Canllawiau

Cael eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd

Pryd i gynnwys y rhyddhad gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2023 i 2024 os oes gennych elw trosiannol, a sut i wneud hynny.

Cyn mynd ati i gynnwys rhyddhad gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dylech wirio a yw Diwygio鈥檙 Cyfnod Sail (yn agor tudalen Saesneg) yn effeithio arnoch.

Gallwch ddefnyddio rhyddhad gorgyffwrdd ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024 os yw鈥檙 canlynol yn wir am ddyddiad diwedd eich cyfnod cyfrifyddu:

  • nid yw鈥檙 dyddiad yn cyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth (mae cyfnodau cyfrifyddu rhwng 31 Mawrth a 5 Ebrill yn cyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth)
  • mae鈥檙 dyddiad wedi newid er mwyn iddo gyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth, ond ni wnaethech ddefnyddio unrhyw rhyddhad gorgyffwrdd dyledus
  • gwnaeth y dyddiad newid yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024, ac mae鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth erbyn hyn

Os gwnaethoch roi鈥檙 gorau i fasnachu ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024, byddwch yn dal i allu cynnwys rhyddhad gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn honno.

Mae Adran 12 o Sut i gyfrifo鈥檆h elw trethadwy (taflen gymorth HS222 ynghylch Hunanasesiad) (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio sut i gynnwys rhyddhad gorgyffwrdd yn eich Ffurflen Dreth.

Sut i gyfrifo鈥檆h ffigur rhyddhad gorgyffwrdd

Mae鈥檔 bosibl bod eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd eisoes wedi鈥檌 nodi fel elw gorgyffwrdd a gariwyd ymlaen ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad flaenorol os oedd yn cynnwys incwm masnachu ar y canlynol:

  • y ffurflen Hunangyflogaeth (llawn) (SA103F)
  • y ffurflen Partneriaeth (llawn) (SA104F)
  • y ffurflen Partneriaeth (byr) (SA104S)

Gallwch hefyd gyfrifo鈥檆h ffigur rhyddhad gorgyffwrdd ar sail ffigurau elw hanesyddol yn eich Ffurflenni Treth cynharach.

Cael help i gyfrifo鈥檆h ffigur rhyddhad gorgyffwrdd.

Os na allwch gyfrifo鈥檆h ffigur rhyddhad gorgyffwrdd

Os nad ydych yn gwybod eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd, neu os na allwch ei gyfrifo, ac ni allwch ddod o hyd iddo ar eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad blaenorol, mae鈥檔 bosibl y bydd CThEF yn gallu eich helpu.

Gall y gwasanaeth hwn dim ond darparu ffigur rhyddhad gorgyffwrdd os yw鈥檙 wybodaeth hon eisoes wedi cael ei nodi ar Ffurflen Dreth flaenorol. Os nad yw鈥檙 wybodaeth hon wedi cael ei rhoi, mae鈥檔 bosibl y bydd y gwasanaeth yn gallu darparu ffigurau elw hanesyddol er mwyn eich galluogi chi i gyfrifo rhyddhad gorgyffwrdd.

Byddwn yn adolygu鈥檙 wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni a chysylltu 芒 chi cyn pen 3 wythnos. Gall hyn gymryd mwy o amser os yw鈥檆h achos yn un cymhleth.

Mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2023 i 2024 erbyn y dyddiad cau. Os nad ydych yn gwybod eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd, neu os ydych yn disgwyl i ni ddarparu gwybodaeth, dylech amcangyfrif y rhyddhad gorgyffwrdd a rhoi ffigurau dros dro ar eich Ffurflen Dreth.聽 Newidiwch eich Ffurflen Dreth pan ydych yn gwybod y ffigurau cywir.

Peidiwch 芒 defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn os ydych yn gweithio fel ymddiriedolaeth, yst芒d, neu gwmni dibreswyl sydd ag incwm masnachu. Yn yr achosion hyn,聽dylech gysylltu 芒 CThEF聽i gael gwybod sut i gael eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd.

Cyn i chi ddechrau

I ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch 鈥� os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth i chi ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn am y tro cyntaf.

Fel asiant sy鈥檔 gweithredu ar ran cleient, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio鈥檙 manylion rydych yn eu defnyddio wrth fewngofnodi i鈥檆h cyfrif gwasanaethau asiant neu鈥檆h cyfrif gwasanaethau ar-lein ar gyfer asiantau. Mae鈥檔 rhaid i chi lenwi cais ar wah芒n ar gyfer pob cleient.

Bydd angen i chi roi鈥檙 canlynol:

  • eich enw
  • enw鈥檆h busnes neu ddisgrifiad ohono (neu鈥檙 ddau)
  • cyfeiriad eich busnes
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • UTR y bartneriaeth, os ydych yn bartneriaeth
  • y dyddiad neu flwyddyn dreth y gwnaethoch ddechrau eich busnes unig fasnachwr neu y gwnaethoch ymuno 芒 phartneriaeth
  • y cyfnod cyfrifyddu neu gyfnod sail diweddaraf a ddefnyddiwyd gan y busnes
  • y flwyddyn, neu鈥檙 blynyddoedd, y newidiodd y cyfnod cyfrifyddu (os yw鈥檔 berthnasol)

Bydd gofyn i chi roi manylion cyswllt, a byddwch yn gallu dewis cael ymateb drwy e-bost neu drwy鈥檙 post 鈥� p鈥檜n bynnag dull sydd well gennych.

Ar 么l i chi wneud cais am eich ffigur rhyddhad gorgyffwrdd

Bydd CThEF yn anfon llythyr neu e-bost atoch i gadarnhau. Bydd yr ohebiaeth hon yn cynnwys cyfeirnod eich cyflwyniad. Dylech gadw hwn gan y bydd o gymorth pan fyddwch yn llenwi eich Ffurflen Dreth.

Os ydych wedi cael e-bost cadarnhau, bydd yr e-bost hwnnw yn cynnwys y manylion canlynol er mwyn i chi sicrhau ei fod wedi dod oddi wrth CThEF:

  • eich UTR, wedi鈥檌 olygu i ddangos y 4 digid olaf yn unig
  • llythyren gyntaf eich enw cyntaf
  • eich enw olaf

Os ydych wedi gwneud cais i gael ffigur rhyddhad gorgyffwrdd ar gyfer eich cleient, bydd yr e-bost cadarnhau yn cynnwys manylion eich cleient.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Rhagfyr 2024 show all updates
  1. We have added a link to a tool to help you work out your overlap relief figure.

  2. Information to retain your submission reference after you have requested your Overlap Relief figure has been added.

  3. We've added information about when this service will not be able to provide an Overlap Relief figure.

  4. Made it clearer how an agent can use this service on behalf of a client.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon