Canllawiau

Codau dilysu cwmni ar gyfer ffeilio ar lein

Sut i ofyn am y cod dilysu y bydd ei angen arnoch i ffeilio gwybodaeth cwmni ar lein gyda Th欧鈥檙 Cwmn茂au, a sut i reoli鈥檙 cod.

Mae鈥檙 cod dilysu鈥檔 god alffaniwmerig 6 digid a roddir i bob cwmni oddi wrthym. Defnyddir y cod i awdurdodi gwybodaeth sy鈥檔 cael ei ffeilio ar lein ac mae鈥檔 cyfateb i lofnod un o swyddogion y cwmni.

Bydd angen cod arnoch i ffeilio gwybodaeth gan ddefnyddio neu feddalwedd trydydd parti.

Peidiwch ag aros hyd nes ei bod yn bryd i chi ffeilio gwybodaeth cyn 鈥� mae perygl y bydd yn rhy hwyr.

Sut i gael cod dilysu eich cwmni

I wneud cais am god, bydd angen i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i a dilyn y camau.

Byddwn yn anfon eich cod drwy鈥檙 post i swyddfa gofrestredig eich cwmni - gall gymryd hyd at 5 diwrnod i gyrraedd. Os oes gan eich cwmni god eisoes, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch.

Ni allwn anfon eich cod dilysu trwy e-bost neu ddweud y cod wrthych dros y ff么n.

Defnyddio eich cod

Byddwch yn defnyddio鈥檙 un cod dilysu ar gyfer eich cwmni gan ddefnyddio:

I ddefnyddio meddalwedd trydydd parti, bydd angen i chi sefydlu cyfrif ffeilio ar-lein i gael rhif adnabod cyflwynydd a chod dilysu cyflwynydd.

Ni allwch ddefnyddio eich Cyfrif Porth y Llywodraeth i anfon gwybodaeth T欧鈥檙 Cwmn茂au ar-lein.

Newid neu ganslo eich cod

Mewngofnodwch i i newid neu ganslo eich cod. Gallwch newid eich cod i rywbeth mwy cofiadwy, ond peidiwch 芒鈥檌 gwneud hi鈥檔 hawdd dyfalu.

Rhaid i chi ddweud wrth unrhyw un arall sy鈥檔 ffeilio ar-lein ar gyfer eich cwmni (fel cyfrifydd) os ydych chi鈥檔 newid eich cod. Ni fyddant yn gallu defnyddio鈥檙 hen god dilysu ar 么l iddo gael ei newid.

Edrych ar 么l eich cod

Dylech drin cod dilysu鈥檆h cwmni yr un mor ofalus ag y byddech yn trin rhif PIN eich cerdyn banc. Gall unrhyw un sy鈥檔 gwybod beth yw鈥檆h cod newid manylion eich cwmni ar lein.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer edrych ar 么l eich cod dilysu:

  • defnyddiwch gymysgedd o lythrennau a rhifau fel nad yw鈥檔 hawdd dyfalu鈥檆h cod
  • peidiwch 芒 rhannu鈥檆h cod ond gyda rhywun rydych chi鈥檔 ymddiried ynddo i ffeilio gwybodaeth dros eich cwmni
  • os bydd rhywun nad ydych yn ymddiried ynddo yn cael gwybod beth yw鈥檆h cod, newidiwch ef
  • newidiwch eich cod os yw鈥檔 hysbys i rywun nad yw wedi鈥檌 awdurdodi mwyach i ffeilio gwybodaeth dros eich cwmni (e.e. staff sydd wedi gadael eich cwmni neu鈥檆h hen gyfrifydd)

Ni fyddwn byth yn gofyn i chi beth yw鈥檆h cod dilysu dros y ff么n.

Os yw rhywun yn cysylltu 芒 chi gan ofyn am eich cod a chan honni ei fod oddi wrthym, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Medi 2022 show all updates
  1. New WebFiling account introduced on Monday 12 September - guidance on how to request and manage company authentication codes updated.

  2. Users can request to have the authentication code sent to a home address instead of the company's registered office. This is a temporary service in response to the coronavirus (COVID-19) outbreak.

  3. Links added to guidance.

  4. Guidance added for the Christmas holiday period.

  5. Screenshot added.

  6. Welsh translation added.

  7. First published.

Argraffu'r dudalen hon