Sut mae鈥檆h amodau masnachu鈥檔 effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth
Dysgu sut i benderfynu os yw coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar eich busnes a sut mae hyn yn effeithio ar eich cymhwystra am grant SEISS.
I hawlio鈥檙 pumed grant, mae鈥檔 rhaid i chi naill ai:
- bod yn masnachu ar hyn o bryd ond bod llai o alw oherwydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio arnoch
- wedi bod yn masnachu ond ddim yn gallu gwneud hynny dros dro oherwydd COVID-19
Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd ddatgan y canlynol:
- rydych yn bwriadu parhau i fasnachu
- rydych o鈥檙 farn resymol y bydd gostyngiad sylweddol yn eich elw masnachu
Barn resymol
Mae鈥檔 rhaid i chi fod o鈥檙 farn resymol y bydd gostyngiad sylweddol mewn elw masnachu oherwydd llai o weithgaredd busnes, llai o gapasiti, llai o alw neu analluogrwydd i fasnachu oherwydd COVID-19 rhwng 1 Mai 2021 a 30 Medi 2021. Mae鈥檔 rhaid i chi gadw tystiolaeth sy鈥檔 dangos bod COVID-19 wedi effeithio ar eich busnes, gan arwain at lai o weithgarwch busnes na鈥檙 disgwyl.
Mae CThEM yn disgwyl i chi wneud asesiad gonest ynghylch a ydych o鈥檙 farn resymol y bydd eich busnes yn dioddef gostyngiad sylweddol mewn elw.
Gostyngiad sylweddol
Cyn i chi hawlio, mae鈥檔 rhaid i chi benderfynu a fydd yr effaith ar eich busnes rhwng 1 Mai 2021 a 30 Medi 2021 yn achosi gostyngiad sylweddol yn eich elw masnachu ar gyfer y flwyddyn dreth yr ydych yn rhoi gwybod am eich elw masnachu ynddi.
Ni all CThEM wneud y penderfyniad hwn ar eich rhan oherwydd y bydd angen ystyried eich amgylchiadau unigol ac amgylchiadau ehangach eich busnes wrth benderfynu a yw鈥檙 gostyngiad yn sylweddol.
Dylech aros hyd nes eich bod o鈥檙 farn resymol y bydd eich elw masnachu yn gostwng yn sylweddol cyn i chi hawlio.
Nid oes rhaid i chi ystyried unrhyw daliadau yr ydych wedi鈥檜 cael drwy gynlluniau cymorth COVID-19 eraill wrth benderfynu a yw鈥檆h elw masnachu wedi gostwng yn sylweddol.
Beth yr ydym yn ei olygu wrth ddweud llai o weithgarwch, capasiti a galw wedi effeithio arnoch
Mae hyn yn berthnasol i鈥檆h busnes os oedd llai o weithgarwch, gallu neu alw wedi effeithio arnoch oherwydd COVID-19. Er enghraifft:
- mae gennych lai o gwsmeriaid neu gleientiaid na鈥檙 disgwyl, gan arwain at lai o weithgarwch oherwydd cadw pellter cymdeithasol neu gyfyngiadau鈥檙 llywodraeth
- mae un neu fwy o gontractau wedi鈥檜 canslo a heb gael eu disodli
- rydych wedi ymgymryd 芒 llai o waith oherwydd tarfu ar y gadwyn gyflenwi
Mae鈥檔 rhaid i chi beidio 芒 hawlio os mai costau uwch yw鈥檙 unig effaith ar eich busnes. Er enghraifft, os bu鈥檔 rhaid i chi brynu mygydau wyneb a chyflenwadau glanhau. Ni fyddai hyn yn cael ei ystyried yn llai o weithgarwch, gallu neu alw.
Beth yr ydym yn ei olygu wrth ddweud wedi masnachu鈥檔 flaenorol ond ddim yn gallu gwneud hynny dros dro
Mae hyn yn berthnasol i chi hyd yn oed os na allwch weithio dros dro i ymgymryd 芒鈥檆h gweithgareddau busnes o ganlyniad i COVID-19, er enghraifft, oherwydd y canlynol:
- bu鈥檔 rhaid i鈥檆h busnes gau yn sgil cyfyngiadau鈥檙 llywodraeth
- os ydych wedi cael gwybod y dylech ddilyn mesurau gwarchod neu hunanynysu yn unol 芒 chanllawiau鈥檙 GIG ac na allwch weithio gartref
- rydych wedi profi鈥檔 bositif am COVID-19 ac na allwch weithio
- ni allwch weithio oherwydd cyfrifoldebau gofalu, er enghraifft o ganlyniad i ysgol neu gyfleuster gofal plant yn cau
Nid yw hyn yn cynnwys sefyllfa lle nad ydych yn gallu masnachu oherwydd bod yn rhaid i chi fod mewn cwarant卯n neu hunanynysu ar 么l dychwelyd o dramor i鈥檙 DU.
Os oedd yn rhaid i鈥檆h busnes gau cyn 1 Mai 2021 ac wedi parhau i fod ar gau am gyfnod hyd at 30 Medi 2021, gallwch hawlio o hyd cyn belled 芒鈥檆h bod yn gymwys.
Enghreifftiau o lai o weithgarwch, gallu neu alw neu ddim yn gallu masnachu
Dyma enghreifftiau lle mae COVID-19 wedi effeithio ar bobl.
Llai o weithgarwch, gallu neu alw a barn resymol
Mae gan dafarnwr lai o gwsmeriaid oherwydd cyfyngiadau鈥檙 llywodraeth ac mae hynny鈥檔 gostwng ei enillion. Mae o鈥檙 farn resymol y bydd hyn yn gostwng ei elw masnachu yn sylweddol. Mae鈥檔 gymwys i hawlio鈥檙 pumed grant.
Mae hyfforddwr personol rhan-amser yn gweithio mewn campfa sydd wedi lleihau ei chapasiti oherwydd cyfyngiadau鈥檙 llywodraeth. Mae hyn yn gostwng nifer y cleientiaid ar y diwrnodau mae鈥檔 gweithio. Mae o鈥檙 farn resymol y bydd hyn yn gostwng ei elw masnachu鈥檔 sylweddol. Mae鈥檔 gymwys ar gyfer y pumed grant.
Llai o weithgarwch, gallu neu alw a dim barn resymol
Mae gan berchennog caffi lai o gwsmeriaid oherwydd cyfyngiadau鈥檙 llywodraeth ar aelwydydd yn cymysgu y tu mewn. Mae鈥檔 codi ei brisiau. Nid yw o鈥檙 farn y bydd ei elw masnachu yn gostwng yn sylweddol, felly nid yw鈥檔 gymwys i hawlio鈥檙 pumed grant.
Ddim yn gallu masnachu a barn resymol
Mae perchennog clwb nos wedi gorfod cau ei safle oherwydd cyfyngiadau鈥檙 llywodraeth. Ni chaiff unrhyw incwm gan fod y clwb wedi cau ac mae o鈥檙 farn resymol y bydd ei elw masnachu鈥檔 gostwng yn sylweddol. Mae鈥檔 gymwys i hawlio鈥檙 pumed grant.
Mae adeiladwr wedi profi鈥檔 bositif am COVID-19 ac wedi gorfod hunanynysu am 10 diwrnod llawn. Gan na all weithio gartref, mae o鈥檙 farn resymol y bydd ei elw masnachu鈥檔 gostwng yn sylweddol. Mae鈥檔 gymwys i hawlio鈥檙 pumed grant.
Ddim yn gallu masnachu a dim barn resymol
Nid oedd mecanydd yn gallu gweithio am 2 ddiwrnod wrth i鈥檞 safle gau i gael ei lanhau鈥檔 ddwfn oherwydd achos COVID-19 positif. Nid yw o鈥檙 farn y bydd hyn yn gostwng ei elw masnachu yn sylweddol ac nid yw鈥檔 gymwys i hawlio鈥檙 pumed grant.
Mae ffisiotherapydd wedi profi鈥檔 bositif am COVID-19 ac yn hunanynysu am 10 diwrnod cyn cael canlyniad prawf negatif. Yn ystod y 10 diwrnod hynny, nid oedd yn gallu gweithio gartref ond llwyddodd i aildrefnu ei apwyntiadau. Nid yw o鈥檙 farn y bydd gostyngiad sylweddol yn ei elw masnachu ac nid yw鈥檔 gymwys i hawlio鈥檙 pumed grant.
Enghreifftiau eraill
Mae trydanwr yn dal i fasnachu ond mae wedi wynebu costau uwch oherwydd prynu mygydau, cyflenwadau glanhau a sgriniau. Nid yw鈥檔 gymwys i gael y pumed grant gan mai costau uwch oedd yr unig effaith ar ei fusnes a pharhaodd i fasnachu fel arfer.
Mae deintydd yn dychwelyd i鈥檙 DU ac yn gorfod bod mewn cwarant卯n am 10 diwrnod. Gan mai dyma鈥檙 unig effaith ar ei fusnes, nid yw鈥檔 gymwys i hawlio鈥檙 pumed grant. Mae hyn oherwydd nad yw llai o alw oherwydd cwarant卯n ar 么l teithio tramor wedi鈥檌 gynnwys yn y meini prawf cymhwystra.
Mae cyfrifydd yn lleihau ei weithgarwch busnes oherwydd ei fod eisiau ymddeol yn rhannol. Mae o鈥檙 farn resymol y bydd hyn yn gostwng ei elw masnachu鈥檔 sylweddol. Nid yw鈥檔 gymwys i gael y pumed grant oherwydd nad COVID-19 a achosodd lai o weithgarwch busnes.
Mae cleient unigolyn sy鈥檔 mynd 芒 ch诺n am dro yn canslo contract oherwydd COVID-19. Gallai鈥檙 unigolyn sy鈥檔 mynd 芒 ch诺n am dro chwilio am waith ychwanegol i gael contract newydd yn ei le ond mae鈥檔 dewis peidio. Mae hyn yn golygu bod ei weithgarwch busnes a鈥檌 elw masnachu yn gostwng gan ei fod yn dewis peidio 芒 chael contract newydd yn ei le, ac nid oherwydd COVID-19. Nid yw鈥檔 gymwys i gael y pumed grant.
Mae gan ymgynghorydd TG incwm arall o rentu eiddo. Mae wedi gwneud colledion ar rentu oherwydd costau adnewyddu. Nid yw hyn yn gysylltiedig 芒鈥檌 elw masnachu o鈥檌 wasanaeth ymgynghori TG. Gan nad COVID-19 sydd wedi effeithio ar ei fusnes ymgynghori, nid yw鈥檔 gymwys i gael y pumed grant.
Updates to this page
-
This guidance has been updated with information about the fifth SEISS grant.
-
This guidance has been updated with information about the fourth SEISS grant.
-
Claims for the third grant have now closed. The last date for making a claim for the third grant was 29 January 2021. Details about the fourth grant will be announced on 3 March 2021.
-
Added translation
-
First published.