Gorffen creu eich cyfrif gwasanaethau asiant os ydych dramor
Os yw eich busnes asiant wedi'i leoli y tu allan i鈥檙 DU a bod CThEM wedi cymeradwyo鈥檆h cais, dylech orffen y broses o greu eich cyfrif gwasanaethau asiant.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i orffen y broses o greu eich cyfrif gwasanaethau asiant, pan fydd CThEM wedi cymeradwyo鈥檆h cais.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch y gwnaethoch eu defnyddio wrth wneud cais am gymeradwyaeth gan CThEM ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant.