Hanfodion Cofrestrfa Tir EF
Bydd ein pecyn hyfforddi hunanwasanaeth yn eich helpu gyda’r pethau sylfaenol � os ydych yn newydd i drawsgludo neu am gael sesiwn gloywi'n unig. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF, a pharatoi a chyflwyno ceisiadau o ansawdd uchel
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Yr hyn mae Cofrestrfa Tir EF yn ei wneud
Dechreuwch gyda’n fideo byr (1:46) yn egluro’r hyn rydym yn ei wneud, y wybodaeth sydd gennym a sut rydym yn gweithio o ddydd i ddydd:
Sut mae Cofrestrfa Tir EF yn rhan o’r broses drawsgludo
Mae gennym ein rhan gydol y broses drawsgludo. Mae ein fideo byr (2:47) yn esbonio hyn yn fanylach, o ddarparu data i werthwyr tai i’w helpu i farchnata eiddo, hyd at gofrestru’r gwerthiant:
10 awgrym da ar gyfer ceisiadau penigamp
Darllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer gwella ansawdd ceisiadau a anfonir i Gofrestrfa Tir EF.
Cofrestr teitl
.
Gweithdy ceisiadau ar-alw
Mae ein gweithdy ceisiadau wedi ei ddylunio gyda chwsmeriaid i’ch helpu i gyflwyno ceisiadau o safon i Gofrestrfa Tir EF ac osgoi ceisiadau am wybodaeth (ymholiadau) a all achosi oedi sylweddol yn y broses gofrestru.
Rydym yn anfon ymholiad pan fydd angen eglurhad neu ragor o wybodaeth am rywbeth yn eich cais, felly mae’n fuddiol ei gael yn iawn y tro cyntaf.
Rydym wedi rhannu’r gweithdy yn bum modiwl unigol er mwyn ichi allu ymdrin â’r hyn sydd ei angen arnoch pan fydd ei angen arnoch.
Yn ogystal â sut i osgoi ceisiadau am wybodaeth, rydym yn archwilio ffurflenni a gweithredoedd, cyflawni, cyfyngiadau yn y gofrestr ac amrywiadau mewn enwau. Yn olaf, mae cyfle i feddwl fel gweithiwr cais � fyddech chi’n anfon ymholiad?
Gwyliwch ein .
Canllaw ffïoedd
Bydd ein yn eich helpu i nodi cost pob math o gais.
²Ñ²¹±ð’r yn helpu gyda cheisiadau ‘Graddfa 2â€� ar gyfer trosglwyddiadau neu gydsyniadau ar gyfer dim cydnabyddiaeth ariannol, gan nad yw’r yn ymdrin â’r rhain ar hyn o bryd.
²Ñ²¹±ð’r canllawiau Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru yn rhoi manylion llawn ein ffïoedd.
Gweminarau ffïoedd
Ein hyb hyfforddi
I gael deunyddiau hyfforddi manylach ar nifer fawr o bynciau, ewch i’n hyb hyfforddi a chanllawiau.
Adborth
Rydym yn gwerthfawrogi’ch sylwadau, syniadau ac awgrymiadau yn fawr felly os oes gennych unrhyw adborth am y dudalen hon neu unrhyw awgrymiadau am bynciau a deunyddiau hyfforddi yr hoffech inni eu darparu, anfonwch ebost at y tîm [email protected].
Cofrestrwch i gael negeseuon ebost am y dudalen hon gan y bydd rhagor o ddeunydd hyfforddi’n cael ei hychwanegu yn y dyfodol.