Canllawiau

Crynoadau anifeiliaid: trwyddedau

Sut i wneud cais am drwydded, pryd mae angen trwydded arnoch, ffioedd, amodau trwydded a'r cofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Pryd mae angen trwydded crynoadau anifeiliaid arnoch

Os byddwch am gynnal crynhoad anifeiliaid, bydd yn rhaid i鈥檙 safle gael trwydded o dan y Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (AGO) gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Crynhoad anifeiliaid yw pan gaiff rhywogaethau penodol o anifeiliaid eu casglu ynghyd o wahanol leoedd:

  • i鈥檞 gwerthu
  • i鈥檞 hanfon i le arall (er enghraifft, i鈥檞 lladd)
  • i鈥檞 dangos neu eu harddangos
  • i鈥檞 harchwilio i gadarnhau eu bod yn meddu ar nodweddion eu brid (er enghraifft, er mwyn asesu statws pedigri)

Mae鈥檙 rhywogaethau o anifeiliaid yn cynnwys:

  • gwartheg (heb gynnwys buail ac iacod)
  • defaid
  • moch
  • ceirw
  • geifr

Ni chaiff crynoadau dofednod nac adar caeth eraill eu trwyddedu yn yr un modd ond mae鈥檔 rhaid eu cofrestru. Darllenwch y drwydded gyffredinol crynhoad adar (yn Saesneg).

Rhaid i chi gael trwydded crynoadau anifeiliaid os bydd eich crynhoad yn cynnwys dofednod neu adar caeth ac unrhyw un o鈥檙 anifeiliaid a restrir.

Mae鈥檔 drosedd cynnal crynhoad anifeiliaid heb drwydded.

Pryd nad oes angen trwydded arnoch

Nid oes angen trwydded arnoch i gynnal crynhoad anifeiliaid os:

  • bydd yr holl anifeiliaid y deuir 芒 nhw i鈥檙 safle yn dod o un daliad
  • caiff yr anifeiliaid eu gwasgaru o un daliad

Cael trwydded crynoadau anifeiliaid

Cwblhewch y ffurflen gais am drwydded i gynnal crynhoad anifeiliaid (AGO01) a chynllun o鈥檙 safle arfaethedig.

Gallwch gael help gyda ffurflen AGO01 gan APHA.

Anfonwch y ffurflen wedi鈥檌 chwblhau i APHA:

Ar 么l i chi gyflwyno鈥檙 ffurflen, bydd APHA yn trefnu ymweliad gan arolygydd milfeddygol i drafod eich cais ac archwilio鈥檙 safle.

Caiff eich trwydded ei phostio atoch os bydd yr arolygydd milfeddygol yn fodlon y caiff amodau鈥檙 drwydded eu bodloni.

Rhoi rhybudd

O leiaf 14 diwrnod cyn i chi gynnal pob crynhoad anifeiliaid o dan eich trwydded, bydd yn rhaid i chi hysbysu APHA a鈥檆h awdurdod lleol (yn Saesneg) am y canlynol:

  • yr adegau pan fydd y safle trwyddedig ar agor i dderbyn anifeiliaid
  • diben y crynhoad anifeiliaid

Ni fydd angen i chi wneud hyn os cafodd y dyddiadau eu cynnwys yn eich ffurflen gais.

Ffioedd

Os nad ydych wedi鈥檆h eithrio, fel deiliad y drwydded, mae鈥檔 rhaid i chi dalu ffioedd trwyddedu i APHA am eiddo a ddefnyddir i gynnal crynhoad anifeiliaid.

Bydd APHA yn asesu lefel y risg i iechyd anifeiliaid a鈥檙 gwaith sydd angen ei gwblhau i brosesu eich cais. Bydd hyn yn pennu eich ffi. Bydd APHA yn cwblhau archwiliad yn y rhan fwyaf o achosion.

Pan nad oes angen i chi dalu

Nid oes angen i chi dalu am eich trwydded os yw eich crynhoad:

  • mewn sioe neu arddangosfa sydd ar agor i鈥檙 cyhoedd am un diwrnod yn unig ac nad oes anifeiliaid yn cael eu gwerthu neu eu harwerthu
  • i鈥檞 harchwilio i gadarnhau bod yr anifeiliaid yn meddu ar nodweddion penodol eu br卯d

Yr hyn y mae鈥檔 rhaid i chi dalu ffioedd amdanynt

Mae鈥檔 rhaid i chi dalu ffioedd am y canlynol:

  • asesiadau cais am drwydded (p鈥檜n a gaiff eich cais ei gymeradwyo ai peidio)
  • adnewyddu trwydded (blynyddol)
  • addasiadau i drwydded (fel newid enw deiliad y drwydded neu newid y defnydd o鈥檙 safle) - efallai y bydd angen archwiliad ychwanegol
  • archwiliadau ychwanegol os na ellir cyhoeddi trwydded neu ei hailgyhoeddi ar 么l yr archwiliad cyntaf
  • amser teithio鈥檙 arolygydd milfeddygol o hyd at 90 munud

Ffioedd am farchnadoedd neu arwerthiannau a chanolfannau casgliadau

Gwasanaeth Ffioedd
Cais am drwydded neu addasiad (risg isel o glefyd聽). Mae hyn yn cynnwys hyd at 90 munud o amser archwilio. 拢433
Cais am drwydded neu addasiad (mwy na risg isel o glefyd). Yn cynnwys 2 archwiliad o hyd at 90 munud. 拢780
Adnewyddu trwydded flynyddol (risg isel o glefyd) sydd angen un ymweliad archwilio yn unig. Mae hyn yn cynnwys hyd at 75 munud o amser archwilio. 拢387
Adnewyddu trwydded flynyddol (mwy na risg isel o glefyd) sydd angen 2 ymweliad archwilio. Mae鈥檔 cynnwys hyd at 75 munud o amser archwilio. 拢550

Ffioedd ar gyfer sioeau neu arddangosfeydd

Gwasanaeth Ffioedd
Cais am drwydded (risg isel o glefyd). Mae hyn yn cynnwys hyd at 60 munud o amser archwilio. 拢283
Cais am drwydded (mwy na risg isel o glefyd). Mae hyn yn cynnwys hyd at 90 munud o amser archwilio. 拢467
Adnewyddu trwydded flynyddol: nid oes angen ymweliad archwilio. 拢201
Adnewyddu trwydded flynyddol: mae angen ymweliad archwilio sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys hyd at 60 munud o amser archwilio. 拢329
Adnewyddu trwydded flynyddol: angen mwy nag ymweliad archwilio sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys hyd at 60 munud o amser archwilio. 拢329

Ffioedd ychwanegol (ar gyfer pob math o grynhoad)

Noder y bydd amser archwilio ychwanegol y tu hwnt i鈥檙 75 munud cyntaf yn cael ei dalgrynnu i鈥檙 15 munud agosaf. Er enghraifft, bydd amser archwilio ychwanegol o rhwng 1 a 15 munud yn costio 拢224, bydd amser archwilio ychwanegol o rhwng 16 a 30 munud yn costio 拢48 ac yn y blaen. Bydd amser teithio arolygydd milfeddygol yn cael ei dalgrynnu i鈥檙 15 munud agosaf, hyd at uchafswm o 90 munud.

Gwasanaeth Ffioedd
Ymweliad ymchwilio ar gyfer addasu trwydded. Mae hyn yn cynnwys hyd at 75 munud o amser archwilio. 拢362
Ymweliad archwilio ychwanegol ar gyfer cais am drwydded, adnewyddu trwydded flynyddol neu ddiffyg cydymffurfio. Cynnwys hyd at 75 munud o amser archwilio. 拢362
Amser teithio鈥檙 arolygydd milfeddygol. Codir fesul 15 munud, hyd at uchafswm o 拢144. 拢24
Amser archwilio ychwanegol ar 么l y 75 munud cyntaf. Codir fesul 15 munud. 拢24

Amodau trwydded crynoadau anifeiliaid

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio 芒鈥檙 amodau yn eich trwydded. Rhestrir yr amodau hyn ar y ffurflen gais ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • byddwch yn cymryd pob cam rhesymol i atal clefydau rhag lledaenu yn ystod crynoadau anifeiliaid (mesurau bioddiogelwch) - gweler (PDF, 788KB, 6 tudalen)
  • byddwch yn penodi swyddog bioddiogelwch i sicrhau y cydymffurfir ag amodau鈥檙 drwydded (gellir penodi deiliad y drwydded i gyflawni鈥檙 r么l hon)
  • bod ffens o amgylch yr ardal drwyddedig i atal anifeiliaid rhag dianc
  • dim ond mewn cerbyd y bydd anifeiliaid yn dod i mewn i鈥檙 ardal anifeiliaid neu鈥檔 ei gadael (dim ond yn yr ardal anifeiliaid y dylid eu llwytho ar gerbydau neu eu dadlwytho o gerbydau)
  • ni fydd unrhyw anifeiliaid yn cyrraedd ar 么l cyfnod o 48 awr o鈥檙 amser dechrau yr hysbysebodd y safle y bydd ar agor i dderbyn anifeiliaid. Gallwch ofyn i APHA ymestyn y cyfnod hwn o dan rai amgylchiadau
  • byddwch yn cadw cofnodion i鈥檞 gwneud yn bosibl i anifeiliaid gael eu holrhain
  • byddwch yn cydymffurfio 芒 rheolau yngl欧n 芒 lles (yn Saesneg) anifeiliaid ac ni fyddwch yn caniat谩u i anifeiliaid s芒l nac anifeiliaid wedi鈥檜 hanafu gael eu cyflwyno i鈥檞 gwerthu
  • bydd gennych weithdrefnau gweithredol wedi鈥檜 dogfennu gan gynnwys cynlluniau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau anffafriol megis toriad yn y cyflenwad trydan neu鈥檙 goleuadau yn methu, anallu i lanhau a diheintio鈥檔 effeithiol, cludiant yn methu, digwyddiadau sy鈥檔 ymwneud 芒 lles anifeiliaid
  • bydd gennych gynllun wrth gefn ar gyfer yr hyn y byddech yn ei wneud pe bai achos o glefyd hysbysadwy yn cael ei amau yn ystod crynhoad. Mae鈥檔 rhaid i hyn fod yn seiliedig ar y cynllun AGO04 sydd ar gael, o leiaf

Adnewyddu eich trwydded

Bydd eich trwydded yn para am flwyddyn. Chi fydd yn gyfrifol am wneud cais newydd os bydd angen i chi adnewyddu鈥檙 drwydded.

Pa mor aml y gellir cynnal crynoadau anifeiliaid ac am faint o amser

Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod o leiaf 27 diwrnod wedi mynd heibio ers i鈥檙 anifail olaf adael y safle a bod yr holl gyfarpar wedi cael ei lanhau a鈥檌 ddiheintio.

Nid yw鈥檙 rheol yngl欧n 芒 27 diwrnod yn gymwys os yw鈥檙 ardal gyfan wedi鈥檌 phalmantu 芒 deunydd y gellir ei lanhau a鈥檌 ddiheintio鈥檔 effeithiol rhwng crynoadau anifeiliaid ac sy鈥檔 cael ei lanhau a鈥檌 ddiheintio鈥檔 effeithiol rhyngddynt. Mae deunyddiau a dderbynnir yn cynnwys:

  • sement
  • concrid
  • asffalt
  • deunyddiau anhydraidd eraill

Cofnodion y mae鈥檔 rhaid i chi eu cadw

Rhaid i chi gofnodi:

  • enwau a chyfeiriadau pob aelod o staff sy鈥檔 gweithio yn yr ardal anifeiliaid,
  • p鈥檜n a yw鈥檙 staff yn dod i gysylltiad 芒 da byw unrhyw le arall
  • tarddiad yr anifeiliaid sy鈥檔 rhan o bob crynhoad
  • cyrchfan yr anifeiliaid neu, os na fydd ar gael, manylion y prynwr
  • manylion unrhyw gerbydau a ddefnyddir i gludo鈥檙 anifeiliaid fel y gellir eu holrhain os bydd angen

Rhaid i chi sicrhau bod cofnodion yn gyfredol a鈥檜 cadw am 6 mis.

Rhaid i chi roi gwybod am symudiadau anifeiliaid fel y gellir eu cofnodi ar gronfeydd data symudiadau anifeiliaid cenedlaethol:

Cyfleusterau sydd eu hangen ar y safle

Os yw鈥檙 ardal anifeiliaid yn balmantog, mae鈥檔 rhaid i chi sicrhau bod y llawr a鈥檙 holl osodiadau a ffitiadau mewn ardaloedd anifeiliaid:

  • mewn cyflwr da
  • yn gallu cael eu glanhau a鈥檜 diheintio ar 么l pob crynhoad

Dylai fod ardal ar wah芒n ar gyfer glanhau a diheintio cerbydau a ddefnyddir i gludo anifeiliaid. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ardal hon fod yn addas ar gyfer glanhau a diheintio ar 么l pob crynhoad.

Os bydd angen i chi symud anifeiliaid rhwng ardaloedd, rhaid i鈥檙 ardaloedd ateb un o鈥檙 disgrifiadau canlynol:

  • maent yn ffinio 芒鈥檌 gilydd
  • maent wedi鈥檜 cysylltu gan lwybrau cerdded dynodedig

Crynhoi anifeiliaid i鈥檞 lladd

Os byddwch yn cynnal crynhoad lladd sy鈥檔 cynnwys anifeiliaid nad ydynt wedi treulio cyfnod o dan waharddiad symud ar fferm, rhaid iddo gael ei gynnal ar ardal anifeiliaid balmantog. Ni ellir cynnal crynoadau lladd fel rhan o unrhyw fath arall o grynhoad anifeiliaid.

Gwaredu cynhyrchion anifeiliaid

Rhaid gwaredu鈥檙 holl sgil-gynhyrchion anifeiliaid (yn Saesneg), gan gynnwys:

  • porthiant
  • sarn
  • tail
  • unrhyw halogyddion eraill sy鈥檔 deillio o anifeiliaid

Rhaid eu gwaredu drwy ddefnyddio un o鈥檙 dulliau canlynol:

  • eu difa
  • eu gwaredu er mwyn sicrhau na ddaw anifeiliaid i gysylltiad 芒 nhw
  • eu trin er mwyn dileu鈥檙 risg y caiff clefydau eu lledaenu

Rhaid cofnodi鈥檙 dull gwaredu

Pan fydd y crynhoad anifeiliaid wedi dod i ben.

Pan fydd pob crynhoad anifeiliaid a gynhelir o dan eich trwydded wedi dod i ben rhaid i chi sicrhau bod y cyfarpar a鈥檙 ardaloedd palmantog yn cael eu glanhau a鈥檜 diheintio ar 么l i鈥檙 holl anifeiliaid adael y safle a chyn y crynhoad anifeiliaid nesaf.

Cosbau

Os byddwch yn cynnal crynhoad anifeiliaid heb drwydded neu os byddwch yn methu 芒 chydymffurfio ag amodau鈥檙 drwydded gallwch gael eich erlyn.

Efallai y caiff eich trwydded ei hatal dros dro neu ei thynnu鈥檔 么l hefyd ac mae鈥檔 bosibl y bydd yn destun gwaith monitro ychwanegol gan APHA neu鈥檙 cyngor lleol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Rhagfyr 2024 show all updates
  1. Updated the Welsh version of the guidance to reflect increases in fees from 1 December 2024 and clarify wording in fee tables.

  2. Updated to reflect increases in fees from 1 December 2024. Clarified wording in fee tables.

  3. Added translation

  4. Fee information has been removed from the PDF attachment and added to the page. Fees increased on 1 December 2022 and will increase again in December 2023.

  5. Fees document updated.

  6. Added translation

  7. Page translated into Welsh language

  8. Linked to fees document

  9. Amendment made due to requirements of the new Animal Gatherings (Fees) (England) Order 2018 and Animal Gatherings (Fees) Order (Wales) 2018.

  10. Guidance rewritten due to changes in the animal gathering licence process.

  11. AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).

  12. First published.

Argraffu'r dudalen hon