Galluogrwydd Radar Uwch y Gofod Pell (DARC)
Mae cynigion yn cael eu datblygu gan Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) y DU ynghylch dyfodol Barics Cawdor fel rhan o raglen Gallu Radar Uwch y Gofod Pell (DARC).
Ym mis Rhagfyr 2023, cyhoeddodd y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Awstralia y byddent yn creu rhaglen Galluogrwydd Radar Uwch y Gofod Pell (DARC). Bydd DARC yn golygu bod modd canfod, adnabod a thracio gwrthrychau yn orbit y Ddaear.聽Mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnig cartrefu safle DARC y Deyrnas Unedig yn hen Farics Cawdor yn Sir Benfro, ac ailwampio鈥檙 safle i ddarparu ar gyfer y cyfleusterau DARC newydd.
DARC fydd conglfaen gallu鈥檙 Deyrnas Unedig i ganfod, i adnabod ac i dracio gwrthrychau yn orbit y Ddaear, gan gynnwys lloerennau, malurion gofod ac asteroidau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i allu gweithredu gwasanaethau yn y gofod yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys lloerennau sy鈥檔 cael eu defnyddio i ddarparu cymorth seilwaith allweddol yn y DU (fel cydlynu gwasanaethau brys, diogelwch cenedlaethol, rhagolygon tywydd, amaethyddiaeth, monitro amgylcheddol, a chymorth logisteg) yn ogystal 芒 gwasanaethau defnyddwyr bob dydd (fel llywio, rhyngrwyd band eang, gwasanaeth cellog o loerennau, a delio 芒鈥檙 gadwyn gyflenwi).
Bydd defnyddio tri safle ar gyfer DARC (yn y DU, UDA ac Awstralia) yn golygu bod modd gweld 360 gradd o鈥檙 awyr drwy鈥檙 amser beth bynnag yw amodau鈥檙 tywydd. Mae cyfraniad y Deyrnas Unedig at y prosiect hwn yn hanfodol i鈥檞 lwyddiant.
Mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnig cartrefu prif gyfraniad y Deyrnas Unedig i DARC yn safle Barics Cawdor yn Sir Benfro. Byddai hyn yn golygu bod y safle鈥檔 parhau鈥檔 weithredol y tu hwnt i鈥檙 dyddiad cau gwreiddiol sef 2028. Mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnig buddsoddi yn safle鈥檙 maes awyr ym Marics Cawdor a鈥檌 ailwampio i ddarparu ar gyfer DARC. Bydd presenoldeb DARC yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ac uwchsgilio yn y gymuned leol ar draws pob sector. Bydd y rhain yn cynnwys gweithrediadau a rheoli gweithrediadau, technoleg gwybodaeth a chyfrifiadura perfformiad uchel, adnoddau dynol, logisteg, a chyfleusterau.
Mae holl brosiectau鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn proses cynllunio a sicrwydd amgylcheddol gaeth, y cytunir arni gyda鈥檙 Cyngor lleol, i sicrhau bod y cyfleusterau arfaethedig yn ddiogel ac yn addas i鈥檞 defnyddio. Gwneir pob ymdrech i leihau鈥檙 ymyrraeth neu鈥檙 effaith ar y gymuned leol yn ystod y gwaith adeiladu a gweithredu.
Mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn eisoes wedi dechrau Asesiad cynhwysfawr o鈥檙 Effaith Amgylcheddol ar gyfer y bwriad i ailddatblygu Barics Cawdor.聽 Mae hyn yn cynnwys Asesiad o鈥檙 Effaith Weledol a鈥檙 Effaith ar y Dirwedd i sicrhau bod prosiect y DARC yn cael cyn lleied o effaith 芒 phosibl ar y nenlinell leol.聽聽
Bydd y dogfennau hyn yn cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Penfro fel rhan o鈥檙 broses gynllunio, a bydd eu cymeradwyaeth yn amodol ar ddangos bod DARC wedi bodloni鈥檙 holl safonau diogelwch ac effaith amgylcheddol gofynnol.
Bydd DARC yn bownsio tonnau radio oddi ar wrthrychau yn y gofod i鈥檞 canfod, eu tracio a鈥檜 nodweddu.
Mae鈥檙 tonnau radio a ddefnyddir gan DARC yn ymbelydredd nad yw鈥檔 茂oneiddio. Nid ydynt yn beryglus i iechyd, oherwydd nid oes ganddynt ddigon o ynni i achosi 茂oneiddio niweidiol. Mae tonnau radio yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o ddyfeisiau cartref, gan gynnwys ffonau symudol, WiFi a GPS.
Ar ben hynny, bydd prosesau diogelwch y Weinyddiaeth Amddiffyn yn sicrhau bod DARC yn bodloni safonau amgylcheddol ac iechyd rhyngwladol ar gyfer ymbelydredd nad yw鈥檔 茂oneiddio, gan gynnwys y rheini a bennir gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd nad yw鈥檔 脧oneiddio (ICNIRP) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Byddai lefelau ymbelydredd nad yw鈥檔 茂oneiddio yn yr ardal o amgylch safle DARC yn llai neu鈥檔 hafal i鈥檙 hyn a geir wrth ddefnyddio ff么n symudol, sy鈥檔 golygu nad yw鈥檔 cyflwyno perygl i鈥檙 cyhoedd yn yr ardal.
Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio gyda鈥檙 gymuned leol a Chyngor Sir Penfro drwy gydol y gwaith o gynllunio ac adeiladu a gweithredu cyfleuster DARC.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad gwybodaeth gyhoeddus ym mis Medi 2024, cyn y cyfnod ymgynghori statudol (a fydd yn cael ei gynnal yn 2025).
Updates to this page
-
Updated information on the refurbishment of Cawdor Barracks to accommodate DARC. Added video: National Space Operations Centre (NSpOC).
-
Webpage updated with most recent information.
-
Added: Proposal document and link to consultation event feedback form.
-
Added translation