Canllawiau

Gwiriwch os oes angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd

Cael gwybod a oes angen i鈥檆h busnes gofrestru gyda CThEF i dalu鈥檙 Ardoll Troseddau Economaidd.

Mae鈥檙 Ardoll Troseddau Economaidd yn berthnasol i fusnesau sydd o dan oruchwyliaeth Rheoliadau Gwyngalchu Arian (yn agor tudalen Saesneg).

Pwy yw鈥檙 rhai nad oes angen iddynt gofrestru gyda CThEF

Nid oes angen i chi gofrestru gyda CThEF ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd os ydych o dan oruchwyliaeth Rheoliadau Gwyngalchu Arian gan unrhyw un o鈥檙 awdurdodau casglu canlynol:聽

  • yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
  • y Comisiwn Hapchwarae
  • CThEF a鈥檙 FCA
  • CThEF a鈥檙 Comisiwn Hapchwarae

Mae angen i chi ddilyn arweiniad yr FCA, neu arweiniad y Comisiwn Hapchwarae, a thalu鈥檙 ardoll i un o鈥檙 awdurdodau casglu hyn.

Peidiwch 芒 chofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, cyflwyno datganiadau Ardoll Troseddau Economaidd, na thalu鈥檙 Ardoll Troseddau Economaidd i CThEF.

Pwy yw鈥檙 rhai sydd angen cofrestru gyda CThEF

Mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru gyda CThEF os yw swm eich refeniw yn y DU dros 拢10.2 miliwn ar gyfer yr holl gyfnodau cyfrifyddu sy鈥檔 dod i ben cyn pen un flwyddyn ariannol, a bod eich busnes yn cael ei reoleiddio gan y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • CThEF, at ddibenion gwrth-wyngalchu arian
  • corff proffesiynol, at ddibenion gwrth-wyngalchu arian

Mae鈥檙 flwyddyn ariannol yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Os nad yw鈥檆h cyfnod cyfrifyddu yn rhedeg am 12 mis, caiff y trothwy o 拢10.2 miliwn ei ddiweddaru ar sail pro rata gan ddefnyddio nifer y diwrnodau sydd yn y cyfnod cyfrifyddu perthnasol.

Unwaith yn unig sydd angen i chi gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd, ond bydd angen i chi gyflwyno datganiad a thalu鈥檙 ardoll bob blwyddyn.

Os ydych yn rhan o gr诺p busnes

Bydd yr ardoll ond yn berthnasol i aelodau o鈥檙 gr诺p sy鈥檔 bodloni鈥檙 gofynion ar gyfer cofrestru.

Mae鈥檔 rhaid i bob aelod o鈥檙 gr诺p busnes gofrestru, cyflwyno datganiadau blynyddol a thalu鈥檙 Ardoll Troseddau Economaidd ar wah芒n.

Os ydych yn rhan o bartneriaeth

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 partner enwebedig gofrestru, cyflwyno datganiadau blynyddol a thalu鈥檙 Ardoll Troseddau Economaidd ar ran y bartneriaeth.

Sut i gofrestru

Dysgwch sut i gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2024 show all updates
  1. Added clarification about entities who do not need to register for the Economic Crime Levy. Moved section about the amount to pay to the 'Pay your Economic Crime Levy' page.

  2. A translation has been added.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon