Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth
Rhagor o wybodaeth am y broses o ran gwiriadau cydymffurfio a鈥檙 help y gallwch chi neu鈥檆h cleient (os ydych yn asiant treth) ei gael, yn ystod ac ar 么l y gwiriadau.
Gair am wiriadau cydymffurfio
Mae CThEF yn cynnal gwiriadau cydymffurfio er mwyn:
-
sicrhau eich bod yn talu鈥檙 swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
-
sicrhau eich bod yn cael y lwfansau a鈥檙 rhyddhad treth cywir
-
annog pobl i beidio ag osgoi treth
-
sicrhau bod y system dreth yn gweithredu鈥檔 deg
Gall rhywbeth sbarduno gwiriad. Fodd bynnag, mae gan CThEF yr hawl i wirio a yw unrhyw Ffurflen Dreth yn gywir ac yn gyflawn.
Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i鈥檞 ddisgwyl yn ystod gwiriad cydymffurfio
.
Gwyliwch fideo ynghylch sut mae gwiriadau cydymffurfio鈥檔 gweithio
.
Cael awdurdodiad i鈥檆h asiant treth ddelio 芒 gwiriadau
Os oes gennych asiant neu ymgynghorydd treth a鈥檆h bod am iddo ddelio 芒 ni ar eich rhan, mae鈥檔 rhaid iddo fod ag awdurdodiad ffurfiol. Byddwn yn delio ag ef yn ystod y gwiriad, os oes ganddo awdurdodiad ffurfiol eisoes.
Os nad oes ganddo awdurdodiad ffurfiol, mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais am awdurdodiad dros dro ar ei ran, er mwyn iddo allu delio 芒鈥檆h gwiriadau cydymffurfio.
Os ydych yn asiant
Gwnewch gais am awdurdodiad ffurfiol neu awdurdodiad dros dro ar gyfer eich cleient.
Pam mae CThEF yn cynnal gwiriadau
Gall pethau penodol ein sbarduno i agor gwiriad cydymffurfio o鈥檆h materion treth. Gall y rhain gynnwys:
-
nodi ffigurau ar Ffurflen Dreth sydd i鈥檞 gweld yn anghywir
-
gwneud hawliad mawr am ad-daliad TAW pan fo trosiant yn isel
-
datgan swm bach o dreth pan fo trosiant yn uchel
Byddwn yn eich ffonio neu鈥檔 ysgrifennu atoch chi, a鈥檆h asiant treth os oes gennych un, er mwyn rhoi gwybod am yr hyn yr ydym am ei wirio a pham. Os ydych o鈥檙 farn y dylem atal y gwiriad, dylech roi gwybod i ni pam.
Os ydym wedi dechrau gwiriad, dylech fynd yn eich blaen i gyflwyno鈥檆h Ffurflenni Treth ac i dalu鈥檆h trethi os ydynt yn ddyledus.
Efallai y byddwn yn agor gwiriad cydymffurfio o unrhyw hawliadau am gredydau treth er mwyn sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o arian.
Os ydych yn asiant treth, gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am wiriadau o gredydau treth yn llawlyfr CThEF.
Helpu ni gyda鈥檙 gwiriadau
Yn ystod y gwiriadau, efallai y byddwn yn gofyn i chi:
-
anfon unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y gallai fod eu hangen arnom
-
cwrdd 芒 ni er mwyn trafod eich materion treth a鈥檆h cofnodion, ond does dim rhaid i chi gwrdd 芒 ni os nad ydych am wneud hynny
Os oes gennych safle busnes neu os ydych yn rhedeg eich busnes o鈥檆h cartref, efallai y byddwn yn gofyn am gael ymweld 芒鈥檆h busnes er mwyn archwilio鈥檆h safle, eich asedion a鈥檆h cofnodion. Os ydych o鈥檙 farn bod y cais yn afresymol neu鈥檔 amherthnasol i鈥檙 gwiriad, rhowch wybod i鈥檔 swyddog a ofynnodd am yr wybodaeth.
Os na allwn gytuno 芒 chi ynghylch anfon yr wybodaeth neu鈥檙 dogfennau atom, efallai y byddwn yn defnyddio pwerau cyfreithiol er mwyn eu cael. Byddwn yn gwneud hyn drwy anfon hysbysiad gwybodaeth atoch. Os cewch hysbysiad, bydd yn rhaid i chi roi i ni yr hyn yr ydym wedi gofyn amdano, neu efallai y byddwn yn codi cosbau arnoch.
Rydych yn gyfrifol am roi gwybodaeth gywir i ni ac, os oes gennych asiant treth sy鈥檔 delio 芒 ni ar eich rhan, dylech sicrhau bod ganddo鈥檙 holl ffeithiau perthnasol.
Os byddwch yn ein helpu gyda鈥檙 gwiriad cydymffurfio, gallwn:
-
ei gwblhau yn gyflym a lleihau unrhyw anghyfleustra i chi
-
gostwng swm unrhyw gosb y gellid ei chodi arnoch, os byddwn yn canfod bod rhywbeth o鈥檌 le
Os bydd angen help arnoch yn ystod y gwiriadau
Gallwn eich helpu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch wrth ddelio 芒 gwiriad cydymffurfio.
Os yw鈥檔 bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu鈥檆h iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio 芒鈥檙 gwiriad cydymffurfio, rhowch wybod i鈥檔 swyddog. Bydd yn gweithio gyda chi i drefnu unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen.
Os oes angen rhagor o amser arnoch, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwn yn cytuno i ganiat谩u amser ychwanegol os oes rheswm da, er enghraifft, os ydych yn ddifrifol s芒l neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.
Os oes angen i rywun arall siarad 芒 ni ar eich rhan
Gallwch ofyn i rywun arall ddelio 芒 ni ar eich rhan, er enghraifft, ffrind, perthynas neu ymgynghorydd o sefydliad gwirfoddol. Bydd angen i chi ei benodi i siarad 芒 ni ar eich rhan yn y lle cyntaf.
Cael help annibynnol gan sefydliadau eraill
Gallwch gael help gan elusennau a sefydliadau eraill os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall ynghylch y broses o ran gwiriadau cydymffurfio.
Os ydych yn cael anhawster gyda鈥檆h iechyd meddwl oherwydd y gwiriadau, efallai y gallwch gael cymorth gan eich meddyg teulu, gan , gan neu gan y .
Rhagor o wybodaeth am y mathau gwahanol o wiriadau a鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd yn ystod ac ar 么l y gwiriad.
Canlyniadau gwiriadau cydymffurfio
Os bydd y gwiriad yn dangos nad oes dim byd o鈥檌 le, byddwn yn dod 芒鈥檙 gwiriad i ben yn gyflym. Os bydd ein gwiriadau鈥檔 dangos eich bod wedi talu gormod o dreth, cewch eich ad-dalu gydag unrhyw log sy鈥檔 ddyledus wedi鈥檌 ychwanegu. Os nad ydych wedi talu digon o dreth, bydd angen i chi ad-dalu hon. Caiff llog ei godi arnoch ac efallai y byddwch yn cael cosb.
Efallai y byddwn yn anfon asesiad neu鈥檔 diwygio鈥檆h Ffurflen Dreth er mwyn casglu unrhyw dreth sydd heb ei thalu.
Gallwch wneud cais am Ddull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) ar unrhyw adeg yn ystod y gwiriadau, os nad ydych yn cytuno 芒 phenderfyniad CThEF neu鈥檙 hyn yr ydym yn ei wirio.
Os byddwn yn penderfynu bod arnoch dreth i ni ar 么l i ni gyflawni鈥檙 gwiriadau, ac ni allwch fforddio ei thalu ar unwaith, gallwch siarad 芒 ni ynghylch trefniadau talu y gallwch eu fforddio.
Gwyliwch fideo ynghylch help os na allwch dalu鈥檆h bil treth
.
Cosbau
Efallai y codir cosb arnoch os byddwn yn gweld bod rhywbeth o鈥檌 le yn ystod y gwiriad.
Wrth benderfynu a allwn ostwng y gosb, byddwn yn ystyried i ba raddau y gwnaethoch gydweithredu 芒 ni. Yn gyffredinol, po fwyaf o help a rowch, isaf y bydd y gosb.
Dysgwch beth y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosb y gallwn ei chodi.
Os ydych yn asiant, dysgwch ragor am gosbau.
Gwyliwch fideo ynghylch pam rydym yn codi cosbau a鈥檙 hyn y gallwch ei wneud amdanynt
.
Ymchwiliad troseddol
Polisi CThEF yw delio 芒 thwyll drwy ddefnyddio gweithdrefnau ymchwiliad sifil pan fo鈥檔 briodol.
Rydym yn cadw ymchwiliad troseddol ar gyfer achosion pan fo angen i ni anfon neges gref i beidio 芒 thwyllo, neu pan fo鈥檙 ymddygiad yn golygu mai dim ond sancsiwn troseddol sy鈥檔 briodol.
Dysgwch ragor am ein polisi ymchwiliadau troseddol.
Os byddwch yn anghytuno 芒 chanlyniad y gwiriad
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch am y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i鈥檞 wneud os ydych yn anghytuno.
Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
-
anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy鈥檔 delio 芒鈥檙 gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
-
cael eich achos wedi鈥檌 adolygu gan swyddog na fu鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 mater cyn hyn
-
trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich ap锚l ac yn penderfynu ar y mater
Gwyliwch fideo ynghylch yr hyn i鈥檞 wneud os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad CThEF
.
Cysylltu 芒 CThEF
Os bydd angen i chi siarad 芒 ni am eich gwiriadau cydymffurfio, cysylltwch 芒鈥檙 swyddog sy鈥檔 delio 芒鈥檆h achos. Gallwch ddod o hyd i鈥檞 fanylion ar y llythyr a anfonom atoch ynghylch y gwiriadau.
Hefyd, gallwch gysylltu 芒 ni i gael help gyda鈥檆h trethi neu i wneud cwyn.
Updates to this page
-
The videos about what to expect during a compliance check, why we charge penalties and what you can do about them and what to do if you disagree with an HMRC decision have been updated.
-
The guidance has been updated, as the COVID-19 helpline for businesses and the self-employed is now closed.
-
The section 'Watch videos about resolving a dispute with HMRC' has been added.
-
The video about help if you cannot pay your tax bill has been updated.
-
YouTube videos about 'what to expect during a compliance check', 'how they work', 'penalties', 'if you disagree with an HMRC decision', and 'if you cannot pay your tax bill' have been added.
-
Added translation
-
First published.