Cael help gyda phartneriaethau ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran bartneriaeth eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Dysgu sut i ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cyfrifo eich incwm a鈥檆h treuliau os ydych yn bartner, ac ar beth y gallwch hawlio lwfansau cyfalaf.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw incwm yr ydych yn ei gael o bartneriaeth yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Taflenni cymorth i鈥檆h helpu i lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth
Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau penodol o鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Er enghraifft, gwirio a ydych yn gymwys i gael rhyddhad penodol, a sut i gyfrifo ffigurau y bydd angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.
Cyfrifo鈥檆h elw
Dysgwch sut i gyfrifo eich elw trethadwy (HS222) (yn agor tudalen Saesneg).
Dysgwch sut i lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad os oes gennych fwy nag un busnes (HS220) (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn hawlio rhyddhadau neu lwfansau fel partner
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
-
y terfyn ar ryddhadau Treth Incwm (HS204) (yn agor tudalen Saesneg)
-
rhyddhadau a rheolau ar gyfer ffermwyr a masnach-arddwyr (HS224) (yn agor tudalen Saesneg)
-
rhyddhad ar gyfer colledion masnachu (HS227) (yn agor tudalen Saesneg)
-
y rhyddhad treth cyfartalu ar gyfer artistiaid ac awduron (HS234) (yn agor tudalen Saesneg)
-
lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli (HS252) (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych yn ddiddanwr dibreswyl neu yn fabolgampwr dibreswyl
Dod i ddeall rheolau treth ar gyfer diddanwyr dibreswyl neu fabolgampwyr dibreswyl (HS303) (yn agor tudalen Saesneg).
Taflenni Cymorth eraill ar gyfer partneriaeth
Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
Ffurflen Dreth bapur
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio tudalen atodol i gofnodi incwm partneriaeth ar eich Ffurflen Dreth SA100. Gallwch ddefnyddio鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
-
tudalen atodol SA104S 鈥� er mwyn cofnodi fersiwn fer o incwm y bartneriaeth
-
tudalen atodol SA104F 鈥� er mwyn cofnodi incwm llawn y bartneriaeth