Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddoc芒d Cenedlaethol: Cyngor ar Hysbysu ac Ymgynghori yngl欧n ag AEA

Mae鈥檙 cyngor hwn yn crynhoi鈥檙 broses o hysbysu ac ymgynghori 芒 chyrff rhagnodedig yngl欧n 芒 chwmpas Datganiadau Amgylcheddol ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddoc芒d Cenedlaethol (NSIPau).

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae鈥檙 llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau鈥檙 cyhoedd a phart茂on eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.聽Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr 芒 聽(y Ddeddf Cynllunio).

Mae鈥檙 cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio yngl欧n 芒 chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu鈥檙 ddeddfwriaeth, y rheoliadau a鈥檙 canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.

Dylid darllen y cyngor hwn ynghyd 芒 nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol a chanllawiau鈥檙 llywodraeth ar broses y Ddeddf Cynllunio.

Cyd-destun y cyngor

Mae鈥檙 cyngor hwn yn esbonio ymagwedd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, at hysbysu ac ymgynghori 芒鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig yngl欧n 芒 chwmpas Datganiadau Amgylcheddol ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddoc芒d Cenedlaethol (NSIPau), fel sy鈥檔 ofynnol gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA)) 2017 (y Rheoliadau AEA).

Mae鈥檔 rhaid i ymgeiswyr gynnal eu hymchwiliadau eu hunain a chael cyngor cyfreithiol, fel y bo鈥檔 briodol, i sicrhau eu bod yn bodloni鈥檙 rhwymedigaethau ar gyfer eu hymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 ac offerynnau statudol cysylltiedig. Fodd bynnag, fe allai fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr ddeall yr ymagwedd a ddefnyddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio a amlinellir yn y cyngor hwn.

Ategir y cyngor hwn gan ddau atodiad sy鈥檔 cynnwys ymagwedd fanwl yr Arolygiaeth Gynllunio at hysbysu ac ymgynghori. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at yr atodiad sy鈥檔 berthnasol i鈥檞 prosiect. Gweler yr adran 鈥楧iwygiadau i鈥檙 Rheoliadau CFfGR ac amlygu鈥檙 cyrff ymgynghori cywir ar gyfer eich prosiect鈥� isod i amlygu鈥檙 atodiad cywir y dylid ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad arfaethedig perthnasol.

Pwy y dylid ymgynghori 芒 nhw?

Mae pobl a sefydliadau penodol y mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio eu hysbysu ac ymgynghori 芒 nhw yngl欧n 芒 datblygiad AEA arfaethedig naill ai:

  • ym mhob achos
  • yn dibynnu ar eu perthnasedd i鈥檙 datblygiad (y 鈥榩rawf perthnasedd鈥�)
  • a/neu drwy benderfynu p鈥檜n a yw amgylchiadau penodol yn berthnasol (y 鈥榩rawf amgylchiadau鈥�)

Adwaenir y bobl a鈥檙 sefydliadau hyn fel y 鈥榗yrff ymgynghori rhagnodedig鈥� a 鈥榗hyrff Rheoliad 11(1)(c)鈥�. Diffinnir y cyrff ymgynghori rhagnodedig gan ddeddfwriaeth.

Ceir hefyd gyrff nad ydynt wedi鈥檜 diffinio mewn deddfwriaeth y caiff yr Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori 芒 nhw鈥檔 ddewisol hefyd. Gelwir y rhain yn 鈥榞yrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig鈥�. Rhoddir rhagor o fanylion am y cyrff hyn isod.

Cyrff ymgynghori rhagnodedig

Diffinnir y cyrff hyn o dan Reoliad 3(1) y Rheoliadau AEA fel:

  • y rhai hynny a ragnodir o dan adran 42(1)(a) Deddf Cynllunio 2008 ac a restrir yng ngholofn 1 Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) (CFfGR) 2009 (鈥測 Rheoliadau CFfGR鈥�) sy鈥檔 bodloni鈥檙 meini prawf yng ngholofn 2
  • awdurdodau yn adran 43 Deddf Cynllunio 2008 (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel awdurdodau lleol adran 43)
  • Awdurdod Llundain Fwyaf, os yw鈥檙 datblygiad o fewn neu鈥檔 ymwneud 芒 thir yn Llundain Fwyaf

Cyrff Rheoliad 11(1)(c)

Mae Rheoliad 11(1)(c) y Rheoliadau AEA yn diffinio鈥檙 rhain fel 鈥渦nigolion y mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried y bydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt neu y mae鈥檔 debygol o effeithio arnynt neu sydd 芒 buddiant yn y datblygiad arfaethedig, sy鈥檔 annhebygol o ddod yn ymwybodol o鈥檙 datblygiad arfaethedig trwy鈥檙 mesurau a gymerir wrth gydymffurfio 芒 Rhan 5 y Ddeddf Cynllunio鈥�.

Mae鈥檙 mesurau o dan Ran 5 y Ddeddf Cynllunio yn cynnwys, er enghraifft, y gofyniad i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio 芒 chymunedau lleol, awdurdodau lleol, cyrff ymgynghori statudol, a鈥檙 rhai hynny y byddai鈥檙 datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt yn uniongyrchol. Mae angen i ymgeiswyr ddilyn y gofynion o dan y Rheoliadau AEA ar gyfer hysbysu ac ymgynghori ag unigolion Rheoliad 11(1)(c), fel y disgrifir er enghraifft yn Rheoliadau 13, 16, 19, 20, 22 a 24.

Cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig

Nid yw鈥檙 cyrff hyn wedi鈥檜 diffinio fel cyrff ymgynghori o dan y Rheoliadau AEA. Mae鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio yn barnu p鈥檜n a ddylid ymgynghori 芒 nhw yn seiliedig ar a oes ganddynt swyddogaethau perthnasol a chyfrifoldeb sy鈥檔 debyg i gyrff ymgynghori a amlygwyd o dan y Rheoliadau AEA.

Mae鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio wedi amlygu nifer o gyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig, a gellir ymgynghori 芒 nhw pan ystyrir bod hynny鈥檔 briodol. Rhoddir esboniad pellach yngl欧n 芒鈥檙 sefyllfaoedd pryd y gallai鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori 芒鈥檙 cyrff hyn yn (ODT, 61.7 KB) ac (ODT, 68.8 KB) i鈥檙 dudalen gyngor hon.

Hysbysu ac ymgynghori 芒鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig gan yr Arolygiaeth Gynllunio

O dan Reoliad 8 y Rheoliadau AEA, mae鈥檔 ofynnol i ymgeiswyr ar gyfer datblygiadau arfaethedig naill ai hysbysu鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio yn ysgrifenedig eu bod yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol mewn perthynas 芒鈥檙 datblygiad arfaethedig (鈥榟ysbysiad rheoliad 8鈥�) neu ofyn am farn sgrinio gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Mae hyn yn ofynnol cyn y gall ymgeiswyr ddechrau eu hymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol o dan adran 42 Deddf Cynllunio 2008. Esbonnir gwybodaeth am wneud hysbysiad Rheoliad 8 a鈥檙 broses sgrinio yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Rhoddir gwybodaeth am ymgynghoriad cyn-ymgeisio o dan adran 42 yn y nodyn Cyngor ar Lunio鈥檙 Adroddiad Ymgynghori.

Pan fydd hysbysiad Rheoliad 8 dilys wedi cael ei dderbyn, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio鈥檔 rhoi gwybod i鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig fod yr Ymgeisydd yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Mae hefyd yn ofynnol i鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio hysbysu鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig am y ddyletswydd a osodir arnynt o dan Reoliad 11(3) y Rheoliadau AEA. Mae鈥檙 ddyletswydd hon yn mynnu bod y cyrff ymgynghori rhagnodedig yn cymryd rhan mewn trafodaethau 芒鈥檙 ymgeisydd os gofynnir am hynny ac yn darparu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt sy鈥檔 berthnasol i baratoi鈥檙 Datganiad Amgylcheddol. Nid yw鈥檙 ddyletswydd hon yn berthnasol i gyrff Rheoliad 11(1)(c) na chyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, hefyd ymgynghori 芒鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig o dan Reoliad 10 y Rheoliadau AEA cyn mabwysiadu barn gwmpasu.

Yn nodweddiadol, mae ymgeiswyr yn darparu eu hysbysiad Rheoliad 8 pan fyddant yn gofyn am farn gwmpasu. Mae hyn yn sicrhau bod y wybodaeth angenrheidiol sy鈥檔 ofynnol ar gyfer yr hysbysiad Rheoliad 8 yn cael ei darparu ac yn osgoi dyblygu. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cadarnhau enwau鈥檙 cyrff yr ymgynghorwyd 芒 nhw at ddibenion cwmpasu yn y farn gwmpasu.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn rhoi鈥檙 鈥榬hestr Rheoliad 11鈥� i ymgeiswyr ynghyd 芒鈥檙 farn gwmpasu, pan gyflwynwyd yr hysbysiad Rheoliad 8 a鈥檙 cais am farn gwmpasu ar yr un pryd. Rhoddir y rhestr Rheoliad 11 i ymgeiswyr yn dilyn cais Rheoliad 8 dilys hefyd, lle na cheisiwyd barn gwmpasu ar yr un pryd.

Mae鈥檙 rhestr Rheoliad 11 yn rhestru鈥檙 holl gyrff y mae鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio wedi鈥檜 hysbysu a/neu ymgynghori 芒 nhw. Gall ymgeiswyr ddefnyddio鈥檙 rhestr hon i lywio eu hymgynghoriad cyn-ymgeisio, ond ni ddylent ddibynnu arni. Esbonnir gwybodaeth am y broses gwmpasu a sgrinio yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio Cyngor ar y Broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol.

Caiff ymgeiswyr amlygu ac ymgynghori 芒 llai o gyrff neu gyrff gwahanol yn rhan o鈥檜 hymgynghoriad adran 42 nag y mae鈥檙 Arolygiaeth Gynllunio鈥檔 eu hysbysu ac yn ymgynghori 芒 nhw o dan Reoliadau AEA 10 ac 11. Dylai ymgeiswyr sicrhau y rhoddir esboniad yn eu hadroddiad ymgynghori pan fydd hyn yn digwydd.

Diwygiadau i鈥檙 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) (CFfGR) ac amlygu鈥檙 cyrff ymgynghori cywir ar gyfer eich prosiect

Fel y disgrifiwyd uchod, mae鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig y dylid eu hysbysu ac ymgynghori 芒 nhw o dan y Rheoliadau AEA yn cynnwys y cyrff hynny a restrir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR. Ar 30 Ebrill 2024, daeth Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) 2024 (鈥榶 Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol鈥�) i rym, gan ddiwygio鈥檙 Rheoliadau CFfGR.

Mae Rheoliad 4 y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol yn cynnwys darpariaethau trosiannol hefyd. Mae鈥檙 darpariaethau hyn yn cadarnhau y bydd y Rheoliadau CFfGR, fel y鈥檜 diwygiwyd gan y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol, yn berthnasol i unrhyw gais arfaethedig am orchymyn sy鈥檔 rhoi caniat芒d datblygu lle nad yw鈥檙 ymgeisydd wedi dechrau ymgynghori o dan adran 42 Deddf Cynllunio 2008 cyn 30 Ebrill 2024.

Mae鈥檙 Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol wedi diwygio鈥檙 tablau a gynhwysir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR. Bellach, darperir un tabl o gyrff ymgynghori rhagnodedig ar gyfer y prosiectau hynny sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nghymru a Lloegr. Yn flaenorol, roedd Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR yn cynnwys tablau ar wah芒n i amlygu鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig ar gyfer prosiectau yn Lloegr a鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig ar gyfer prosiectau yng Nghymru.

Mae鈥檙 Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol hefyd wedi diwygio鈥檙 鈥榩rawf perthnasedd鈥� mewn perthynas 芒鈥檙 cyrff ymgynghori. Mae鈥檙 prawf perthnasedd o dan y Rheoliadau CFfGR a ddiwygiwyd gan y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol yr un fath bellach ar gyfer prosiectau yn Lloegr a phrosiectau yng Nghymru.

Felly, mae鈥檙 cyrff ymgynghori rhagnodedig y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio鈥檔 eu hysbysu ac yn ymgynghori 芒 nhw yn dibynnu ar b鈥檜n a yw鈥檙 trefniadau trosiannol yn berthnasol i ddatblygiad arfaethedig ai peidio.

O ran prosiectau nad oeddent wedi dechrau eu hymgynghoriad adran 42 cyn 30 Ebrill 2024, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio鈥檔 hysbysu ac yn ymgynghori yn unol 芒鈥檙 Rheoliadau CFfGR fel y鈥檜 diwygiwyd gan y Rheoliadau Darpariaethau Amrywiol. Manylir ar yr ymagwedd hon yn (ODT, 61.7 KB) i鈥檙 dudalen gyngor hon.

O ran unrhyw gais arfaethedig am orchymyn sy鈥檔 rhoi caniat芒d datblygu yr oedd yr ymgeisydd wedi dechrau ymgynghori arno o dan adran 42 y Ddeddf Cynllunio cyn 30 Ebrill 2024, nid yw鈥檙 Rheoliadau CFfGR diwygiedig yn berthnasol. Manylir ar y senario hwn yn (ODT, 68.8 KB) i鈥檙 dudalen gyngor hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Mawrth 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon