Canllawiau

Newid newydd i ddyddiadau rhyddhau rhai troseddwyr

Gwybodaeth am y newid i ddyddiadau rhyddhau awtomatig ar gyfer rhai carcharorion fel eu bod yn gadael ar 么l treulio 40% o'u dedfryd yn y carchar, yn hytrach na 50% ar hyn o bryd.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae鈥檙 carchardai yng Nghymru a Lloegr bron yn llawn. Mae arnom angen creu lle yn y carchardai i ddiogelu鈥檙 cyhoedd.

Deallwn efallai y bydd gennych bryderon am hyn, felly rydym wedi cymryd camau i ddarparu gwybodaeth i鈥檆h helpu i ddeall beth mae hyn yn ei olygu.

Bydd rhai carcharorion yn cyflawni 40% o鈥檜 dedfryd yn y carchar yn hytrach na 50%. Bydd gweddill y ddedfryd yn cael ei chyflawni yn y gymuned dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf. Bydd y newid hwn yn cael ei adolygu ar 么l 18 mis.

Mae鈥檔 bwysig gwybod na fydd y newid hwn yn berthnasol i ddedfrydau ar gyfer:

  • troseddau rhywiol;
  • troseddau treisgar difrifol gyda dedfryd o 4 blynedd neu fwy;
  • troseddau terfysgol;
  • troseddau sy鈥檔 ymwneud 芒 Diogelwch Cenedlaethol; a
  • Troseddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cham-drin domestig, fel stelcio a thagfa heb achosi marwolaeth.

Os yw unigolyn yn cyflawni sawl dedfryd ar yr un pryd, yna gallant gael eu rhyddhau yn gynharach. Bydd hyn yn dibynnu ar p鈥檜n a oes ganddynt unrhyw ddedfrydau sy鈥檔 gymwys ar gyfer rhyddhau yn gynnar.聽

Er mwyn creu digon o le yn y carchardai, bydd y newid hwn hefyd yn berthnasol i garcharorion cyfredol o fis Medi, ond ni fydd yr holl droseddwyr cymwys yn y carchar yn cael eu rhyddhau ar yr un pryd.

Os ydych yn rhan o鈥檙 Cynllun Cyswllt Dioddefwyr neu鈥檙 Cynllun Hysbysu Dioddefwyr, bydd eich Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn eich hysbysu am unrhyw newid i ddyddiad rhyddhau鈥檙 troseddwr.

Os ydych yn pryderu am be all hyn olygu i chi neu os ydych wedi cael eich effeithio gan y cyhoeddiad hwn, mae cymorth annibynnol, cyfrinachol a rhad ac am ddim ar gael yma: . Os ydych eisoes yn cael cymorth gan wasanaeth cymorth i ddioddefwyr, yna gallwch hefyd gysylltu 芒 nhw oherwydd mae鈥檔 bosib y byddant yn gallu eich helpu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Medi 2024 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon