Canllawiau

Gwiriwch pa help ariannol gallwch ei gael gan CThEM

Dysgwch am y rhyddhadau treth a chymorth ariannol sydd ar gael gan CThEM.

Help gyda gofal plant

Budd-dal Plant

Gallwch hawlio Budd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am fagu plentyn sydd:

  • o dan 16
  • o dan 20 os yw鈥檔 parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy

Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn.

Caiff ei dalu bob 4 wythnos a does dim terfyn ar nifer y plant y gallwch hawlio ar eu cyfer.

Gofal Plant sy鈥檔 Rhydd o Dreth

Gallwch gael hyd at 拢500 bob 3 mis (hyd at 拢2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o鈥檆h plant, i helpu gyda chostau gofal plant. Mae hyn yn codi i 拢1,000 bob 3 mis os yw plentyn yn anabl (hyd at 拢4,000 y flwyddyn).

Hawlio rhyddhad treth ar dreuliau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith

Dysgwch sut i hawlio rhyddhad treth ar arian rydych wedi ei wario ar bethau megis gwisg a dillad gwaith, offer, tanysgrifiadau neu deithio ar gyfer busnes.

Hawlio Lwfans Priodasol

Mae Lwfans Priodasol yn caniat谩u i chi drosglwyddo 10% (拢1,260) o鈥檆h lwfans treth personol i鈥檆h g诺r, gwraig neu bartner sifil os ydych yn ennill llai na鈥檙 lwfans treth personol, sydd fel arfer yn 拢12,570.

Help gyda chynilion

Cael help gyda chynilion os ydych ar incwm isel (Cymorth i Gynilo)

Cyfrif cynilo yw Cymorth i Gynilo. Os oes gennych yr hawl i gael Credyd Treth Gwaith, neu os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallwch gael bonws o 50c am bob 拢1 yr ydych yn ei gynilo dros 4 blynedd.

Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo hirdymor sy鈥檔 rhydd o dreth ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011.

I鈥檙 rhai sydd 芒 chyfrif ond nad ydynt yn gwybod pwy yw darparwr y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, neu os nad ydych yn si诺r a oes gennych un ai peidio, gallwn eich helpu i ddarganfod hyn.

Cael help os na allwch dalu鈥檆h bil treth

Os na allwch dalu, cysylltwch 芒 CThEM cyn gynted 芒 phosibl. Rydym yma i helpu ac mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu talu鈥檙 hyn sydd arnoch fesul rhandaliad, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a鈥檙 hyn y gallwch ei fforddio.

Dysgwch yr hyn i鈥檞 wneud os na allwch dalu鈥檆h bil treth mewn pryd

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Ebrill 2022 show all updates
  1. Published Welsh version.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon