Cylch 2 y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: sut i fynegi eich diddordeb mewn gwneud cais
Mae鈥檙 gronfa hon yn helpu grwpiau cymunedol i brynu neu adnewyddu asedau a fyddai鈥檔 cael eu colli i鈥檙 gymuned, fel arall.
Crynodeb o鈥檙 Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
Mae鈥檔 rhaid i chi ddarllen y manylion llawn am y gronfa yn y prosbectws cyn dechrau eich mynegiad o ddiddordeb. Mae鈥檙 prosbectws yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am ein meini prawf cymhwysedd.
Mae鈥檙 gronfa hon yn helpu grwpiau cymunedol i brynu neu adnewyddu asedau a fyddai鈥檔 cael eu colli i鈥檙 gymuned, fel arall.
Mae asedau鈥檔 lleoliadau a mannau cyfarfod a ddefnyddir gan y gymuned leol, er enghraifft:
- canolfannau cymunedol
- sinem芒u a theatrau
- orielau
- amgueddfeydd
- lleoliadau cerddoriaeth
- parciau
- adeiladau swyddfa bost
- tafarnau
- siopau
- cyfleusterau chwaraeon a hamdden
Dyma rai o鈥檙 ffyrdd y gallai ased gael ei golli:
- os oes posibilrwydd y gallai gael ei gau
- os oes posibilrwydd y gallai gael ei werthu
- os yw鈥檔 cael ei esgeuluso
- os yw mewn perygl o ddifrod neu ddymchwel
- os nad yw鈥檔 cael ei weithredu mewn ffordd gynaliadwy
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ased gynnig gwerth i bobl leol. Mae鈥檔 rhaid i chi allu ei redeg yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Sut i ddechrau cais
Cyn i chi allu gwneud cais, mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno mynegiad o ddiddordeb. Ffurflen fer yw hon sy鈥檔 caniat谩u i ni roi gwybod i chi os ydych yn gymwys o fewn tua 3 wythnos. Mae鈥檙 cam mynegi diddordeb yn newydd yng nghylch 2. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn ar gyfer y gronfa.
Mae tua 30 o gwestiynau, a disgwyliwn y bydd yn cymryd tua 10 munud i chi eu cwblhau. Atebwch bob cwestiwn yn gywir ac yn onest.
Byddwn yn gofyn i chi am:
- eich ased
- eich sefydliad
- eich prosiect
- eich anghenion ariannu
Gall unrhyw un o Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon fynegi diddordeb mewn gwneud cais. Mae鈥檙 broses yr un fath ym mhob ardal.
Os ydych yn bwriadu gwneud cais ar y cyd 芒 sefydliad arall, dim ond un o鈥檙 sefydliadau all gyflwyno mynegiad o ddiddordeb.
Gallwch gynllunio ar gyfer gwneud cais am fwy nag un ased, ond mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno mynegiad o ddiddordeb ar gyfer pob un.
Gallwch fynegi eich diddordeb unrhyw bryd. Os byddwch yn llwyddiannus, fe鈥檆h gwahoddir i gyflwyno cais llawn, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny鈥檔 syth, felly dewiswch yr adeg iawn ar gyfer eich prosiect. Edrychwch ar amseriadau鈥檙 cyfnodau cynnig ar gyfer y cam ymgeisio llawn yn y prosbectws. Er enghraifft, os ydych yn bwriadu gwneud cais yn ystod cyfnod cynnig 3, bydd angen i chi fynegi eich diddordeb o leiaf 3 wythnos cyn y dyddiad cau, sef 14 Ebrill 2023.
Os dymunech wneud cais yn Gymraeg, bydd fersiwn Cymraeg o鈥檙 porthladd ar gael o鈥檙 wythnos nesaf ymlaen.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Gallwch ddisgwyl ymateb i鈥檆h mynegiad o ddiddordeb o fewn 3 wythnos.
Os ydych:
- yn llwyddiannus, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais ar adeg sy鈥檔 iawn i chi
- yn aflwyddiannus, ni fyddwn yn eich gwahodd i wneud cais, ond byddwn yn cynnwys adborth sy鈥檔 esbonio pam nad ydych yn gymwys
O鈥檙 hydref 2022 ymlaen, bydd gennym ddarparwr cymorth datblygu annibynnol a fydd ar gael i gynorthwyo rhai sefydliadau i ddatblygu eu prosiectau os byddant yn llwyddiannus ar y cam mynegi diddordeb.
Os byddwch yn llwyddiannus cyn i鈥檙 darparwr cymorth fod ar gael, gallwch naill ai wneud cais yn syth neu aros iddo fod ar gael yn 2023 er mwyn elwa o鈥檌 gymorth.
Gofyn cwestiwn am eich mynegiad o ddiddordeb
E-bost: [email protected]
Ceisiwn ymateb i bob ymholiad o fewn 5 niwrnod gwaith.