Sut i fuddsoddi arian elusennol
Sut i gynhyrchu incwm buddsoddi i'w wario ar nodau eich elusen, fel ffordd o gyflawni ei nodau yn uniongyrchol neu'r ddau.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Y gyfraith a buddsoddiadau elusennau
Gofyniad cyfreithiol
Pan fyddwch yn buddsoddi cronfeydd eich elusen, yn 么l y gyfraith mae鈥檔 rhaid i chi:
- wybod beth y gallwch a beth na allwch fuddsoddi ynddo - dilynwch unrhyw gyfyngiadau yn eich dogfen lywodraethol
- sicrhau eich bod yn gwybod beth rydych yn ei wneud pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau buddsoddi - ceisiwch gyngor gan arbenigwr pan fydd angen
- lleihau鈥檙 risg i gronfeydd eich elusen, er enghraifft, drwy gael cymysgedd o fuddsoddiadau yn hytrach nag un buddsoddiad mawr a allai leihau mewn gwerth
- esbonio eich polisi buddsoddi yn adroddiad blynyddol eich ymddiriedolwyr
Os ydych chi鈥檔 bwriadu buddsoddi, dylech ddarllen canllawiau manwl y Comisiwn Elusennau ar fuddsoddi cronfeydd elusennau sy鈥檔 amlinellu鈥檙 gofynion cyfreithiol yn fwy manwl.
Rhesymau dros fuddsoddi
Gallwch fuddsoddi arian i gynhyrchu incwm y gallai鈥檆h elusen ei wario ar ei nodau - gelwir hyn yn fuddsoddiad ariannol. Er enghraifft, prynu eiddo i gael incwm rhent.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h buddsoddiadau gynhyrchu鈥檙 elw ariannol gorau posibl ar gyfer lefel y risg sy鈥檔 dderbyniol yn eich barn chi. Er enghraifft, mae elw gwarantedig gan fondiau鈥檙 llywodraeth, ond bydd stociau a chyfranddaliadau yn newid yn 么l y farchnad.
Buddsoddiad moesegol
Gallwch ddewis gwneud buddsoddiadau ariannol yn unig sy鈥檔 adlewyrchu gwerthoedd ac ethos eich elusen. Bydd rhaid i chi allu esbonio pam bod yr ymagwedd hon yn addas i鈥檆h elusen, hyd yn oed os yw鈥檙 enillion ariannol yn llai. Er enghraifft, gallai buddsoddi鈥檔 foesegol eich atal chi rhag colli cefnogwyr neu niweidio eich enw da.
Gallwch fuddsoddi arian i fodloni nodau eich elusen yn uniongyrchol hefyd - gelwir hyn yn fuddsoddiad cysylltiedig 芒 rhaglen. Er enghraifft, elusen diweithdra yn rhoi benthyciadau yn lle grantiau a defnyddio鈥檙 llog i helpu i ariannu rhagor o fenthyciadau.
Mae buddsoddiad cysylltiedig 芒 rhaglen yn golygu gwario arian i fodloni nodau eich elusen. Mae hyn yn golygu:
- bod unrhyw elw ariannol yn ail ystyriaeth - nid oes rhaid i chi gael yr enillion gorau posibl
- mae鈥檔 rhaid i unrhyw fudd i unigolion preifat megis cynghorwyr buddsoddi fod yn angenrheidiol, yn rhesymol ac er lles eich elusen
- mae鈥檔 rhaid i chi allu terfynu鈥檙 buddsoddiad os nad yw鈥檔 bodloni nodau eich elusen mwyach
Mae buddsoddiadau nad ydynt yn hollol ariannol nac yn gysylltiedig 芒 rhaglen yn cael eu galw鈥檔 fuddsoddiadau cymhelliad cymysg.
Beth i鈥檞 fuddsoddi ynddo
Gallwch fuddsoddi arian eich elusen mewn unrhyw beth rydych yn disgwyl y bydd yn cadw ei werth neu bydd ei werth yn cynyddu, megis adneuon arian parod, cyfranddaliadau, eiddo neu gronfeydd buddsoddi cyffredin. Mae risg i bob buddsoddiad ac mae鈥檔 rhaid i chi fod yn glir ynghylch:
- y rhesymau pam eich bod yn buddsoddi
- beth rydych yn gobeithio ei gael o鈥檙 buddsoddiad
- faint o risg rydych yn barod i鈥檞 gymryd
- sut byddwch yn rheoli eich buddsoddiadau ac yn monitro eu perfformiad
Os ydych yn buddsoddi arian eich elusen mewn rhywbeth rydych yn bwriadu ei werthu ymlaen i wneud elw, gall hyn gyfrif fel masnachu ac mae鈥檔 bosib y bydd rhaid i chi dalu treth ar unrhyw elwa a wnewch.
Sut i fuddsoddi
Bydd rhaid i chi gadw rheolaeth gyffredinol ar fuddsoddiadau eich elusen. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi fonitro sut y maen nhw鈥檔 perfformio a gwneud yr holl benderfyniadau am eich buddsoddiadau elusen.
Os nad oes gan eich bwrdd ymddiriedolwyr y sgiliau a鈥檙 profiad angenrheidiol, mae鈥檔 rhaid i chi geisio cyngor gan rywun cymwys. Mae鈥檔 rhaid i chi sicrhau bod unrhyw gyngor a gewch yn ddiduedd.
Defnyddio rheolwyr a chynghorwyr buddsoddi - gofyniad cyfreithiol
Gallwch ddefnyddio rheolwr neu gynghorydd buddsoddi ond mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ymddiriedolwyr wneud neu gymeradwyo penderfyniadau buddsoddi