Gwneud newidiadau i’ch cofrestriad gwrth-wyngalchu arian, neu ddatgofrestru’ch busnes
Cael gwybod sut i roi gwybod am newidiadau i’ch manylion. Gallwch dynnu’ch cais i gofrestru yn ôl, neu ganslo’ch cofrestriad, ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian.
Newidiadau y dylech roi gwybod i CThEF amdanynt
Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os bydd eich manylion cofrestru ar gyfer gwyngalchu arian yn newid, neu os byddwch yn sylwi eu bod yn anghywir. Er enghraifft, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am newidiadau o ran:
- cyfeiriad, enw masnachu neu rif ffôn
- eich strwythur cyfreithiol, er enghraifft, os oeddech yn hunangyflogedig ond rydych bellach yn gwmni cyfyngedig
- perchnogaeth eich busnes
- endid cyfreithiol perchnogion y busnes, er enghraifft, os bydd perchnogaeth yn newid o bartneriaeth i gwmni cyfyngedig
- y swyddog enwebedig
- y swyddog cydymffurfio
- partneriaid neu gyfarwyddwyr
- statws masnachfraint neu asiantaeth
- personél yn eich busnes sydd â statws gweddus a phriodol
- statws gweddus a phriodol neu statws cymeradwy unigolyn
Dylech hefyd roi gwybod i ni am unrhyw:
- euogfarn droseddol sydd heb eu darfod (yn Saesneg), a restrir yn Atodlen 3 o’r Rheoliadau Gwyngalchu Arian 2017, neu sydd â thwyll neu anonestrwydd yn rhan ohoni
- safleoedd newydd neu ychwanegol
- safleoedd nad ydych yn eu defnyddio mwyach ar gyfer gweithgareddau busnes sydd wedi’u cwmpasu gan y Rheoliadau Gwyngalchu Arian
Pryd i roi gwybod am newidiadau
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’ch swyddogion enwebedig a chydymffurfio cyn pen 14 diwrnod i’r newid.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau neu gamgymeriadau yn eich manylion cofrestru cyn pen 30 diwrnod i’r newid neu’r adeg pan sylwoch ar y camgymeriad.
Sut i roi gwybod am newid i’ch cofrestriad
Er mwyn gwneud newidiadau, .
Bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.
Sut i dynnu’ch cais yn ôl neu ddatgofrestru
Dylech dynnu’ch cais yn ôl, neu ddatgofrestru, os yw un o’r canlynol yn wir:
- nid yw’ch busnes yn darparu gwasanaeth sy’n cael ei gwmpasu gan y Rheoliadau Gwyngalchu Arian (yn Saesneg)
- nid ydych yn masnachu yn eich enw eich hun mwyach, oherwydd bod eich busnes yn asiant busnes gwasanaethau arian (yn Saesneg)
- mae corff neu sefydliad proffesiynol (yn Saesneg) arall yn eich goruchwylio at ddibenion gwyngalchu arian
- rydych yn newid endid cyfreithiol eich busnes (er enghraifft, newid o fod yn unig fasnachwr i fod yn bartneriaeth neu’n gwmni cyfyngedig)
- deliwr mewn gwerthoedd uchel (yn Saesneg) ydych chi, ac nid ydych yn gwneud taliadau arian parod sydd â gwerthoedd uchel nac yn eu cael
- mae’ch busnes wedi rhoi’r gorau i fasnachu
Er mwyn tynnu’ch cais yn ôl, neu ganslo’ch cofrestriad, .
Bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.
Os bydd perchnogaeth eich busnes yn newid
Ni allwch drosglwyddo cofrestriad o un endid cyfreithiol i un arall.
Os bydd y busnes yn newid dwylo:
- bydd yn rhaid i’r perchennog newydd gofrestru gyda CThEF
- bydd yn rhaid i’r perchennog blaenorol ganslo ei gofrestriad
Os byddwch yn rhoi gwybod am newidiadau ar ôl yr amser a ganiateir
Dylech gysylltu â CThEF cyn gynted â phosibl os bydd angen rhagor o amser arnoch. Dylech esbonio’r rhesymau pam.
Updates to this page
-
Information about unspent criminal convictions has been updated in the 'Changes you should report to HMRC' section.
-
The section 'How to report a change or cancel your registration' has been updated.
-
The section 'If ownership of your business changes' has been updated.
-
Updated the guidance to explain the different time limits for reporting material changes or inaccuracies and reporting changes to the nominated officer or compliance officer.
-
Information has been added to the page to describe how to report changes if you're registered online.
-
First published.