Gwneud eich taliadau Hunanasesiad, gan gynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
Gwiriwch sut i dalu鈥檆h taliadau Hunanasesiad, gan gynnwys eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.
Fel un o fesurau cymorth y llywodraeth yn sgil coronafeirws (COVID-19), cafodd trethdalwyr Hunanasesiad yr opsiwn o ohirio鈥檜 taliad ar gyfrif ar gyfer mis Gorffennaf 2020 tan 31 Ionawr 2021.
Os gwnaethoch ohirio鈥檙 taliad hwn, efallai y gofynnwyd i chi wneud y 3 thaliad canlynol ar 31 Ionawr 2021:
- eich taliad ar gyfrif gohiriedig ar gyfer mis Gorffennaf 2020 (os yw鈥檔 dal i fod heb ei dalu)
- unrhyw gost mantoli ar gyfer 2019 i 2020
- eich taliad ar gyfrif cyntaf ar gyfer 2020 i 2021
Os cawsoch drafferth talu鈥檙 3 thaliad i gyd ar yr un pryd, efallai y byddwch wedi dewis sefydlu trefniant Amser i Dalu fesul rhandaliad gyda CThEM.
Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy drefniant Amser i Dalu
Os ydych yn hunangyflogedig a鈥檆h bod yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, fel arfer byddwch yn talu鈥檙 rhain fel rhan o鈥檆h taliad mantoli blynyddol.
Os ydych yn talu鈥檙 3 thaliad a nodir uchod drwy drefniant Amser i Dalu, caiff eich taliad ar gyfrif gohiriedig ar gyfer mis Gorffennaf ei glirio gyntaf, gan mai hwn sydd 芒鈥檙 dyddiad dyledus hynaf. Mae hyn er mwyn lleihau鈥檙 llog a godir arnoch.
Gallai hyn olygu y caiff eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gyfer 2019 i 2020 eu talu ar 么l eu dyddiad dyledus sef 31 Ionawr 2021. Mae talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar 么l y dyddiad hwnnw yn gallu effeithio鈥檔 andwyol ar rai budd-daliadau cyfraniadol a hawlir.
Os bydd hyn yn effeithio arnoch, cysylltwch 芒 CThEM cyn gynted 芒 phosibl i gael help. Efallai y bydd modd i ni ddyrannu arian yr ydych eisoes wedi鈥檌 dalu mewn perthynas 芒鈥檆h rhwymedigaethau Hunanasesiad ar gyfer 2019 i 2020 yn erbyn y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 sydd arnoch. Efallai y codir swm bach o log arnoch os byddwn yn gwneud hyn, ond dylai鈥檆h hawliad am fudd-dal cyfraniadol gael ei ddiogelu.
Talu fesul rhandaliad
Gallwch dalu鈥檆h treth fesul rhandaliad os nad oeddech yn gallu talu鈥檔 llawn erbyn 31 Ionawr 2021. Os nad ydych wedi cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2019 i 2020, bydd angen i chi ei chyflwyno cyn gynted 芒 phosibl. Byddwn wedyn yn gwybod pa daliadau sydd arnoch, a byddwch yn gallu sefydlu trefniant Amser i Dalu fesul rhandaliad gyda ni.
Os oes arnoch hyd at 拢30,000, gallwch wneud hyn ar-lein hyd at 60 diwrnod ar 么l 31 Ionawr, heb orfod cysylltu 芒 ni鈥檔 uniongyrchol.
Pan fyddwch wedi cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth, bydd angen i chi aros o leiaf 72 awr cyn y byddwch yn gallu sefydlu鈥檆h trefniant Amser i Dalu ar-lein.
Codir cosbau am dalu鈥檔 hwyr pan fydd treth yn parhau i fod heb ei thalu 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis ar 么l dyddiadau dyledus y taliadau. Gallwch osgoi鈥檙 cosbau os gwnewch drefniant Amser i Dalu cyn i鈥檙 taliadau ddod yn ddyledus ac ar yr amod eich bod yn talu鈥檙 holl dreth sy鈥檔 ddyledus o dan y trefniant hwnnw mewn pryd.
Ar gyfer taliadau Hunanasesiad a oedd yn ddyledus ar 31 Ionawr 2021, byddwch yn osgoi鈥檙 gosb gyntaf am dalu鈥檔 hwyr os byddwch yn sefydlu trefniant Amser i Dalu erbyn 2 Mawrth 2021. Gallwch osgoi cosb 6 mis a chosb 12 mis drwy dalu鈥檙 holl dreth sydd arnoch o dan y trefniant hwnnw mewn pryd.
Mae llog yn daladwy ar randaliadau Amser i Dalu, felly dylech wirio鈥檙 cyfraddau llog ar gyfer taliadau hwyr a chynnar.
Rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad.
Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Os ydych fel arfer yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol ond gwnaethoch ddewis gohirio鈥檆h taliad ar gyfrif ar gyfer mis Gorffennaf 2020, dylech fod wedi canslo鈥檆h Debyd Uniongyrchol drwy鈥檆h banc fel na fyddem wedi casglu鈥檔 awtomatig unrhyw daliad a oedd yn ddyledus.
Gallwch adfer y Debyd Uniongyrchol hwnnw os ydych am ailddechrau gwneud taliadau ar gyfrif drwy鈥檙 dull hwn yn y dyfodol.
Talu drwy鈥檆h cod treth
Gallwch dalu鈥檆h bil treth Hunanasesiad drwy鈥檆h cod treth TWE, ar yr amod bod y canlynol i gyd yn berthnasol:
- mae arnoch lai na 拢3,000 ar eich bil treth
- rydych eisoes yn talu treth drwy TWE, er enghraifft, rydych yn gyflogai neu鈥檔 cael pensiwn cwmni
- gwnaethoch gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth ar bapur erbyn 31 Hydref, neu鈥檆h Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr
Wedyn, bydd y swm sy鈥檔 ddyledus yn cael ei gasglu dros gyfnod o 12 mis yn lle bod angen i chi dalu鈥檙 cyfan ar unwaith.
Sut i gael help
Os na allwch dalu鈥檆h rhwymedigaethau Hunanasesiad yn llawn
Dylech gysylltu 芒 CThEM cyn gynted ag y gallwch os na allwch dalu鈥檆h treth Hunanasesiad. Rydym yn benderfynol o helpu鈥檔 cwsmeriaid gymaint 芒 phosibl. Gallai鈥檙 help hwnnw olygu sefydlu trefniant Amser i Dalu fesul rhandaliad gyda chi.
Os ydych eisoes wedi sefydlu trefniant Amser i Dalu a鈥檆h bod yn ei chael hi鈥檔 anodd talu鈥檙 rhandaliadau y cytunwyd arnynt, cysylltwch 芒 CThEM.
Gostwng eich taliadau ar gyfrif ar gyfer 2020 i 2021
Mae鈥檆h taliadau ar gyfrif yn seiliedig ar eich bil treth o鈥檙 flwyddyn flaenorol. Os yw coronafeirws wedi effeithio ar eich sefyllfa ariannol, mae鈥檔 bosibl y bydd gennych rwymedigaeth treth is ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021. Efallai y byddwch am ofyn i CThEM ostwng eich taliadau ar gyfrif ar gyfer 2020 i 2021.
Rhagor o wybodaeth am daliadau ar gyfrif.
Cael help ar-lein
Defnyddiwch i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws.
Gallwch hefyd gysylltu 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM i gael help a chyngor.
Updates to this page
-
The pay in instalments section has been updated to show you can set up a Time to Pay arrangement online for amounts up to 拢30,000 up to 60 days after 31 January 2021 without having to contact us.
-
Information about payment of Class 2 National insurance contributions through a Time to Pay arrangement has been added and the Pay in instalments section has been updated.
-
Added translation
-
We have updated the guidance on what you need to do after 31 July 2020 if you chose to defer your second payment on account for the 2019 to 2020 tax year.
-
More information about the July 2020 payment on account deferment has been added.
-
First published.