Sut i gysylltu elusennau
Sut i gysylltu elusennau i wneud cyfrifo ac adrodd yn haws.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Pryd i gysylltu elusennau
Gall elusennau sydd wedi鈥檜 cysylltu neu sydd 芒鈥檙 un ymddiriedolwyr wneud cais i gael eu cysylltu - mae hyn yn golygu y gallant baratoi un set o gyfrifon a rhannu rhif elusen. Nid yw hyn yr un peth ag uno elusennau.
Gall y Comisiwn gysylltu elusennau sydd 芒鈥檙 un ymddiriedolwyr yn unig a/neu sydd wedi鈥檜 cysylltu oherwydd y gwasanaeth a ddarparant.
鈥榊r un ymddiriedolwyr鈥� - beth mae hyn yn ei olygu
Mae鈥檙 鈥榰n ymddiriedolwyr鈥� yn golygu bod gan yr elusennau rydych chi鈥檔 eu cysylltu yr un:
- pobl unigol wedi鈥檜 penodi fel ymddiriedolwyr y ddwy elusen
- ymddiriedolwr corfforaethol, er enghraifft cwmni, wedi鈥檌 benodi fel unig ymddiriedolwr y ddwy elusen
Mae gan rai elusennau ymddiriedolwr corfforaethol, sydd hefyd yn elusen. Nid yw hyn yn golygu bod gan y ddwy elusen yr un ymddiriedolwr.
Er enghraifft, mae gan elusen A ymddiriedolwr corfforaethol. Mae鈥檙 ymddiriedolwr corfforaethol hefyd yn elusen, elusen B. Er mai elusen B yw ymddiriedolwr elusen A, y cyfarwyddwyr yw ymddiriedolwyr elusen B. Mae hyn yn golygu nad oes ganddynt yr un ymddiriedolwr ac ni ellir eu cysylltu ar sail hynny.
鈥楥ysylltiedig鈥� - beth mae hyn yn ei olygu
Ystyr 鈥榗ysylltiedig鈥� yw bod elusennau yn darparu gwahanol agweddau ar yr un gwasanaeth, er enghraifft:
- arian gwobrwyo ar wah芒n mewn ysgol
- cronfeydd lles preswylwyr wedi鈥檜 gweinyddu gan gartref gofal preswyl
Fel arfer ni fydd hyn yn gymwys os yw dwy elusen sy鈥檔 gweithio yn yr un maes elusennol yn bell oddi wrth ei gilydd yn ddaearyddol ac nid oes unrhyw gysylltiad arall ganddynt.
Manteision cysylltu elusennau
Mae elusennau sydd wedi鈥檜 cysylltu yn:
- paratoi un set o gyfrifon ac un adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr yn unig
- rhannu rhif elusen
- cyflwyno un ffurflen flynyddol yn unig
Pan fydd elusennau wedi鈥檜 cysylltu, bydd un ohonynt yn elusen adrodd, gan gynhyrchu un set o gyfrifon yn unig ar gyfer yr holl elusennau sydd wedi鈥檜 cysylltu. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cyfrifon adrodd ar wah芒n o hyd ar asedau a gweithgareddau pob elusen sydd wedi鈥檌 chysylltu, gan gynnwys sut y maen nhw鈥檔 darparu budd cyhoeddus.
Mae鈥檙 elusen adrodd yn cadw ei rhif elusen ei hun, a bydd yr elusennau eraill sydd wedi鈥檜 cysylltu 芒鈥檙 elusen yn defnyddio鈥檙 rhif hwnnw gyda digid ychwanegol ar y diwedd i ddangos ei bod wedi鈥檌 chysylltu. Er enghraifft, os mai 123456 yw rhif yr elusen adrodd, bydd gan yr elusennau cysylltiedig y rhifau 123456/1, 123456/2 ac ati.
Cyfyngiadau cysylltu elusennau
Meddyliwch yn ofalus a allai鈥檙 elusennau sydd wedi鈥檜 cysylltu ac sy鈥檔 colli eu hen rifau achosi problemau, er enghraifft;
- colli hanes a brandio; ni fydd datganiadau cyfrifon blaenorol elusennau sydd wedi鈥檜 cysylltu i鈥檞 gweld ar y gofrestr elusennau ac efallai y bydd rhaid i ddeunyddiau cyhoeddusrwydd newid.
- pan fyddwch yn codi arian yn enw elusen sydd wedi鈥檌 chysylltu, gwnewch yn si诺r na fydd unrhyw broblemau gyda鈥檙 banc wrth dalu鈥檙 arian i gyfrifon banc yr elusennau.
- gallai rhoddwyr grantiau wrthod elusennau sydd heb brif rif elusen gofrestredig, a gall y rhif newydd ddrysu鈥檙 cyhoedd.
Nid yw cysylltu elusennau yr un fath ag uno nhw. Ni all elusennau cysylltiedig gyfuno eu hasedau, ac ni allant wario eu harian at ddibenion yr elusennau eraill y maent yn gysylltiedig 芒 nhw.
Mae pob elusen hefyd yn cadw ei dogfen lywodraethol ar wah芒n.
Mae鈥檔 rhaid i bob elusen weithredu er ei lles ei hun a rheoli gwrthdaro posibl.
Bydd rhaid i elusennau sydd wedi鈥檜 cysylltu:
- ddweud wrth y Comisiwn am newidiadau i ymddiriedolwyr, os yw鈥檙 ymddiriedolwyr yn wahanol i鈥檙 elusen sy鈥檔 adrodd
- cadw o fewn rheolau cyfrifyddu鈥檙 gyfraith cwmn茂au, os yw unrhyw un o鈥檙 elusennau yn gwmn茂au
- adnabod cronfeydd cyfyngedig ac anghyfyngedig ar wah芒n
- cadw gwaddol parhaol ar wah芒n o gronfeydd eraill yr elusennau cysylltiedig
Os yw鈥檙 elusen adrodd yn gwmni, ni all drin gwaddol parhaol elusen gysylltiedig fel rhan o鈥檌 heiddo corfforaethol.
Dylech chi a鈥檙 ymddiriedolwyr eraill meddwl yn ofalus am y manteision a鈥檙 cyfyngiadau posibl a ddaw drwy gysylltu. Ceisiwch gyngor proffesiynol os oes angen.
Sut i wneud cais i gysylltu elusennau
Cwblhewch y ffurflen ar-lein os ydych chi鈥檔:
- ymddiriedolwr
- rhywun arall sydd wedi鈥檌 awdurdodi i wneud cais ar ran yr elusen, megis gweithiwr neu gynghorydd proffesiynol
- mae鈥檙 holl elusennau wedi鈥檜 cofrestru
Pa wybodaeth i鈥檞 darparu ar y ffurflen
Bydd rhaid i chi ddarparu:
- enwau a rhifau cofrestru鈥檙 elusennau sydd i鈥檞 cysylltu
- manylion sy鈥檔 esbonio a ydych am gysylltu鈥檙 elusennau oherwydd eu bod 芒鈥檙 un ymddiriedolwyr neu eu bod wedi鈥檜 cysylltu oherwydd y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu
.
.
Mae鈥檔 drosedd o dan adran 60(1)(b) o Ddeddf Elusennau 2011 i ddarparu鈥檔 fwriadol neu鈥檔 ddi-hid wybodaeth anghywir neu gamarweiniol.
Sut i ddod 芒 chysylltiad i ben
.
Updates to this page
-
Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.
-
Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.
-
Included links to Charity Commission forms for applying to: * link charities * be listed on the register of merged charities
-
First published.