Canllawiau

Help gyda hunangyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran hunangyflogaeth eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os ydych yn hunangyflogedig, bydd gan eich busnes amryw o gostau rhedeg. Gallwch ddidynnu rhai o鈥檙 costau hyn er mwyn cyfrifo鈥檆h elw trethadwy, cyn belled 芒鈥檜 bod yn dreuliau caniataol. Bydd yn rhaid i chi adio鈥檆h holl dreuliau caniataol ar gyfer y flwyddyn dreth at ei gilydd, a nodi鈥檙 cyfanswm yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gallwch ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod i gyfrifo eich incwm a鈥檆h treuliau (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os ydych yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth heb bartneriaid corfforaethol.

Nid oes angen i chi anfon tystiolaeth o鈥檆h treuliau pan fyddwch yn cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Er hynny, dylech gadw tystiolaeth a chofnodion fel y gallwch eu dangos i CThEF, os gofynnir i chi wneud hynny.

Taflenni cymorth ar gyfer llenwi鈥檆h Ffurflen Dreth

Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau penodol o鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Er enghraifft, gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer rhyddhad penodol, a sut i gyfrifo ffigurau y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.

Mwy nag un busnes

Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad os oes gennych fwy nag un busnes (HS220) (yn agor tudalen Saesneg).

Amaethyddol

Darllenwch y taflenni cymorth er mwyn gwneud y canlynol:

Galwedigaeth arall neu swydd-benodol

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Taflenni Cymorth hunangyflogaeth eraill

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Fideos YouTube CThEF

Rhestr chwarae fideos hunangyflogaeth ar YouTube

Gwyliwch gasgliad o fideos CThEF er mwyn ac er mwyn eich helpu i ddeall a llenwi adran hunangyflogaeth eich Ffurflen Dreth.

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • cael help gyda diwygio鈥檙 cyfnod sail

  • sut i gadw cofnodion

  • sail arian parod a threuliau symlach

  • pa dreuliau y gallwch eu cynnwys ar eich Ffurflen Dreth

  • hawlio treuliau moduro

  • pa dreuliau hunangyflogedig sy鈥檔 cael eu caniat谩u ar gyfer safleoedd busnes

  • treuliau caniataol eraill y busnes

  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

Gweminar am hunangyflogaeth wedi鈥檌 recordio

Gwyliwch weminar sydd wedi鈥檌 recordio ynghylch adran hunangyflogaeth eich Ffurflen Dreth ar-lein.

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • busnes a throsiant

  • treuliau

  • lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli

  • colledion

  • treth a ddidynnwyd a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4

Ffurflen Dreth bapur

Os byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio tudalen atodol i gofnodi incwm hunangyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth SA100. Gallwch ddefnyddio naill ai:

  • tudalen atodol SA103S 鈥� os oedd trosiant blynyddol eich busnes yn 拢90,000 neu lai ar gyfer y flwyddyn dreth

  • tudalen atodol SA103F 鈥� os oedd trosiant blynyddol eich busnes yn fwy na 拢90,000 ar gyfer y flwyddyn dreth

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Mai 2025

Argraffu'r dudalen hon