachwedd 2022
- dywedoch wrthym fod gennych incwm gan bensiwn
- roedd gennych incwm gan bensiwn a etifeddwyd gan rywun sydd wedi marw
Beth i鈥檞 wneud
Os ydych chi鈥檔 meddwl y gallech gael eich effeithio, ysgrifennwch at:
Canolfan Budd-daliadau
Freepost DWP BC 38
Nid oes angen i chi ddefnyddio stamp.
Bydd angen i chi gynnwys:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- cop茂au o鈥檆h datganiadau pensiwn sy鈥檔 dangos bod y pensiwn wedi cael ei etifeddu a symiau y pensiwn a dalwyd ar gyfer dyddiadau eich hawliad JSA dull newydd
- y cyfeirnod 鈥楶AN PEN鈥�
- manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd (os ydynt wedi newid ers i chi hawlio JSA Dull Newydd)
Beth fydd yn digwydd nesaf
Byddwn yn edrych ar eich hawliad eto i weld a ddylem fod wedi talu mwy o JSA Dull Newydd i chi. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a oes arian yn ddyledus i chi.
Os oes gennym arian yn ddyledus i chi, byddwn yn ei dalu i mewn i鈥檙 cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd y talwyd eich JSA Dull Newydd iddo, neu鈥檙 cyfrif rydych chi鈥檔 dweud wrthym amdano yn eich llythyr.