Canllawiau

Cael tystysgrif PDU1 neu ddatganiad cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Gwnewch gais ar-lein i gael tystysgrif PDU1 am fudd-dal diweithdra os ydych yn byw dramor, neu os byddwch yn byw dramor yn y dyfodol, neu i gael datganiad papur o鈥檆h cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais i gael tystysgrif PDU1 i ategu hawliad am fudd-dal diweithdra yn:

  • yr UE
  • Norwy
  • Gwlad yr I芒
  • Y Swistir
  • Liechtenstein

Gallwch hefyd ddefnyddio鈥檙 ffurflen hon i gael datganiad papur o鈥檆h cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer eich cofnodion eich hun.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch ond gwneud cais i gael tystysgrif PDU1 os ydych yn byw y tu allan i鈥檙 DU yn barod neu鈥檔 bwriadu symud cyn pen y 2 wythnos nesaf.

Os ydych yn gwneud cais i gael tystysgrif PDU1, gofynnir i chi am y canlynol:

  • dogfen sy鈥檔 dangos y rheswm dros adael eich cyflogaeth flaenorol yn y 3 blynedd diwethaf, er enghraifft, llythyr sy鈥檔 dweud bod eich cytundeb yn dod i ben
  • tystiolaeth o鈥檆h enillion o鈥檆h swydd fwyaf diweddar, er enghraifft, slip cyflog terfynol, ffurflen P60 neu ffurflen P45

Bydd angen i chi hefyd wybod y dyddiadau roeddech yn byw yn y DU a鈥檆h cyfnodau o hunangyflogaeth neu gyflogaeth yn y DU yn ystod y 3 blynedd diwethaf, gan gynnwys y canlynol:

  • cyfeiriadau eich cyflogwyr
  • bylchau yn eich cyflogaeth

Os oeddech yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol, bydd angen i chi wybod dyddiad eich cyfnod hawlio diwethaf.

Gall gymryd hyd at 6 wythnos i brosesu鈥檆h cais a phostio鈥檆h eich tystysgrif PDU1 neu鈥檆h datganiad cyfraniadau Yswiriant Gwladol atoch.

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn gwneud cais, gan ddefnyddio un o鈥檙 canlynol:

  • Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檆h cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
  • cyfeiriad e-bost

Os nad oes gennych god post yn y DU, bydd angen i chi wybod eich rhif Yswiriant Gwladol i fewngofnodi am y tro cyntaf.

Gallwch gadw鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 nodi a dod yn 么l yn nes ymlaen.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Os na allwch wneud cais ar-lein, cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn am fersiwn bapur o鈥檙 ffurflen gais hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Chwefror 2025 show all updates
  1. The online form CA3916 has been removed. You'll need to contact the National Insurance general enquiries helpline and ask for a paper version of the certificate application form.

  2. Information about when you can apply for a PDU1 certificate or a National Insurance contributions statement and when to expect a PDU1 certificate or National Insurance contributions statement to be processed and posted has been added.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon