Dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi鈥檜 difetha, yn ystod coronafeirws (COVID-19)
Cael gwybod am newidiadau dros dro i ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi鈥檜 difetha, os ydych yn fragwr, yn gynhyrchydd seidr neu win, neu鈥檔 dafarnwr.
Mae CThEM wedi cyflwyno mesur dros dro i helpu gyda dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi鈥檜 difetha, yn ystod coronafeirws, ar gyfer:
- bragwyr
- cynhyrchwyr seidr
- cynhyrchwyr gwin neu win a wnaed
- tafarnwyr
Fel rheol, mae鈥檔 rhaid i berson cyfrifol o鈥檙 bragdy, man cynhyrchu seidr neu windy oruchwylio dinistrio alcohol. Oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae鈥檔 anodd gwneud hyn ar hyn o bryd.
Pwy all ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi鈥檜 difetha
Gallwch nawr benodi鈥檙 tafarnwr neu berson y cytunwyd arno yn y safle i ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi鈥檜 difetha. Does dim rhaid i Gynrychiolydd Awdurdodedig y Cwmni (ACR) fod yn bresennol.
Mae鈥檔 rhaid i chi ddilyn amodau iechyd a diogelwch a chytuno ar hyn gyda鈥檙 person sy鈥檔 ymgymryd 芒鈥檙 dinistrio.
Rhagor o arweiniad ar gyfer tafarnwyr sy鈥檔 dinistrio cwrw sydd wedi鈥檌 ddifetha
Dylid delio 芒 chwrw sydd wedi鈥檌 ddifetha drwy ddilyn yr hierarchaeth gwastraff bwyd a diod, a dylid ystyried gwaredu drwy鈥檙 carthffosydd fel y dewis olaf. Cyn gwneud trefniadau i ddychwelyd neu waredu cwrw neu ei addasu at ddibenion gwahanol, dylech gael caniat芒d gan y bragwr sy鈥檔 berchen ar y dafarn.
Os bydd asesiad risg yn dangos ei bod yn ddiogel cael gwared ar gynwysyddion llawn cwrw o鈥檙 safle, dylech osgoi gwaredu drwy鈥檙 carthffosydd a dylid defnyddio dulliau eraill o ddelio 芒 chwrw sydd wedi鈥檌 ddifetha. Er enghraifft, gellid addasu cwrw sydd wedi鈥檌 ddifetha at ddibenion gwahanol drwy:
- ei ychwanegu at fwyd anifeiliaid 鈥� i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddarparu cwrw sydd wedi鈥檌 ddifetha yn uniongyrchol i ffermydd, cysylltwch 芒 James McCulloch yng Nghydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (Agricultural Industries Confederation) drwy e-bostio: [email protected].
- porthiant ar gyfer treulio anaerobig 鈥� i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddarparu cwrw sydd wedi鈥檌 ddifetha yn uniongyrchol i weithredwyr peirianwaith treulio anaerobig, cysylltwch 芒:
- Jenny Grant yn y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg L芒n (Association for Renewable Energy and Clean Technology), drwy e-bostio: [email protected].
- Sam Hinton yn y Gymdeithas Bioadnoddau a Threulio Anaerobig (Anaerobic Digestion and Bioresources Association), drwy e-bostio: [email protected].
Os nad oes modd addasu鈥檙 cwrw at ddibenion gwahanol, dylech gysylltu 芒鈥檆h cwmni d诺r. Bydd yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut i waredu cwrw鈥檔 ddiogel drwy garthffosydd cyhoeddus.
Gall ceisiadau i gwmn茂au d诺r naill ai gael eu gwneud:
- yn unigol gennych chi, fel tafarnwr
- gan y cwmni gweithredu ar ran mwy nag un safle
Os byddwch chi a鈥檆h cwmni gweithredu yn cyflwyno ceisiadau dyblyg, mae鈥檔 bosibl y bydd oedi i鈥檆h cais.
Am ba hyd y bydd y newid yn berthnasol
Bydd y newid dros dro hwn yn berthnasol tra bo cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn sgil coronafeirws yn dal yn eu lle.^
Bydd CThEM yn rhoi o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn tynnu鈥檙 mesurau dros dro hyn yn 么l.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Mae鈥檔 rhaid i chi barhau i gadw鈥檙 wybodaeth ganlynol:
- llwybr archwilio sy鈥檔 cadarnhau dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed, sydd 芒 tholl wedi鈥檌 thalu
- tystiolaeth o gredyd llawn o鈥檙 doll wedi鈥檌 thalu, neu dystiolaeth o ddarparu nwyddau newydd i鈥檆h cwsmer neu i berchennog y nwyddau yn lle鈥檙 rhai gwreiddiol, ar yr adeg y cawsant eu difetha
- cofnod o鈥檙 cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi鈥檜 difetha
Y dystiolaeth sydd ei hangen arnom
Os byddwch yn hawlio鈥檙 rhyddhad, mae鈥檔 rhaid i chi fod yn fodlon bod yr alcohol wedi鈥檌 ddinistrio a chadw tystiolaeth addas. Er enghraifft, gall tystiolaeth fod ar ffurf fideo. Gall y person y cytunwyd arno yn y safle recordio hwn a鈥檌 roi i鈥檙 bragwr neu鈥檙 cynhyrchydd seidr, gwin neu win a wnaed, ar gyfer ei gofnodion.
Diwygio鈥檆h datganiadau misol
Bragwyr
Gallwch ddiwygio鈥檆h datganiadau misol a chyfrifo鈥檙 doll sydd arnoch drwy ddefnyddio ffurflen EX46.
Cynhyrchwyr seidr a gwin neu win a wnaed
Gallwch ddiwygio鈥檆h datganiadau misol a chyfrifo鈥檙 doll sydd arnoch drwy ddefnyddio ffurflen EX606, os ydych yn un o鈥檙 canlynol:
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am effeithiau鈥檙 gyfraith a鈥檙 rheoliadau sy鈥檔 ymwneud 芒 chynhyrchu, storio a rhoi cyfrif am doll ar y canlynol:
Updates to this page
-
Information about how spoilt beer can be re-purposed has been updated.
-
Additional guidance has been added for publicans destroying spoilt beer.
-
We have added a Welsh language translation.
-
We have amended temporary measures to include cider, wine or made-wine in addition to beer. This includes advice to cider producers and wine and made-wine makers in addition to brewers and publicans.
-
Guidance about what you need to do as a brewer has been updated.
-
First published.