Canllawiau

Hawlio Treth Incwm yn 么l ar daliad buddiant marwolaeth pensiwn a gyrchir yn hyblyg P55(DB)

Sut i hawlio ad-daliad yn y flwyddyn dreth bresennol ar gyfandaliad buddiant marwolaeth.

Gallwch hawlio鈥檔 么l y dreth sydd arnom i chi os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi cymryd taliad budd-dal marwolaeth pensiwn a gyrchir yn hyblyg
  • rydych wedi cymryd rhan o鈥檆h cronfa budd-dal marwolaeth pensiwn yn unig, ac ni fyddwch yn cymryd taliadau rheolaidd
  • nid yw鈥檙 corff pensiwn yn gallu gwneud ad-daliad treth

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i gael gwybod am incwm yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth y cawsoch eich daliad buddiant marwolaeth pensiwn a gyrchir yn hyblyg (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Cadwch unrhyw waith papur sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檆h hawliad nes ein bod wedi cwblhau鈥檙 gwiriadau hyn.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth:

  • peidiwch 芒 chynnwys unrhyw incwm Hunanasesiad sydd wedi鈥檌 amcangyfrif yn eich hawliad, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo鈥檆h ad-daliad
  • bydd dal angen i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy鈥檔 ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw鈥檙 amser i鈥檞 talu 鈥� gallwch ofyn i ni ddefnyddio鈥檆h ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif
  • dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi鈥檌 gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf
  • mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach

Os oes gennych incwm TWE (Talu Wrth Ennill) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo鈥檆h ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
  • enw a chyfeiriad eich enwebai 鈥� os nad ydych am i鈥檙 ad-daliad cael ei anfon i鈥檆h cyfeiriad

Bydd angen i chi hefyd rhoi gwybod i ni faint rydych yn disgwyl ei gael o鈥檙 canlynol:

  • incwm o gyflogaeth
  • incwm o hunangyflogaeth
  • incwm o bensiynau鈥檙 DU
  • budd-daliadau trethadwy鈥檙 wladwriaeth 鈥� megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd
  • llog wedi鈥檌 drethu ar incwm o gynilion a buddsoddiadau yn y DU
  • llog heb ei drethu ar gynilion yn y DU
  • difidendau o gwmn茂au yn y DU
  • unrhyw incwm arall
  • taliadau Rhodd Cymorth

Dylech ddefnyddio:

  • ffigurau wedi鈥檜 hamcangyfrif os nad oes gennych y ffigurau terfynol
  • rhifau cyfan, wedi鈥檜 talgrynnu i lawr i鈥檙 bunt agosaf

Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu 芒 chi os yw鈥檙 swm yn wahanol.

Dulliau o hawlio

I ddechrau eich hawliad ar-lein.

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi鈥檙 ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw鈥檆h cynnydd.

  2. Llenwch .

  3. Argraffwch y ffurflen a鈥檌 hanfon drwy鈥檙 post at CThEF gan ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein


  1. Argraffwch y ffurflen.

  2. Llenwch y ffurflen 芒 llaw.

  3. Anfonwch y ffurflen drwy鈥檙 post i CThEF (mae鈥檙 cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Yr hyn sy鈥檔 digwydd ar 么l i chi hawlio

Unwaith bod eich hawliad (wedi鈥檌 gwblhau) yn dod i law, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu 芒 chi.

Gall gymryd 30 diwrnod i gael ymateb. Peidiwch 芒 chysylltu 芒 ni yn ystod y cyfnod hwnnw i weld hynt eich hawliad.

Byddwn yn anfon siec atoch chi neu鈥檆h enwebai.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2025 show all updates
  1. The P55 form has been updated for the 2024 to 2025 tax year.

  2. The P55(DB) form has been updated for the 2023 to 2024 tax year.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon